Mae Alka Ahuja MBE yn seiciatrydd Plant a Phobl Ifanc Ymgynghorol, ac mae ganddi rolau gyda Technology Enabled Care Cymru, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Mae ei diddordebau yn cynnwys ymchwil ansoddol, anhwylderau niwroddatblygiadol, a chyd-gynhyrchu mewn gofal iechyd ac iechyd digidol. Mae hi wedi cyhoeddi mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid, a dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaethau i’r GIG yn ystod y pandemig.
Mae Dr Seema Arif yn arbenigo mewn radiotherapi, cemotherapi ac imiwnotherapi. Mae hi’n arbenigwr mewn technegau radiotherapi uwch, ac mae hi wedi bod yn rhan o dreialon clinigol cenedlaethol a rhyngwladol. Gweithredodd driniaeth radiotherapi stereotactig abladol y corff cyntaf yr afu (union dargedu therapi ymbelydredd) yng Nghymru, lle mae hi hefyd yn gweithredu fel arweinydd ym maes canser y colon a’r rhefr.
Chwaraeodd rôl flaenllaw i Goleg Brenhinol y Radiolegwyr yn ystod y pandemig, ac mae hi wedi lansio cwrs sydd wedi cael ei achredu gan Goleg Brenhinol y Radiolegwyr yn India a Hong Kong, yn ogystal â chyflwyno offer ymwybyddiaeth BAME i ddosbarthiadau ESOL.
Derbyniodd MBE yn 2022 am ei gwasanaethau i ofal iechyd ymhlith y cymunedau Duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Mae’r Athro Deglurkur yn Llawfeddyg Cardiothorasig Ymgynghorol, sydd â diddordeb arbennig mewn llawfeddygaeth aortig a llawfeddygaeth risg uchel mewn octogenariaid. Mae hi wedi perfformio dros 2000 o lawdriniaethau calon agored, gyda chanlyniadau gwych.
Mae gan yr Athro Deglurkur Gymrodoriaeth Arweinyddiaeth Uwch ar gyfer Uwch Weithredwyr o Ysgol Fusnes Harvard, a nifer o rolau arweinyddiaeth ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, gyda’r nod o wella gofal cleifion, tegwch mynediad a lles staff.
Darllenwch fwy am waith Miss Deglurkar.
Rwy'n falch iawn ac yn teimlo anrhydedd o gael fy ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'r holl aelodau a chyfrannu at waith y Gymdeithas.
Miss Indu Deglurkar
Dr Edwards oedd Pennaeth a Phrif Weithredwr cyntaf Coleg Menai. Yn dilyn ei yrfa arwain yn y sector addysg bellach, cyfrannodd hefyd at fywyd cyhoeddus yng Nghymru, fel is-lywydd ac ymddiriedolwr Amgueddfa Cymru, cyfarwyddwr anweithredol Estyn, a chadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae wedi datblygu polisïau i Lywodraeth Cymru hefyd, trwy gadeirio nifer o adolygiadau sydd wedi arwain at newidiadau sylweddol mewn meysydd fel Cymraeg i Oedolion, amgueddfeydd mewn llywodraeth leol, a’r gwasanaeth gyrfaoedd.
Sumit Goyal yw’r arweinydd canser y fron presennol yng Nghymru yn ogystal â’r Llawfeddyg Sicrhau Ansawdd presennol ar gyfer sgrinio canser y fron Cymru gyfan. Mae wedi codi dros filiwn o bunnoedd i elusen canser y fron, sefydlodd y ganolfan y fron gyntaf yng Nghymru, ac arweiniodd ar sefydlu rhaglen ymarfer corff ar gyfer cleifion canser y fron. Mae wedi cyhoeddi a chyflwyno yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn ogystal â bod yn brif ymchwilydd ar sawl treial.
Treuliodd yr Athro Syr Deian Hopkin 44 mlynedd fel rheolwr academaidd ac uwch mewn chwe phrifysgol wahanol, gan ymddeol fel Is-Ganghellor Prifysgol South Bank Llundain. Mae ei brif ddiddordebau academaidd mewn hanes a gwleidyddiaeth fodern, y wasg, y Mudiad Llafur yng Nghymru a’r defnydd o dechnoleg gwybodaeth mewn addysg. Mae wedi bod yn ymwneud yn helaeth â gwasanaethau cyhoeddus, rheolaeth sefydliadol ac ymddiriedolaethau elusennol yng Nghymru a Lloegr hefyd, tra hefyd yn cynghori gweinidogion y llywodraeth ar bolisi.
Mae'n anrhydedd cael fy ethol i ymuno â Chymrodoriaeth sy'n ymgorffori'r gorau mewn ysgolheictod a menter mewn perthynas â Chymru. Rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu, cystal ag y gallaf, at hyrwyddo gwaith a gwerthoedd y Gymdeithas Ddysgedig, yn enwedig y tu hwnt i ffiniau Cymru.
Yr Athro Syr Deian Hopkin
Gastroenterolegydd academaidd yw’r Athro Williams, a chanddo ddiddordebau ymchwil ym maes canlyniadau cleifion, darparu gwasanaeth a chofnodion meddygol. Fe’i ganed yn Abertawe, a dychwelodd ym 1988 i sefydlu Ysgol Feddygol Ôl-radd, a osododd y sylfeini ar gyfer yr Ysgol Feddygol Mynediad i Raddedigion. Mae wedi dylanwadu ar ddatblygiadau strategol yn Abertawe ac yng Nghymru, yn arbennig datblygiad addysg feddygol, ymchwil glinigol, darparu gwasanaethau, a chofnodion cleifion electronig, ac wedi helpu i adeiladu trefniadaeth a dylanwad gwleidyddol gastroenterolegwyr a meddygon yng Nghymru.