Croeso i'n Cymrodyr Newydd

Gan gyflwyno pedwar o Gymrodyr newydd sydd wedi eu hethol i’r Gymdeithas yn 2024, sy’n gweithio o fewn meddygaeth a’r gwyddorau meddygol.

Yr Athro Stephan Collishaw FLSW

Athro
Prifysgol Caerdydd

Mae ymchwil yr Athro Collishaw yn edrych ar ddatblygiad dynol yn ystod cwrs bywyd, er mwyn astudio problemau iechyd meddwl cyffredin, gan gynnwys iselder a gorbryder.  Mae’n casglu data parhaus gan grwpiau poblogaeth, i astudio sut mae problemau iechyd meddwl yn datblygu ar draws plentyndod, glasoed ac i fod yn oedolyn. Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn ffyrdd o hyrwyddo gwytnwch iechyd meddwl mewn plant risg uchel. Mae ei ymchwil yn archwilio newid yn lefel y boblogaeth yn iechyd meddwl pobl ifanc, ac yn profi esboniadau ar gyfer y cynnydd mewn gorbryder ac iselder ymysg pobl ifanc.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Collishaw.

Mae'n anrhydedd cael fy ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae gwaith y Gymdeithas o hyrwyddo creadigrwydd a dysgu yn y celfyddydau a'r gwyddorau yn werthfawr dros ben i Gymru.

Yr Athro Angharad Davies FLSW

Athro Clinigol a Microbiolegydd Meddygol Ymgynghorol Anrhydeddus
Prifysgol Abertawe

Mae’r Athro Davies yn academydd clinigol, yn ficrobiolegydd meddygol ymgynghorol anrhydeddus, ac yn Is-lywydd Dysgu gyda Choleg Brenhinol y Patholegwyr (2020 – 2023). Mae hi’n goruchwylio hyfforddiant clinigol ac arholiadau ôl-raddedig yn y DU ym mhob un o’r ddwy ar bymtheg o arbenigeddau patholeg, gan wneud cyfraniad mawr i waith y Coleg a’i harbenigedd clinigol.

Mae hi’n Brif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, ac wedi arwain prosiectau cenedlaethol a rhyngwladol ym maes ymwrthedd gwrthficrobaidd ac addysg stiwardiaeth. Mae hi hefyd yn weithgar mewn cefnogi’r gymuned ymchwil glinigol ar lefel Cymru a’r DU.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Davies.

Yr Athro Peter Groves FLSW

Cardiolegydd Ymgynghorol

Mae’r Athro Groves wedi arwain arloesi clinigol ac wedi darparu arweinyddiaeth genedlaethol a lleol ym maes datblygu technoleg feddygol am fwy na deng mlynedd ar hugain. Mae wedi arwain mentrau academaidd ac ymchwil, wedi cadeirio pwyllgorau cynghori proffesiynol technoleg feddygol yn MHRA a NICE, ac mae wedi arwain a llunio esblygiad Technoleg Iechyd Cymru. Mae ei arbenigedd drwy gydol y cyfnod hwn wedi’i seilio ar safbwynt clinigwr, sy’n defnyddio technolegau meddygol newydd mewn ymarfer clinigol o ddydd i ddydd, ac sydd wedi arwain ar y gwaith o sefydlu datblygiadau gwasanaeth clinigol sy’n seiliedig ar dechnoleg.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Groves.

Yr Athro Mark Taubert FLSW

Cyfarwyddwr Clinigol Meddygaeth Liniarol ac Athro Anrhydeddus, Prifysgol Caerdydd
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Ffocws yr Athro Taubert yw gofal lliniarol, gan ddefnyddio’r cyfryngau newydd mewn lleoliadau clinigol a gwneud penderfyniadau tua diwedd oes. Ef yw sylfaenydd TalkCPR.com ac mae’n cadeirio grŵp llywio cenedlaethol sy’n ceisio gwella’r ddealltwriaeth o gynllunio gofal ymlaen llaw. Mae wedi cyflwyno Ted Talk rhyngwladol ar gynildeb ieithyddol sy’n berthnasol i ofal lliniarol, ac mae ei brosiectau wedi cael sylw gan BBC News, y Guardian, CNN, Al Jazeera a’r Washington Post.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Taubert.