Mae’r Athro Calabrese yn gosmolegydd arsylwadol. Mae hi’n arbenigwr mewn defnyddio golau’r creiriau o’r Big Bang, yr ymbelydredd hynafol, gwan a adawyd drosodd o gamau cynnar y Bydysawd, i archwilio ffiseg ac esblygiad y Bydysawd. Symudodd i Gymru yn 2017, a sefydlodd dîm cosmoleg yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Caerdydd. Mae’r tîm hwn ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth cefndir microdon cosmig, ac mae hi’n chwarae rolau blaenllaw mewn datblygu’r map ffordd ar gyfer darganfyddiadau cosmolegol newydd.
Mae’r Athro Eales wedi arloesi’r defnydd o seryddiaeth is-filimedr i astudio galaethau, eu tarddiad a’u hesblygiad. Mae wedi dylunio ac arwain llawer o arolygon pwysig, ac wedi dyfeisio rhai o’r cysyniadau allweddol yn y maes. Mae’r arolygon hyn wedi arwain at lawer o ddarganfyddiadau, gan gynnwys hynafiaid galaethau eliptig heddiw, newidiadau i alaethau yn y gorffennol cymharol ddiweddar, poblogaeth o alaethau lensiog cryf yn y bydysawd cynnar, a’r amrywiad ar raddfa fawr ym mhriodweddau llwch rhyngserol o fewn galaethau.
Mae ymchwil yr Athro Lenn yn canolbwyntio ar effaith gwres a gludir gan y cefnforoedd pegynol ar iâ’r môr a’r hinsawdd. Datgelodd fanylion newydd ynghylch sut mae trolifau Cefnfor y De yn rhan allweddol o gydbwysedd ynni Cerrynt Ambegynol yr Antarctig mawr; mae’r trolifau hyn ar yr un pryd yn symud gwres tuag at gyfandir rhewllyd yr Antarctig. Yn yr Arctig, mae hi wedi cofnodi drwy ei gwaith pa mor gyflym y mae dynameg y rhanbarth hwn yn ymateb i’r newid hinsawdd, gan ddatgan bod yr Arctig yn cael ei ‘Atlantigeiddio’ – pwnc sy’n dal i dderbyn cryn sylw.
Mae'n anrhydedd mawr cael fy ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn annog menywod a merched, a grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol sydd eisiau dilyn gwyddoniaeth, i wneud hynny. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru i amrywiaethu cymuned academaidd Cymru ac yn sgil hynny, cyfoethogi ein trafodaethau a'n cyflawniadau.
Yr Athro Yueng-Djern Lenn
Ffocws diddordebau ymchwil yr Athro Westwell yw darganfod cyffuriau cyn-glinigol sy’n targedu canser Mae gwaith i ddarganfod atalydd newydd Bcl3, mewn cydweithrediad â phartneriaid o’r diwydiant, wedi symud ymlaen at ddatblygiad cyn-glinigol uwch. Roedd ennill gwobr Arloesi mewn Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd (2016) yn gydnabyddiaeth o’r gwaith hwnnw. Mae ei gyflawniadau ymchwil wedi’u cofnodi mewn dros 170 o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion rhyngwladol, a phum cofnod patent rhyngwladol yn ystod ei yrfa.