Croeso i'n Cymrodyr Newydd

Gan gyflwyno pedwar o Gymrodyr newydd sydd wedi eu hethol i’r Gymdeithas yn 2024, sy’n gweithio o fewn cyfrifiadureg, mathemateg ac ystadegau.

Yr Athro Edmund Burke FLSW

Is-Ganghellor
Prifysgol Bangor

Mae’r Athro Burke yn Gymrawd yr Academi Frenhinol Peirianneg. Roedd yn Llywydd y Gymdeithas Ymchwil Weithredol rhwng 2020 a 2022. Mae ei ymchwil yn archwilio sut mae ymchwil weithredol a chyfrifiadureg yn cyfuno. Ar raddfeydd Research.com ar wyddonwyr rhyngwladol, mae’r Athro Burke yn y 71ain Safle yn y Byd (2il yn y DU) ar gyfer Mathemateg a 313 yn y Byd (20fed yn y DU) ar gyfer Cyfrifiadureg. Mae’n Brif Olygydd y Journal of Scheduling.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Burke.

Yr Athro Anthony Cohn FLSW

Athro Rhesymu Awtomataidd
Prifysgol Leeds

Mae diddordebau ymchwil yr Athro Cohn yn amrywio o waith damcaniaethol ar y ffyrdd o ddeall y berthynas rhwng gwrthrychau a’u lleoliadau yn y gofod, sut mae cyfrifiaduron a pheiriannau’n dehongli gwybodaeth weledol a Systemau Cymorth Penderfyniad, yn enwedig ar gyfer yr amgylchedd adeiledig.

Arweiniodd y gwaith hwn at system VAULT arobryn yr Alban, sy’n rhannu gwybodaeth am leoliad pibellau a cheblau tanddaearol, ac a arweiniodd at sefydlu’r system National Underground Assets Register ar gyfer gweddill y DU.

Enillodd Wobr 2021 Herbert A Simon Cognitive Systems, Distinguished Service Awards gan IJCAI ac AAAI, ac mae’n Gymrawd yr Academi Frenhinol Peirianneg, a chwe chymdeithas ddysgedig Deallusrwydd Artiffisial / Cyfrifiadureg.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Cohn.