Croeso i'n Cymrodyr Newydd

Gan gyflwyno chwe o Gymrodyr newydd sydd wedi eu hethol i’r Gymdeithas yn 2024, sy’n gweithio o fewn peirianneg.

Yr Athro Sandra Esteves FLSW

Athro mewn Technoleg Biobroses ar gyfer Casglu Adnoddau: Ynni a Deunyddiau a Chyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Cymru ar gyfer Treulio Anerobig
Prifysgol De Cymru

Mae gan yr Athro Esteves dros 23 mlynedd o brofiad mewn ymchwil, datblygu a defnyddio biotechnoleg. Mae hi wedi cyfarwyddo prosiectau ymchwil a datblygu gyda dros £15m o gyllid gan y sectorau gwladol a phreifat.

Yn ddyfeisiwr dau batent ac wyth o nodau masnach, cyrhaeddodd yr Athro Esteves rownd derfynol Arloeswr y Flwyddyn BBSRC yn 2019. Mae hi hefyd yn cefnogi datblygu seilwaith fiolegol ar raddfa lawn ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Esteves.

Rwy'n falch iawn o fod yn aelod o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, gan fod fy nodau a fy nghyflawniadau yn cael eu hadlewyrchu yn ethos y gymdeithas. Fy nod yw cyfrannu at waith y Gymdeithas sy'n gysylltiedig ag ymchwil, gwybodaeth ac addysg, sy'n ymwneud â biotechnolegau pan maen nhw’n cael eu gosod wrth wraidd yr economi gylchol a sero net.

Yr Athro Antonio Gil FLSW

Pennaeth yr Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol a Mecanyddol
Prifysgol Abertawe

Mae’r Athro Gil yn Athro Mecaneg Gyfrifiadurol yn Sefydliad Zienkiewicz ar gyfer Modelu, Data a Deallusrwydd Artiffisial ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ganddo fwy nag 20 mlynedd o brofiad ymchwil a hanes helaeth o

gyhoeddiadau, cyllid ac effaith o fewn diwydiant, ac  mae ei gyfraniadau wedi arwain at ddarganfyddiadau sylfaenol ym meysydd mecaneg a roboteg. Mae ei waith wedi cael ei gydnabod gyda gwobrau mawreddog fel Gwobr Leverhulme y DU a gwobr ECCOMAS Olgierd Cecil Zienkiewicz.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Gil.

Mae'n anrhydedd mawr derbyn y newyddion anhygoel yma. Mae derbyn cydnabyddiaeth mor fawreddog gan gydweithwyr ar draws Cymru yn rhywbeth y byddaf bob amser yn ei drysori, tra'n gwasanaethu fel llysgennad ar gyfer y Gymdeithas ar draws y byd.

Yr Athro Michael Hughes FLSW

Athro Peirianneg Biofeddygol
Prifysgol Khalifa

Mae ymchwil yr Athro Michael Hughes mewn peirianneg biofeddygol yn archwilio’r rhyngweithio rhwng celloedd a meysydd trydan; mae’n defnyddio hwn i astudio sut mae celloedd yn rhyngweithio â’u hamgylchedd, i wneud diagnosis o glefydau fel canser, ac i archwilio sut y mae celloedd yn defnyddio eu priodweddau trydanol eu hunain i ryngweithio â chelloedd eraill. Yn ogystal, mae’n datblygu’r peiriannau sydd eu hangen i wneud y mesuriadau hyn, ac mae’n gweithio gyda chwmnïau sydd wedi’u sefydlu i gyflwyno’r dechnoleg i’r farchnad.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Hughes.

Yr Athro Aimee Morgans FLSW

Athro Thermohylifau
Coleg Imperial Llundain

Mae’r Athro Morgans yn ymchwilio i ddynameg hylif, aeroacwsteg a hylosgiad. Enillodd raddau MEng a Doethuriaeth mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Caergrawnt, cyn ymuno â Choleg Imperial Llundain yn 2007, lle daeth yn Athro llawn yn 2017. Mae hi wedi dal grantiau ‘Cychwyn a Chyfnerthu’ y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, cafodd ei hethol yn FREng yn 2021, a dyfarnwyd Medel Menelaus Cymdeithas Ddysgedig Cymru 2023 iddi am ei gwaith ar yr ansefydlogrwydd sy’n bygwth strwythur aero-injanau tyrbin nwy.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Morgans.

Rwy'n falch iawn fy mod i wedi cael fy ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae fy ngyrfa wedi cael ei adeiladu ar fy nghefndir o gael fy magu yng Nghymru a chael fy addysgu yn ysgolion gwladol Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at adeiladu rhwydweithiau dyfnach gydag eraill sy'n rhannu cysylltiadau â Chymru.

Yr Athro Chris Pearce FLSW

Dirprwy Bennaeth (Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth)
Prifysgol Glasgow

Mae’r Athro Pearce wedi gwneud ymchwil ym maes peirianneg gyfrifiannol. Mae’n canolbwyntio ar fodelu ymddygiad deunyddiau cymhleth a phroblemau aml-ffiseg. Mae wedi cymhwyso’r technegau hyn i feysydd amrywiol, gan gynnwys peirianneg sifil, niwclear, gweithgynhyrchu a biofeddygol. Mae ei waith yn cynnwys dulliau rhifiadol newydd, datblygiadau damcaniaethol, ac offer meddalwedd newydd. Mae wedi mynd i’r afael â materion cyfanrwydd strwythurol critigol sy’n cyfyngu ar oes, a gymhwyswyd yn fwyaf diweddar i adweithyddion niwclear sifil yn y DU, gan helpu i sicrhau eu bod yn parhau i weithredu’n ddiogel a sicrhau cyflenwad trydan llwyth sylfaenol carbon isel.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Pearce.

Yr Athro Augustin Valera-Medina FLSW

Cyfarwyddwr, Sefydliad Arloesi Sero Net
Prifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Valera-Medina wedi cymryd rhan fel Prif Ymchwilydd/Cyd-ymchwilydd mewn 30 o brosiectau diwydiannol. Mae wedi cyhoeddi 215 o bapurau (mynegai-h 34) ac wedi arwain cyfraniadau Caerdydd mewn 10 o brosiectau y bwriadwyd iddynt ddangos pŵer amonia mewn systemau thermol. Fel aelod o fyrddau gwyddonol amrywiol a phaneli diwydiannol mawr, mae wedi cefnogi friff polisi’r Gymdeithas Frenhinol yn gysylltiedig â´r defnydd o amonia fel fector ynni. Ef yw prif awdur y llyfr Techno-economic challenges of ammonia as energy vector.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Valera-Medina.