Syr Bryn Terfel
Mae Syr Bryn, a anwyd ym Mhant Glas, Gwynedd, wedi canu mewn tai opera ym mhob cwr o’r byd, wedi recordio gyda llawer o’r cwmnïau a’r cerddorfeydd blaenllaw, ac mae sawl gwobr wedi dod i’w law, gan gynnwys Grammy ar gyfer recordiad Metropolitan Opera 2013 o Der Ring des Nibelungen gan Richard Wagner.
Cafodd Syr Bryn ei dderbyn i Gymdeithas Ddysgedig Cymru ym mis Tachwedd 2025, mewn seremoni arbennig i nodi 15 mlynedd ers sefydlu’r Gymdeithas.
Yr Athro Colin Berry
Athro Emeritws mewn Biocemeg, Prifysgol Caerdydd
Yn ei waith, mae'r Athro Berry wedi canolbwyntio ar ddatblygu targedau cyffuriau, a biocemeg rheoli pryfed drwy ddefnyddio bacteria lladd pryfed a'r proteinau lladd pryfed cryf y maent yn eu cynhyrchu.
Mae wedi datblygu dulliau profi ensymau newydd ac wedi astudio targedau cyffuriau mewn clefydau firaol a pharasitig. Mae'n arbenigwr ar strwythur a swyddogaeth proteinau pryfleiddiol ac yn gydlynydd y Ganolfan Adnoddau Protein Pryfleiddiol Bacteriol, y system a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer dosbarthu a chatalogio'r proteinau hyn.
Biocemeg proteinau pryfleiddiol
Darllenydd yn Saesneg, Phrifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae gan Dr Casaliggi enw da yn rhyngwladol ac mae hi wedi bod yn arweinydd o bwys ym maes astudiaethau llenyddol a gweledol y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae hi wedi ysgrifennu niferus o gyhoeddiadau sy'n rhagori yn rhyngwladol ac sy'n flaenllaw yn y byd mewn cyfresi adnabyddus, gan gynnwys pedwar monograff.
Astudiaethau llenyddol a gweledol y bedwaredd ganrif ar bymtheg
Prif Weithredwr, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Christopher Catling yw Prif Weithredwr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ers 2014; mae'n ymgyrchu dros hawl cymunedau i barhau i ddefnyddio mannau addoli yng Nghymru; mae'n ymchwilio i fudd pererindota o safbwynt iechyd a'r economi; mae wedi ysgrifennu arweinlyfrau hynod boblogaidd i deithwyr sy'n canolbwyntio ar gyrchfannau diwylliannol; ef yw cyfarwyddwr Cronfa Marc Fitch; cyfarwyddwr sefydlu’r Gynghrair Treftadaeth yn Lloegr; a sylwebydd hyddysg ar faterion treftadaeth a chadwraeth.
Treftadaeth
Athro mewn Ecoleg Foleciwlaidd, Prifysgol Bangor
Mae'r Athro Creer yn arweinydd byd-eang o ran defnyddio dilyniannu trwybwn uchel i asesu bioamrywiaeth ar draws y goeden fywyd drwy bïomau amrywiol.
Mae ganddo lefel uchel o ddealltwriaeth o ddynameg gofod-amser DNA amgylcheddol, yn deillio o fioamrywiaeth amgylcheddau morol, morydol, dŵr croyw, daearol a'r awyr, gyda rhagor o ddealltwriaeth yn deillio o beillwyr a rhyngweithiadau troffig.
Ei nod yw deall priodweddau sy’n dod i’r amlwg sy'n ymwneud ag iechyd amgylcheddol a dynol.
DNA amgylcheddol
Celfyddydwr; Uwch Ddarlithydd, Phrifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae Claire Curneen yn creu cerfluniau ffigurol sy'n cynnig myfyrdod teimladwy ar ddynoliaeth.
Mae themâu cyffredinol fel colled, dioddefaint, aberth ac aileni yn sail i'w gweithiau; wedi'u hadeiladu â llaw mewn porslen gwyn, mae natur dryloyw a bregus ei gweithiau yn fetafforau o'r cyflwr a'r profiad dynol.
Ganed Curneen yn Iwerddon, ac aeth i astudio i Gorc, Belffast a Chaerdydd, lle mae hi bellach yn byw ac yn gweithio.
Mae ei gweithiau wedi cael eu harddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd ac Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain.
Cerameg; cerfluniau; clai / porslen; celfyddyd gain a chrefft; addysgwr / ymgysylltu â’r cyhoedd
Athro yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd
Mae'r Athro Cushion wedi creu cyhoeddiadau helaeth am newyddiaduraeth a chyfathrebu.
Mae wedi cael ei gomisiynu gan reoleiddwyr fel Ofcom i gynhyrchu astudiaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth am ansawdd newyddion, a'r graddau y mae newyddion yn ddi-duedd.
Mae wedi cael effaith fawr ar safonau golygyddol cynnyrch newyddion, fel cynyddu cywirdeb adroddiadau am wleidyddiaeth ddatganoledig ar newyddion y DU.
Newyddiaduraeth, y cyfryngau a chyfathrebu
Ymgynghorydd Oncoleg Meddygol, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Dr Dasgupta yw arweinydd Tîm Canser Cenedlaethol Cymru ar gyfer canser o darddiad anhysbys (CUP). Mae hi hefyd yn is-gadeirydd ar gyfer grŵp ymchwil CUP y DU ac yn sylfaenydd gwasanaeth CUP rhanbarthol De-ddwyrain Cymru.
Roedd Dr Dasgupta ymhlith y cyntaf i adnabod CUP fel grŵp o safleoedd canser unigol, ac i gyflwyno proffiliau moleciwlaidd ar gyfer CUP fel safon gofal o fewn y GIG.
Mae ganddi PhD Ymchwil Canser y DU mewn canser y colon a'r rhefrwm ac mae'n arwain therapïau systemig, treialon clinigol, addysg, mentora a hyfforddiant.
Oncoleg feddygol
Athro Gyfraith a Pholisi Cyhoeddus, Prifysgol Rhydychen
Mae'r Athro Davies yn addysgu ac yn ymchwilio i gyfraith cyflogaeth a chyfraith gyhoeddus.
Mae ei llyfrau diweddar yn cynnwys Valuing Employment Rights: A Study of Remedies in Employment Law (Hart 2024) a Human Rights at Work (Hart 2024), ar y cyd ag Alan Bogg, Hugh Collins a Virginia Mantouvalou.
Mae hi'n Gymrawd yr Academi Brydeinig
Cyfraith cyflogaeth, cyfraith gyhoeddus
Yr Athro a Pennaeth Adran (Daearyddiaeth), Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth
Mae ymchwil yr Athro Davies yn canolbwyntio ar ail-greu newid hinsoddol ac amgylcheddol dros amrywiaeth o raddfeydd amser, gan integreiddio archifau gwaddodol a dogfennol.
Mae hi'n arbennig o awyddus i weld sut mae pobl, yr hinsawdd a'r amgylchedd yn rhyngweithio â'i gilydd.
Mae ei hymchwil gyfredol yn cynnwys ymchwilio i effeithiau newid hinsawdd ac eithafion tywydd ar dirweddau a threftadaeth yr arfordir.
Daearyddiaeth
Athro mewn Peirianneg Electronig a Ffotonig, Prifysgol Leeds
Mae ymbelydredd amledd terahertz mewn safle diddorol ar y sbectrwm electromagnetig, ar y rhyngwyneb rhwng electroneg ac opteg. Fodd bynnag, ceir heriau parhaus sy'n atal mynediad at yr agwedd hon, ac iddi gyfoeth o wyddoniaeth, ac yn atal y gallu i fanteisio arni.
Mae'r Athro Davies wedi gwneud cyfraniadau rhagorol at ddatblygiad y laser rhaeadr cwantwm terahertz, ac wedi arloesi o ran datblygiadau mewn delweddu terahertz, sbectrosgopeg a microsgopeg.
Mae ei waith wedi agor y rhan hon o'r sbectrwm fel bo modd ymchwilio iddi a manteisio arni, ac wedi tanategu twf anhygoel y maes ar raddfa ryngwladol.
Ffotoneg, terahertz, lled-ddargludyddion, nanotechnoleg
Proffesor Theori'r Cyfryngau, Prifysgol Abertawe
Mae ymchwil yr Athro Evans yn archwilio realiti rhithiol ac estynedig, gemau digidol, a'r cyfryngau cymdeithasol, gyda ffocws ar bresenoldeb, hunaniaeth a diwylliant mewn technolegau ymgolli.
Mae e wedi ysgrifennu llawer o lyfrau, wedi siapio'r TGAU newydd ar gyfer ffilm a'r cyfryngau digidol fel arbenigwr pwnc i Gymwysterau Cymru, ac ef oedd enillydd Medal Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol yn 2023.
Astudiaethau cyfryngau digidol a thechnoleg
Is-Ganghellor, Prifysgol Cymru Y Drindon Dewi Sant
Yr Athro Elwen Evans KC yw Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae hi wedi mwynhau gyrfa nodedig ym myd y gyfraith, wedi cyfrannu at ddiwygio'r gyfundrefn gyfiawnder yng Nghymru, ac wedi dal swyddi uchel o fewn addysg uwch yng Nghymru. Mae hi'n aelod o Orsedd y Beirdd ac yn cael ei chydnabod am ei chyfraniadau diwylliannol a dinesig.
Mae ei gwaith wedi siapio ymarfer cyfreithiol, polisi ac addysg ledled Cymru a thu hwnt.
Addysg uwch ac arweinyddiaeth gyfreithiol
Ymgynghorydd Annibynnol mewn Gwyddoniaeth Fiofeddygol
Datblygodd a chyflwynodd Dr Ewart strategaethau ymchwil newydd a pharhaol ar gyfer sefydliadau ymchwil allweddol yn y DU, y Cyngor Ymchwil Feddygol a Chyfadran Feddygaeth Coleg Imperial.
Roedd gweithio ar lefel y Bwrdd yn golygu ei bod wedi dylanwadu ar gyfeiriad twf ac arweinyddiaeth UK Biobank a Sefydliad Francis Crick yn nyddiau cynnar eu datblygiad. Helpodd y gwaith hwn i gryfhau sylfaen wyddonol y DU.
Yn ogystal â hyn, cyflawnodd weledigaeth Ymddiriedolaeth Wellcome o greu sefydliad ymchwil yn Affrica i fynd i'r afael â phandemig HIV/Aids, a sicrhau dros ddeng mlynedd o gyllid Ymddiriedolaeth Wellcome ar gyfer gwyddor poblogaeth.
Strategaeth ymchwil, polisi a chyllid
Athro mewn Daeareg Strwythurol, Prifysgol Caerdydd
Mae'r Athro Fagereng wedi gwneud cyfraniadau pwysig at ddeall anffurfiad creigiau, yn enwedig y prosesau a'r amodau sy'n bodoli ar ffiniau platiau'r Ddaear.
Mae'n fwyaf adnabyddus am gyfyngu ar reolaethau daearegol ac am ystyried a yw ffawtiau'n ymgripio'n aseismig neu'n cynhyrchu daeargrynfeydd mawr.
Mae'n cynnal ei ymchwil drwy ymchwiliadau rhyngddisgyblaethol gan ddefnyddio daeareg maes, microsgopeg electron, a dulliau geocemegol a geoffisegol. Mae'n cymhwyso'r wybodaeth hon i ddeall peryglon naturiol.
Daeareg, tectoneg, a mecaneg creigiau
Cyd-sylfaenydd a chyd-arweinydd Hwb Strôc Cymru; Meddyg Ymgynghorol wedi Ymddeol, Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Yn hanesyddol, roedd meddygaeth geriatreg a strôc yn arbenigeddau a oedd yn cael eu hanwybyddu. Ymatebodd Dr Freeman i'r her o newid y ddelwedd hon, gan ddefnyddio ei rolau arweinyddol ledled y DU i ddatblygu newidiadau cynnar mewn gofal clinigol yng Nghymru.
Yn ogystal â hyn, aeth ati i greu addysg feddygol strwythuredig i israddedigion, a fabwysiadwyd yn ddiweddarach ym mhob Ysbyty Cyffredinol Dosbarth yng Nghymru, a datblygodd addysg amlddisgyblaethol a meddygol ôl-raddedig drwy gydysgrifennu wyth llyfr ar gyfer meddygon iau yn y DU a thramor.
Cyd-sylfaenodd Hwb Strôc Cymru hefyd, ac mae ei gwaith ym myd addysg ac ymchwil yn parhau.
Meddygaeth strôc, ymchwil, arloesi, addysg
Prifathro, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Mae'r Athro Gaunt yn gerddor ac yn arweinydd agweddau a chanddi gyhoeddiadau eang ar addysg cerddoriaeth a'r celfyddydau perfformio. Bu'n chwaraeydd obo proffesiynol am flynyddoedd lawer, ac roedd hi ymhlith aelodau cyntaf Sinfonia Britten.
Bellach hi yw Pennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac mae hi'n cadeirio Bwrdd Ymgynghorol Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru.
Cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio
Proffesor mewn Gweithgynhyrchu Digidol, Prifysgol Abertawe
Mae'r Athro Giannetti wedi bod yn Gymrawd UKRI EPSRC (2018–2021), wedi sicrhau cyllid ymchwil sylweddol, ac wedi arwain mentrau mawr yn y DU sy'n hyrwyddo digideiddio wedi'i yrru gan AI.
Mae ei gwaith arloesol ar gymhwyso deallusrwydd artiffisial i weithgynhyrchu wedi gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd prosesau diwydiannol ar draws sawl sector.
Mae hi hefyd yn cyfrannu at gyrff cynghori cenedlaethol, gan gynnwys Tîm Cynghori Strategol EPSRC a grŵp llywio Rhwydwaith Arloesi Cymru..
Peirianneg ddigidol a gweithgynhyrchu
Athro Ystadegau a Gwyddor Data, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Mathemateg, Prifysgol Caerdydd
Mae gwaith yr Athro Gillard yn rhychwantu ystadegau, optimeiddio ac ymchwil weithredol.
Mae wedi datblygu dulliau sy'n gwella penderfyniadau yn y byd go iawn ym maes gofal iechyd, llywodraeth a diwydiant. Mae wedi arwain prosiectau mawr cydweithredol â'r GIG ac y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Ef yw Cadeirydd Academaidd Crwsibl Cymru a phennaeth cyntaf Ysgol Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ystadegau a gwyddor data
Athro a Chyfarwyddwr WISERD, Prifysgol Caerdydd
Mae ymchwil yr Athro Hedgecoe yn archwilio'r modd y mae biofeddygaeth fodern wedi'i siapio'n gymdeithasol. Ers deng mlynedd ar hugain, mae e wedi archwilio rôl geneteg glinigol mewn penderfyniadau meddygol.
Mae hyn yn cynnwys ystyried sut mae profion genetig siapio ffiniau clefydau, heriau'n gysylltiedig â meddygaeth wedi'i phersonoli, a'r cymhlethdodau sy'n codi yn sgil technegau dilyniannu genomau modern.
Mae ei waith ar reoleiddio ymchwil fiofeddygol, a'r ffordd mae pwyllgorau moeseg ymchwil yn llunio canfyddiadau o'r hyn sy'n foesegol a'r hyn nad yw'n foesegol, yn gysylltiedig â hyn.
Cymdeithaseg gwyddoniaeth a meddygaeth
Cadair mewn Hanes Modern, Prifysgol Caerdydd
Mae'r Athro Heimann yn hanesydd, yn awdur ac arbenigwr blaenllaw ar Gatholigiaeth Fictoraidd, Tsiecoslofacia, a chysylltiadau Cristnogol-Gomiwnyddol y Rhyfel Oer.
Mae hi'n fwyaf adnabyddus fel awdur Catholic Devotion in Victorian England (Oxford University Press) a Czechoslovakia: The State that Failed (Yale University Press).
Mae hi'n cyfarwyddo Canolfan Ymchwil Canol a Dwyrain Ewrop yng Nghaerdydd ac mae cyrff ariannu rhyngwladol, cyhoeddwyr academaidd, y wasg, y cyfryngau, prifysgolion, a diplomyddion a llunwyr polisi Canol Ewrop, gan gynnwys Partneriaeth dros Heddwch NATO, yn holi'n eang am ei barn arbenigol.
Hanes Ewropeaidd, Prydeinig ac eglwysig
Athro mewn Seicoleg, Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae'r Athro Hutchings wedi gweithio yng Nghymru fel seicolegydd clinigol plant i'r GIG ers 1976, ac ers 1988, fel ymchwilydd ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi'n datblygu, yn cyflwyno a gwerthuso rhaglenni rhianta a rhaglenni yn yr ysgol i gefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant.
Mae ei hymchwil wedi cyfrannu at bolisi ymyrraeth gynnar yng Nghymru, y DU ac yng ngwledydd De'r Byd.
Mae hi wedi dal grantiau o £5m+, wedi goruchwylio llawer o fyfyrwyr ôl-radd ac wedi cyhoeddi'n helaeth ar gyflwyno ymyriadau effeithiol i rieni ac ysgolion
Gwasanaethau cenedlaethol / rhyngwladol i blant
Athro mewn Gwyddor Anifeiliaid a Microbioleg, Prifysgol y Frenhines, Béal Feirste
Yr Athro Huws yw cyfarwyddwr dros dro Y Sefydliad Diogeledd Bwyd Byd-eang, Prifysgol y Frenhines, Belfast.
Mae'r Sefydliad yn cwmpasu nifer o ddisgyblaethau sy'n mynd i'r afael â heriau'r system fwyd er lles iechyd dynol a'r blaned; daeth y Sefydliad yn gydradd gyntaf o ran rhagoriaeth ymchwil mewn amaethyddiaeth, bwyd a gwyddorau milfeddygol yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021.
Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar wella cynhyrchu da byw cynaliadwy o fewn cylch gwaith sicrhau iechyd y blaned a phobl.
Microbioleg, gwyddor anifeiliaid, amaethyddiaeth, hinsawdd
Athro Economeg, Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd
Mae'r Athro Jones yn economegydd empirig sy'n defnyddio dulliau meintiol i ddeall anghydraddoldeb yn y farchnad lafur yng Nghymru a'r DU, yn enwedig mewn perthynas â rhywedd ac anabledd.
Mae hi'n cyhoeddi'r dystiolaeth hon mewn cyfnodolion rhyngwladol ac yn ei defnyddio i lywio polisi ac arferion cyflogwyr. Cydnabuwyd y cyfraniad hwn pan gafodd ei phenodi'n olygydd cyfnodolyn academaidd, ac yn aelod o banel asesu grantiau'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Mae hi'n frwd dros hyrwyddo economeg ac mae ganddi sawl rôl gynghori bwysig i gefnogi hyn.
Economeg
Cadeirydd mewn Biocemeg, Prifysgol Caerdydd
Ar ôl cael ei eni, ei fagu a'i addysgu yng Nghymoedd De Cymru, enillodd yr Athro Jones ysgoloriaeth i astudio biocemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn ystod blwyddyn ar leoliad yn UDA, cadarnhawyd ei frwdfrydedd dros strwythur a pheirianneg proteinau. Aeth i Gaergrawnt i astudio am Ddoethuriaeth gyda'r Athro Richard Perham yn yr Adran Biocemeg.
Ar ôl cyfnod yn y sector biotechnoleg, cafodd swydd ym Mhrifysgol Caerdydd lle mae'n parhau i ddatblygu dulliau newydd o beiriannu proteinau.
Biocemeg; bioffiseg; bioleg gemegol
Athro Emeritws, Prifysgol Southampton
Mae'r Athro Langley yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am arloesi ym maes technegau dadansoddol â chysylltnod (GC-MS, HPLC-MS, SFC-MS), ac mae'n arbenigo yn y modd y'u cymhwysir ar draws cemeg, bioleg gemegol, a chemeg meysydd olew.
Arweiniodd ddatblygiad llwyfannau sbectrometreg màs mynediad agored academaidd ac mae'n eiriolwr cryf o blaid rhannu mynediad at seilwaith gwyddonol a chyfleusterau rhagorol.
Mae wedi mentora a hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ddadansoddwyr, fel goruchwylydd PhD, tiwtor a thrwy gyrsiau hyfforddi yn y DU, Ewrop ac Asia.
Cemeg ddadansoddol (cromatograffeg – sbectrometreg màs)
Cyfarwyddwr Prifysgol Agored yng Nghymru
Mae Ben Lewis wedi gweithio mewn rolau polisi, rheoli ac arweinyddiaeth i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE), y Comisiwn Etholiadol, Prifysgol Caerdydd a'r Brifysgol Agored yng Nghymru.
Bu hefyd yn Gadeirydd ei gorff cynrychioliadol proffesiynol, ac aeth ar secondiad i Lywodraeth Cymru fel cynghorydd polisi arbenigol.
Mae ei ffocws wedi bod ar gynhwysiant cymdeithasol a chyfranogiad mewn addysg uwch, cymorth i fyfyrwyr, ac iechyd meddwl.
Addysg uwch, rheoli ac arweinyddiaeth iechyd, iechyd meddwl ac addysg uwch
Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Perfformio Cerddorol, Prifysgol Bangor
Mae Dr Llewelyn-Jones yn cael ei gydnabod fel un o bianyddion ac addysgwyr cerddoriaeth blaenllaw Cymru.
Mae'n raddedig o Brifysgol Rhydychen, Coleg Brenhinol Cerdd, Prifysgol Caerdydd ac Université de Paris-Sorbonne, ac mae wedi perfformio'n rhyngwladol mewn lleoliadau mawr gan gynnwys Neuadd Wigmore a Thŷ Opera Sydney.
Mae wedi gwneud cyfraniad rhagorol i fywyd ac addysg gerddorol Cymru, yn enwedig fel Cyfarwyddwr Perfformio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor a Chyfarwyddwr Artistig Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru.
Perfformio, addysgeg ac ysgolheictod mewn Cerddoriaeth
Athro Daearyddiaeth Ffisegol, Prifysgol Abertawe
Mae'r Athro Loader yn ddaearyddwr ffisegol sydd â phrofiad o ddatblygu a chymhwyso technegau isotop sefydlog ar gyfer geocronoleg ac astudio newid paleoamgylcheddol.
Mae'n arbenigo mewn holi archifau naturiol, fel cylchoedd coed, mawn a phaill. Mae'n defnyddio'r rhain i ail-greu newid hinsoddol y tu hwnt i gyfnod arsylwadau offerynnau, ac i astudio ymateb a gwydnwch ecosystemau coedwigoedd i newid amgylcheddol cyfoes.
Daearyddiaeth ffisegol, archaeoleg sy’n seiliedig ar wyddoniaeth
Athro Mathemateg Gymhwysol, Prifysgol Manceinion
Mae'r Athro Majumdar yn arbenigwr ym mathemateg gwyddor deunyddiau, gan arbenigo mewn mecaneg continwwm a dadansoddi cymhwysol.
Mae hi wedi gwneud cyfraniadau grymus i fathemateg crisialau hylif, ei sail drylwyr, a modelu cymwysiadau crisial hylif a mater meddal.
Mae hi wedi arwain rhwydweithiau ymchwil rhyngwladol a rhyngddisgyblaethol, gyda chydweithwyr ar draws pedwar cyfandir. Yn ogystal, mae’n eiriolwr brwd dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) ac mae wedi arwain mentrau EDI cenedlaethol a rhyngwladol.
Mathemateg gymhwysol, modelu mathemategol, mecaneg continwwm, dadansoddi cymhwysol, mathemateg ryngddisgyblaethol
Uwch Gymrawd Ymchwil, Prifysgol Caerdydd
Mae Dr McKinley yn wyddonydd cymdeithasol morol profiadol sy'n arwain gwaith ar lythrennedd cefnforoedd a pherthnasoedd rhwng pobl a chefnforoedd.
Mae hi'n defnyddio'r mewnwelediadau sy'n deillio o hynny i gefnogi trefniadau llywodraethu cefnforoedd effeithiol. Hi yw arweinydd academaidd Partneriaeth Aber Afon Hafren, sylfaenydd Rhwydwaith Gwyddorau Cymdeithasol y Môr, ac mae hi'n aelod o Bwyllgor Degawd Cenedlaethol y DU ar gyfer Degawd Cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig, a Grŵp Arbenigwyr IOC-UNESCO ar Lythrennedd Cefnforoedd.
Gwyddor gymdeithasol forol; llythrennedd cefnforoedd; ymchwil cefnforoedd; ymgysylltu â rhanddeiliaid
Athro mewn Daearyddiaeth Ddynol, Prifysgol Aberystwyth
Mae'r Athro Merriman yn ffigwr blaenllaw ym maes daearyddiaeth ddiwylliannol-hanesyddol a maes amlddisgyblaethol astudiaethau symudedd.
Mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar ddulliau damcaniaethol o ymdrin â gofod, lle, symudedd, a hunaniaeth genedlaethol.
Mae hefyd wedi ymgymryd â phrosiectau ymchwil i hanes gyrru ym Mhrydain; Hanes porthladdoedd Cymru ac Iwerddon; Gŵyl Prydain 1951; a chenedlaetholdeb a hunaniaeth genedlaethol Cymru.
Daearyddiaeth ddynol; astudiaethau symudedd
Athro Gwyddorau Daear, Prifysgol Loughborough
Mae'r Athro Parsons yn ddaearwyddonydd blaenllaw yn y byd sy'n arbenigo mewn systemau gwaddodol ac effeithiau'r newid hinsawdd.
Mae ei ymchwil yn cwmpasu amgylcheddau afonol i foroedd dwfn, gan ganolbwyntio ar risg llifogydd, cynaliadwyedd, a newid i'r amgylchedd naturiol a achosir gan weithredoedd dynol ('aflonyddwch anthropogenig’).
Mae wedi arwain ymchwil wedi'i hariannu gwerth dros £50 miliwn, wedi siapio polisi cenedlaethol a rhyngwladol ar ymaddasu i'r newid hinsawdd, ac wedi hyrwyddo ymgysylltu â'r cyhoedd.
Fel Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Loughborough, mae'n ysgogi cydweithio strategol ar draws Canolbarth Lloegr, yn hyrwyddo arloesi amgylcheddol, ac yn annog ymchwil ryngddisgyblaethol er budd cymdeithas.
Daearwyddoniaeth, ymchwil, arweinyddiaeth addysg uwch
Uwch-ddarlithydd mewn Gwyddorau Biofeddygol, Prifysgol Abertawe
Dr Claire Price yw sylfaenydd Gŵyl Wyddoniaeth Merthyr. Mae ei gwaith yn cyfuno ymchwil, addysgu ac ymgysylltu â'r cyhoedd, gyda ffocws ar gyfathrebu mewn modd cynhwysol am wyddoniaeth.
Mae hi'n datblygu offer arloesol, fel modelau cyffyrddol wedi'u hargraffu mewn 3D ac adnoddau digidol rhyngweithiol. Mae'r rhain o gymorth i wneud gwyddoniaeth yn hygyrch i gynulleidfaoedd amrywiol.
Mae hi wedi cael ei chydnabod yn genedlaethol am ei gwaith allgymorth ac mae hi'n cyfrannu'n eang at addysg STEMM yng Nghymru.
Cyfathrebu mewn modd cynhwysol am y gwyddorau biofeddygol
Athro’r Organ a Chydlynydd Cerddoriaeth Gysegredig, Prifysgol Gwlad Florida
Mae'r Athro Iain Quinn yn hanesydd diwylliannol, yn cerddolegydd, yn organydd ac yn gyfansoddwr cerddoriaeth litwrgaidd gyda dros gant o gyhoeddiadau, gan gynnwys pedwar monograff.
Mae'n Athro'r Organ a Chydlynydd Cerddoriaeth Gysegredig ym Mhrifysgol Talaith Florida, yn Gymrawd Ymchwil yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau, ac yn Gyfarwyddwr Gŵyl flynyddol y Celfyddydau Creadigol.
Mae'n Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd gyda'r Academi Gerddoriaeth Frenhinol.
Cerddoleg, cerddoriaeth gysegredig, perfformiad
Is-Ganghellor Pro a Ddeon Gweithredol, Prifysgol Abertawe
Mae ymchwil yr Athro Rees yn canolbwyntio ar addysg proffesiynau iechyd. Gyda thros 200 o gyhoeddiadau, cafodd ei rhestru ymhlith 100 ymchwilydd gorau Awstralia ym maes y gwyddorau cymdeithasol yn 2022 a 2023.
Mae hi wedi sicrhau tua £5M o incwm ymchwil addysgol gan noddwyr anrhydeddus o'r DU/Awstralia.
Mae hi'n arwain nifer o werthusiadau o ymyriadau addysgol cenedlaethol a thaleithiol, gydag effeithiau cadarnhaol ar bolisi ac ymarfer.
Addysg feddygol; addysg proffesiynau iechyd
Athro ac Arweinydd Canolfan Ymchwil Cudd-wybodaeth Drefol, Prifysgol Caerdydd; Gyd-Sylfaenydd a Dirprwy Brif Swyddog Gwyddonol, Optimise-AI
Mae'r Athro Rezgui yn arbenigo mewn rheoli perfformiad amgylcheddau trefol (adeiladau, seilwaith a dinasoedd), gan gwmpasu effeithlonrwydd ynni ac asesu cynaliadwyedd cylch oes.
Mae ganddo dros 300 o gyhoeddiadau wedi'u hadolygu gan gymheiriaid, gan gynnwys Proceedings of the Royal Society A ac IEEE Transactions, ac fe gafodd wahoddiad i gyfrannu i Nature ar flaenoriaethau gwyddoniaeth y DU.
Ceir patent wedi'i ddyfarnu yn yr UD yn sail i 'Optimise-AI', sef cwmni deillio o Brifysgol Caerdydd sydd wedi ennill gwobrau, ac a sylfaenwyd ganddo ar y cyd ag eraill. Mae hyn yn creu arbedion ynni a charbon mesuradwy i gleientiaid fel Network Rail, ScotRail a Maes Awyr Luton.
Dinasoedd a chymunedau clyfar
Partner Ymchwil Canser Cymru, Prifysgol Caerdydd a Chwumni Anrhydeddus Lifrai Cymru
Fel Cadeirydd cangen Gymreig Cymrodoriaeth Churchill, anogodd Dr Seddon y Cymrodyr i adeiladu ar eu cymrodoriaethau a helpu eraill i ymgeisio.
Fel Meistr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, cychwynnodd swydd newydd elusennwr i roi cymorth i rai sydd mewn angen.
Sefydlodd gynllun 'TaffLab' Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau i helpu entrepreneuriaid ifanc yng Nghymoedd Cymru.
Ar hyn o bryd mae hi'n arwain Cynnwys y Cyhoedd a Chleifion (PPI) mewn prosiect traws-Ewropeaidd, sy'n galluogi penderfyniadau ar y cyd ar gyfer cleifion gofal lliniarol.
Lleisiau cleifion mewn gofal lliniarol
Cyfarwyddwr, Rhwydwaith Datblygu Cymrodyr Arweinwyr y Dyfodol UKRI, Prifysgol Caeredin
Dechreuodd gyrfa Dr Shinton yng Nghymru, mewn ymchwil, ond mae hi wedi gweithio ledled y DU ac Ewrop yn datblygu cenedlaethau o ymchwilwyr.
Mae hi’n arwain mentrau strategol cenedlaethol i ddatblygu arweinwyr ymchwil gwell, diwylliannau ymchwil mwy cynhwysol a chreu cyfleoedd i grwpiau wedi'u tangynrychioli.
Mae hi wedi sicrhau miliynau o bunnoedd o gyllid ymchwil ac ymgynghori, ac wedi ymrwymo'n arbennig i greu cyfleoedd ar gyfer galluogwyr ymchwil, a chydnabyddiaeth o'r rheiny.
Arweinyddiaeth, diwylliant, ymchwilwyr gyrfa gynnar
Niwrolegydd Ymgynghorol; Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Phrifysgol Caerdydd
Mae'r Athro Smith wedi cynhyrchu tua 175 o bapurau wedi'u hadolygu gan gymheiriaid, tri llyfr, ac ef oedd prif awdur y treialon 'Cyffuriau Gwrth-epilepsi Safonol a Newydd', a siapiodd ganllawiau a phresgripsiynau NICE ar gyfer epilepsi.
Mae wedi cyflawni hyn oll er gwaethaf ei ymrwymiadau fel gweithiwr amser llawn i'r GIG. Mae ei ymchwil i eneteg, drwy gonsortia rhyngwladol, wedi arwain at gyhoeddiadau yn Nature Genetics a Science. Bu'n cadeirio 'Canllaw Clefyd Falf y Galon' NICE, gan drawsnewid llwybrau'r GIG.
Ehangodd yr Athro Smith hefyd gyrhaeddiad byd-eang Practical Neurology, fel ei Brif Gyd-olygydd, ac mae ei arweinyddiaeth ym maes asesu yn cynnwys 'Consortiwm Profion Cynnydd y DU'
Niwroleg, epilepsi, addysg/asesu meddygol
Pennaeth Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, Prifysgol Abertawe
Fel hwyr-ddyfodiad i Addysg Uwch, mae'r Athro Thomas wedi ymgorffori ei brofiad o'r sector preifat yn ei waith fel ysgolhaig.
Ym Mhrifysgol Abertawe, mae wedi parhau i fod yn ymchwilydd brwd er ei fod yn dal swyddi arweinyddiaeth uwch allweddol.
Mewn cyfnod heriol i'r sector, mae'n llunio polisi, gan arloesi a datblygu talent fel bod y staff a'r myfyrwyr, y naill a'r llall, yn gallu ffynnu mewn amgylchedd gwaith cadarnhaol a blaengar.
Arweinyddiaeth a rheolaeth addysg uwch, astudiaethau newyddiaduraeth, ysgrifennu ym maes chwaraeon, methodolegau ymchwil, cyfathrebu gwleidyddol
Athro Meddygaeth Seicolegol, Prifysgol Caerdydd
Mae'r Athro van den Brie yn ymchwilio i'r modd y mae genynnau a phrofiadau bywyd yn dylanwadu ar iechyd meddwl o ddechrau hyd ddiwedd ein hoes. Mae hyn yn cynnwys yr ymadwaith rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol.
Mae hi'n astudio grwpiau mawr o bobl, gan gynnwys rhai â mwtaniadau genetig prin sy'n cynyddu'r risg o anawsterau dysgu ac iechyd meddwl.
Mae'r Athro van den Brie yn cyfuno astudiaethau clinigol â delweddau o'r ymennydd, geneteg ac ymchwil labordy. Mae hi'n cydweithio ag arbenigwyr ar draws meysydd ac yn gweithio'n agos gyda chymunedau a rhanddeiliaid i sicrhau bod ei chanfyddiadau o fudd i iechyd a lles yn y byd go iawn.
Geneteg, iechyd meddwl, amlafiachedd, ffactorau risg amgylcheddol, epidemioleg
Athro mewn logisteg a rheoli gweithrediadau; Rhag-Ddeon Ymchwil, Arloesi ac Effaith, Prifysgol Caerdydd
Mae'r Athro Wang yn arbenigwr blaenllaw yn y byd ym maes digideiddio cadwynau cyflenwi, gyda thros ddau ddegawd o brofiad ymchwil.
Mae hi wedi cydweithio â mwy na 100 o sefydliadau ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector i gymhwyso uwch-dechnolegau digidol sy'n galluogi cadwynau cyflenwi cynaliadwy a chylchol.
Mae hi wedi darparu effaith sylweddol gymdeithasol a chymunedol trwy ei gwaith cyfochrog yn ymladd tlodi bwyd yng Nghymru trwy ymestyn y mentrau cadwyn cyflenwi bwyd amgen a datblygu offer digidol i fapio darpariaeth bwyd.
Logisteg a digideiddio cadwynau cyflenwi
Athro Therapi Iaith a Lleferydd, Phrifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae ymchwil yr Athro Wren wedi arwain at adnabod anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu plant yn gynharach ac yn fwy cywir. Mae hyn yn helpu gweithwyr proffesiynol i ymyrryd yn fwy effeithiol, a hynny ar adegau tyngedfennol yn natblygiad plant.
Mae hi wedi cyfrannu at ddatblygu a gwerthuso offer sgrinio, wedi dylanwadu ar ganllawiau clinigol cenedlaethol ac wedi cefnogi dulliau dwyieithog a diwylliannol briodol o asesu a chynnig therapi.
Drwy ei phrosiectau ar y cyd â'r GIG a'r sectorau addysg, mae ei gwaith wedi gwella dyluniad, darpariaeth a chanlyniadau gwasanaethau i blant a theuluoedd.
Gwyddoniaeth lleferydd a chyfathrebu
Athro Economeg; Deon Rhyngwladol y Brifysgol; Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius; Prifysgol Caerdydd
Mae’r Athro Zhou wedi arwain prosiectau sy'n canolbwyntio ar Gymru ar ddatganoli cyllid a threthu gwerth tir, gwerthusiadau economaidd o addasiadau byw'n annibynnol, ac anghenion iechyd pobl ddigartref.
Mae ei ymchwil diweddar yn canolbwyntio ar arloesi technolegol, anghydraddoldeb cymdeithasol, a chynaliadwyedd amgylcheddol.
Economeg; arloesi; cynaliadwyedd; polisi cyhoeddus; arweinyddiaeth addysg uwch