Mae Dr Elaine Canning, Pennaeth Prosiectau Arbennig ym Mhrifysgol Abertawe, yn llenor ac yn olygydd, a hi yw’r sbardun sy’n gyfrifol am Wobr Dylan Thomas a Gwobr Stori Fer Genedlaethol Rhys Davies ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies. Yn gysylltiedig â sefydliadau’r celfyddydau a diwylliant ym mhedwar ban byd, cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Sandstone City, gan Aderyn yn 2022.
Huw Edwards yw un o ddarlledwyr mwyaf adnabyddus y DU, ac un o hoelion wyth Newyddion y BBC. Yn ei amser rhydd, cwblhaodd PhD ar hanes capeli Cymry Llundain, a gyhoeddwyd yn ddiweddarach o dan y teitl City Mission: The Story of Welsh Chapels. Mae Huw wedi creu cyfres o raglenni dogfen am Gymru, gan gynnwys Bread of Heaven, yn trafod hanes crefydd yng Nghymru, ac a enillodd bum gwobr BAFTA Cymru.
Mae Alice Gray yn Uwch Swyddog Cyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Gyflwynydd Gwyddoniaeth Llawrydd i’r BBC. Yn ei gwaith mae hi’n canolbwyntio ar gyfathrebu, datblygu polisi ac eiriolaeth ym myd gwyddoniaeth. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cynhwysiant mewn gwyddoniaeth a chyfathrebu gwyddoniaeth, ac mae ganddi brofiad helaeth o reoli gwyliau a digwyddiadau ymgysylltu gwyddoniaeth yng Nghymru. Mae hi hefyd yn fedrus wrth greu cynnyrch i’r cyfryngau i arddangos gwyddoniaeth yng Nghymru, gan gynnwys rhaglenni radio, podlediadau, segmentau ar newyddion y teledu a rhaglenni dogfen.
"Mae cael fy ethol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn anrhydedd anhygoel. Mae cydnabod fy nghyfraniadau i wyddoniaeth yng Nghymru fel hyn yn gwneud i mi deimlo'n hynod o falch."
Alice Gray
Mae Elin Rhys wedi cael gyrfa lwyddiannus yn y byd darlledu masnachol, a hefyd wedi ymroi i hyrwyddo gwyddoniaeth yn y Gymraeg. Ym 1993, sefydlodd y cwmni aml-gyfrwng Telesgop. Mae hi wedi ennyn parch am ei sgiliau arwain a’i heiriolaeth dros gydraddoldeb yn y gwaith, gan ennill proffil cyhoeddus amlwg. Yn ogystal â hynny, bu’n cadeirio grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg a Datblygu Economaidd.
Mae Wendy Sadler yn darlithio ym maes cyfathrebu ac addysg gwyddoniaeth. Drwy ei chyflawniadau mae hi wedi sefydlu enw da iddi hi ei hun yn rhyngwladol fel arweinydd wrth ennyn diddordeb y cyhoedd mewn gwyddoniaeth. Mae hi wedi arwain prosiectau gwerth miliynau o bunnoedd, yn amrywio rhwng newid y canfyddiad o addysg yn yr ystafell ddosbarth a dulliau arloesol o gyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol. Mae hi wedi gwneud gwaith ymgynghori â nifer o gyrff cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys cynghorau ymchwil â’r llywodraeth. Mae gwaith Mrs Sadler hefyd wedi llywio polisïau ar addysg ac amrywiaeth mewn STEM.
"Mae'n golygu cymaint i gael y gydnabyddiaeth hon gan ei fod yn atgyfnerthu pwysigrwydd fy nghenhadaeth i ymgysylltu â'r cyhoedd, a'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr yng Nghymru a thu hwnt."
Wendy Sadler