Y Gymdeithas yn Cyhoeddi Cymrodyr Newydd wrth i Fenywod Ffurfio Dros 50% o’r Niferoedd

Mae enw da Cymru am ymchwil o safon uchel a bywyd dinesig ffyniannus, sy’n seiliedig ar wybodaeth ac arbenigedd, yn cael ei gydnabod ymhlith y 41 o Gymrodyr newydd sydd wedi cael eu hethol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae’r Cymrodyr newydd yn cynnwys academyddion o bob rhan o brifysgolion Cymru a’r DU, awduron, ymchwilwyr ac arweinwyr o fyd addysg uwch, yn ogystal â’r gyfraith, meddygaeth a’r cyfryngau.

Yn y flwyddyn lle lansiodd y Gymdeithas ei hymrwymiad Amrywiaeth, Ecwiti a Chynhwysiant newydd, mae dros 50% o’r Cymrodyr newydd yn fenywod.

Gellir lawrlwytho rhestr gyflawn o’r Cymrodyr newydd, sy’n rhestru eu sefydliadau a’u harbenigedd pwnc, yma.

Yn ymuno â nhw mae’r Athro Hannah Fry, sy’n dod yn Gymrawd er Anrhydedd diweddaraf y Gymdeithas.

Mae’r Athro Fry, y mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar systemau cymdeithasol ac economaidd cymhleth, wedi sefydlu enw da am gyfathrebu’n eithriadol am wyddoniaeth, gan ddefnyddio data a rhifau mewn ffyrdd hygyrch i archwilio realiti a phrofiad byw bywyd bob dydd.

Ochr yn ochr â diddordebau eang yr Athro Fry, mae arbenigeddau’r Cymrodyr newydd yn amrywio o seilwaith cerbydau trydan i becynnu bwyd, clefyd y galon i gerddoriaeth “pop” yn y Gymraeg, a llawer iawn o bethau eraill.


Dysgwch fwy am ein holl Gymrodyr newydd ar draws yr arbenigeddau pwnc canlynol:


“Rwyf wrth fy modd gydag ehangder yr arbenigedd o safon fyd-eang ymhlith ein Cymrodyr newydd,” meddai’r Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

“Mae’r ystod o arbenigeddau’n hynod ddiddorol, ac mae ansawdd yr ymchwil yn eithriadol. Mae’n dangos faint o bobl arbennig y gall Cymru frolio, sy’n cyfrannu eu syniadau, eu hangerdd a’u harbenigedd, ac sy’n dyfnhau ecosystem ein hymchwil ac sydd o fudd i’r gymdeithas yng Nghymru a thu hwnt.

“Nid yw Cymdeithas Ddysgedig Cymru fawr mwy na deg oed, ond rydym yn chwarae rhan gynyddol mewn creu amgylchedd cynhyrchiol a chefnogol ar gyfer ymchwil o’r radd flaenaf yng Nghymru, tra’n darparu llais gwybodus mewn trafodaethau polisi.

“Rwy’n falch iawn o groesawu ein Cymrodyr newydd i’r Gymdeithas, ac yn edrych ymlaen at eu cysylltiad gweithgar â ni yn y blynyddoedd i ddod.”

Mae’r Cymrodyr newydd yn dod â maint y Gymrodoriaeth i 687.