Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cyflwyno

Archwiliad Dwfn o Genedl Fach: Yr Alban

Cynhaliodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru fwrdd crwn o arbenigwyr i fyfyrio ar bolisi ac arfer arloesi yn yr Alban. Ein hamcan wrth gynnal y bwrdd crwn oedd deall sut mae’r Alban yn mynd ati i ysgogi arloesedd a chymhwyso’r hyn a ddysgir i’r cyd-destun Cymreig. Roedd y bwrdd crwn hwn yn cynnwys siaradwyr o Brifysgol Glasgow, Interface, a Chymdeithas Frenhinol Caeredin (RSE). 

Mewnwelediadau hanfodol:

  • Cofleidio Dulliau Cyfannol o Ddatblygu’r Economi: Mae’r newid ym mholisi arloesi’r Alban tuag at dwf cynhwysol yn arwydd ei bod yn gwyro oddi wrth ddulliau traddodiadol sy’n canolbwyntio ar dwf.
  • Mynd i’r afael â Heriau Llywodraethu Aml-lefel: Mae’r heriau a achosir yn sgil llywodraethu aml-lefel, a’r anghysondeb posibl rhwng dulliau arloesi ar raddfa’r DU a dulliau arloesi datganoledig yn amlygu’r angen am fframweithiau polisi cydgysylltiedig a chydlynol.
  • Optimeiddio Mecanweithiau Ariannu Arloesi: Mae ystod amrywiol yr Alban o fecanweithiau ariannu ar gyfer arloesi, fel y Cynllun Talebau Arloesi a’r Rhaglenni Sbarduno, yn cynnig modelau gwerthfawr i gefnogi cydweithrediad rhwng diwydiant a’r byd academaidd.
  • Trosoli Ymyriadau Seiliedig ar Le: Mae mentrau fel ardaloedd arloesi yn cynnig cyfleoedd a heriau i Gymru a’r Alban. Er bod addewid i’r ymyriadau hyn ailfywiogi economïau lleol, mae sicrhau cynhwysiant ac ymgysylltiad cymunedol yn hollbwysig.

Drwy ymgorffori’r mewnwelediadau hyn o’r Alban, gall llunwyr polisi greu ecosystem arloesi fwy cydgysylltiedig, cynhwysol ac effeithiol yng Nghymru.

Esblygiad Polisi Arloesi yn yr Alban

Yn nhirlun ôl-Brexit ac ôl-Covid yn 2022, cafodd ymrwymiad yr Alban i feithrin twf drwy arloesi ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol ei gynnwys yn y Strategaeth Genedlaethol i Drawsnewid yr Economi

Drwy archwilio dull yr Alban o feithrin entrepreneuriaeth, cydweithredu rhwng y byd academaidd a diwydiant, a throsoli cryfderau rhanbarthol, gall llunwyr polisi yng Nghymru nodi arferion addawol, heriau posibl, ac atebion arloesol sy’n berthnasol i dirlun economaidd Cymru. Mae dysgu fel hyn ar draws cyd-destunau gwahanol yn cyfoethogi trafodaethau polisi ac yn hwyluso cyfnewid syniadau a chydweithredu rhwng y gwledydd datganoledig, gan gyfrannu yn y pen draw at y nod cyffredin o ysgogi twf a ffyniant drwy arloesi ledled y DU.

Roedd y bwrdd crwn hwn yn archwilio polisi arloesi’r Alban dros y ddau ddegawd diwethaf. Dros y cyfnod hwnnw mae cysyniadedd ac ymagwedd y wlad at ysgogi arloesi wedi esblygu’n sylweddol (daw’r crynodeb a ganlyn o waith gan Waite, Roy, McIntyre a Goudie, gan ddefnyddio ffynonellau Gweithrediaeth yr Alban a Llywodraeth yr Alban).

Ym mlynyddoedd cyntaf yr 21ain ganrif, yn fuan ar ôl sefydlu Senedd yr Alban, y ffocws pennaf oedd symud yr Alban tuag at economi gwybodaeth-ddwys a oedd yn fwy seiliedig ar arloesi drwy gyhoeddi FEDS, strategaeth economaidd gyntaf y senedd newydd. Dyma gyfnod o fraenaru’r tir ar gyfer datblygiadau dilynol, lle pwysleisiwyd pwysigrwydd gwyddoniaeth a thechnoleg fel conglfeini arloesi. Yn Strategaeth Economaidd 2007, ehangodd Llywodraeth yr Alban ei diffiniad o arloesi y tu hwnt i’r ffocws traddodiadol ar wyddoniaeth a thechnoleg, gan fynd i’r afael â lefelau isel o YaD ym myd busnes. Yn sgil yr argyfwng ariannol byd-eang, aeth Llywodraeth yr Alban unwaith eto ati i ehangu ei diffiniad o arloesi yn Strategaeth Economaidd 2011, gan gynyddu’r gefnogaeth ar gyfer entrepreneuriaeth, masnach ryngwladol, a chydweithredu rhwng prifysgolion a diwydiant.

Cafwyd newid hollbwysig yn 2015 wrth gynnwys nodau twf cynhwysol yn Strategaeth Economaidd 2015, gan nodi newid cyfeiriad oddi wrth ddulliau traddodiadol seiliedig ar dwf. Dylanwadwyd ar y newid yn rhannol gan waith Joseph Stig a’i gymheiriaid, a nododd fod anghydraddoldeb yn llesteirio cystadleurwydd a thwf. Yn unol â’r symudiad hwn tuag at olwg fwy cyfannol ar ddatblygiad economaidd, sefydlodd Llywodraeth yr Alban y Fforwm Arloesi ac wyth canolfan arloesi a gefnogir gan Gyngor Cyllido’r Alban (SFC).

Yn nhirlun ôl-Brexit ac ôl-Covid yn 2022, cafodd ymrwymiad yr Alban i feithrin twf drwy arloesi ac i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol ei gynnwys yn y Strategaeth Genedlaethol i Drawsnewid yr Economi, yn benllanw ar y strategaethau esblygol hyn. Mae’n werth nodi bod y syniad bod clystyrau ffisegol neu seiliedig ar rwydwaith yn rhan annatod o lwyddiant arloesi’r Alban wedi ail-godi yn y strategaeth hon. Nodai’r strategaeth hefyd fod cynaliadwyedd amgylcheddol yn bwysig er llwyddiant economaidd.  

Serch hynny, er gwaethaf y datblygiadau hyn, ceir heriau nodedig yn nhirlun arloesi’r Alban. Yn benodol, gallai cymhlethdod llywodraethu aml-lefel a’r risg o anghysondeb rhwng yr ymagwedd drwy’r DU at arloesi, ac ymagwedd yr Alban at hynny, greu rhwystrau i’r naill endid a’r llall. Er enghraifft, yn Strategaeth Arloesi Genedlaethol Llywodraeth yr Alban (2023), ni chyfeiriwyd ond ddwywaith at y cysyniad o “godi’r gwastad”: unwaith wrth fapio dogfennau strategaeth, ac unwaith eto wrth gydnabod bod £33 miliwn wedi’i ddyrannu i’r rhaglen sbarduno arloesi yn Glasgow. Ar yr un pryd, prin y mae papur gwyn codi’r gwastad Llywodraeth y DU yn cydnabod unrhyw fentrau a arweinir gan lywodraeth yr Alban ym maes arloesi.

Ar ben hynny, er gwaethaf addewid mentrau fel ardaloedd arloesi, ceir cwestiynau ynghylch eu heffeithiolrwydd wrth gefnogi cynhwysiant ac adfywio’n seiliedig ar le. Mae Ardal Arloesi Riverside Glasgow yn enghraifft o’r anhawster hwn. Er bod addewid i’r cyfalaf sylweddol a fuddsoddir yn unol â’r fenter hon fywiogi cymdogaethau difreintiedig, mae sicrhau cynhwysiant ac ymgysylltiad cymunedol yn parhau i fod yn destun pryder mawr. Er hynny, mae cydnabyddiaeth llunwyr polisi lleol o’r angen i weddnewid pethau, i fabwysiadu safbwynt ar gyfer y tymor hir, a’r ymrwymiad i ymgysylltu â chymunedau lleol yn rhesymau i fod yn optimistaidd. Yn ogystal â hynny, mae’r cysylltiadau â phrosiect seilwaith y Fargen Ddinesig yn rhesymau pellach i obeithio y bydd yr ardal arloesi yn llwyddo. Mae angen bod yn ofalus, fodd bynnag, oherwydd bu adegau yn y gorffennol lle’r oedd hi’n ymddangos bod diffyg cysylltiad rhwng buddsoddiadau yn yr ardal a’u heffeithiau ar y gymuned leol.

Er bod addewid i'r cyfalaf sylweddol a fuddsoddir yn unol â'r fenter hon fywiogi cymdogaethau difreintiedig, mae sicrhau cynhwysiant ac ymgysylltiad cymunedol yn parhau i fod yn destun pryder mawr.

Cyflwr Arloesi yn yr Alban

Yn yr Alban, caiff cyllid arloesi ei sianelu drwy’r prif fecanweithiau ariannu canlynol, pob un wedi’i deilwra i fodloni anghenion ac amcanion penodol:

  1. Cynlluniau Talebau Arloesi: Mae’r cynlluniau hyn yn rhoi cefnogaeth ariannol i gwmnïau, gan ddechrau fel arfer ar £7,500, i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd ymchwil a datblygu gyda sefydliadau academaidd. Y prif nod yw hwyluso’r broses o gyfnewid gwybodaeth a bod yn gatalydd i arloesi o fewn busnesau.
  2. Talebau Arloesi Uwch: Gan adeiladu ar y cynllun talebau sylfaenol, mae’r fersiwn uwch hon, a reolir drwy Scottish Enterprise, yn rhoi cymorth ychwanegol i brosiectau mwy uchelgeisiol. Mae’r ffrwd ariannu hon yn helpu cwmnïau i fanteisio ar lefelau uwch o arbenigedd ac adnoddau, gan feithrin arloesedd ar raddfa fwy.
  3. Cronfa Catalydd Mewnfuddsoddi: Mae’r gronfa hon yn rhoi cymorth ariannol i brosiectau arloesol â’r potensial i dyfu’n sylweddol. Drwy fynd ati’n strategol i dargedu mentrau â rhagolygon addawol, mae’r gronfa’n ymdrechu i ysgogi entrepreneuriaeth a hyrwyddo twf economaidd ar draws yr Alban.
  4. Rhaglenni Sbarduno: Mae’r rhaglenni hyn yn cynnig cefnogaeth ddwys, mentoriaeth, a mynediad at adnoddau i fusnesau newydd a busnesau cyfnod cynnar. Drwy roi arweiniad ac adnoddau, mae’r rhaglenni hyn yn galluogi cwmnïau i sbarduno eu taflwybr twf a thorri i mewn i’r farchnad yn effeithiol. Un enghraifft nodedig yw Techsalers, sydd â chyllideb o £45 miliwn ar gyfer y rhaglen 5 mlynedd gyfredol, ac sy’n cynnig cymorth wedi’i deilwra ar draws yr Alban i unrhyw un sydd ag uchelgais i ddechrau busnes ar unrhyw gam ar eu taith arloesi.
  5. Cymorth Asiantaethau Menter: Cyllid ymchwil a datblygu amrywiol a chymorth arbenigol gan Scottish Enterprise, Highland and Islands Enterprise a South of Scotland Enterprise.
  6. Cynllun Smart Scotland: Wedi’i reoli gan Scottish Enterprise, mae’r cynllun hwn yn darparu grantiau sylweddol, gwerth cyfanswm o £100,000, ar gyfer mentrau ymchwil a datblygu. Mae’r cynllun yn annog cydweithredu rhwng busnesau a’r byd academaidd, ac yn rhoi’r flaenoriaeth i brosiectau a ysgogir gan arloesi i wella cystadleurwydd a chynhyrchiant ar dirlun busnes yr Alban.
  7. Y Rhaglen Deillio Twf Uchel (HGSP): Mae’r HGSP, a weithredir gan Scottish Enterprise, yn darparu cyllid i gefnogi masnacheiddio uwch-dechnolegau a ddatblygir ym mhrifysgolion, sefydliadau ymchwil a byrddau GIG yr Alban. Nod y cyllid yw mynd i’r afael â bylchau yng nghynllun busnes y dechnoleg arfaethedig. Gellir defnyddio’r grant i dalu hyd at 100% o gostau uniongyrchol prosiect, hyd at uchafswm o £75,000.
  8. CivTech: Wedi’i hariannu gan Lywodraeth yr Alban. Dyma raglen lle bydd sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn gosod heriau, ac yn noddi problemau yr hoffent eu datrys. Mae’n debyg i raglen sbarduno wedi’i llwyfannu, gyda chwmnïau’n cynnig eu syniadau ac yn derbyn cyllid i fynd drwy gam archwilio. Mae’r rhai sy’n llwyddiannus ac yn cael eu dewis yn ennill lle ar y rhaglen sbarduno, ac yn derbyn cyllid pellach (heb i’r cynllun gymryd unrhyw ecwiti na chyfran o’r Eiddo Deallusol).
  9. Her Cydgyfeirio: Rhaglen i gefnogi cwmnïau sy’n deillio o Sefydliadau Addysg Uwch yr Alban drwy ddarparu cyllid a rhaglen sbarduno.

Mae mecanweithiau ariannu arloesi strwythuredig yr Alban yn cynnig gwersi gwerthfawr i ranbarthau eraill sy’n anelu i feithrin cydweithrediad, ysgogi ymchwil a datblygu a sbarduno entrepreneuriaeth. Mae’r Alban yn gosod esiampl o bolisi arloesi rhagweithiol drwy deilwra cymorth i fodloni anghenion penodol busnesau a sefydliadau academaidd. Mae’r dulliau ariannu hyn yn hwyluso’r broses o drawsnewid syniadau yn ddatblygiadau arloesol, ac yn hyrwyddo cydweithredu ar draws sectorau, gan gynnig mewnwelediadau i ranbarthau sy’n meithrin ecosystemau arloesi dynamig.

Mae mecanweithiau ariannu arloesi strwythuredig yr Alban yn cynnig gwersi gwerthfawr i ranbarthau eraill sy'n anelu i feithrin cydweithrediad, ysgogi ymchwil a datblygu a sbarduno entrepreneuriaeth.

Heriau a Chyfleoedd: Polisi Arloesi Cymru a'r Alban

Ceir digonedd o gyfleoedd i genhedloedd datganoledig drosoli eu cryfderau a'u hadnoddau unigryw i ysgogi twf drwy arloesi.

Mae cenhedloedd datganoledig fel Cymru a’r Alban yn wynebu heriau cyffredin wrth lywio drwy dirluniau polisi cymhleth a sicrhau cydlyniant ac aliniad ar draws llywodraeth aml-lefel. Mae lluosogrwydd y mentrau a’r ffrydiau ariannu, ynghyd â chyfrifoldebau sy’n gorgyffwrdd â’i gilydd, yn tanlinellu’r angen am fwy o gydgysylltu ac eglurder wrth weithredu polisi. Yn ogystal â hynny, mae’n hollbwysig taro cydbwysedd rhwng hyrwyddo sectorau uwch-dechnoleg a chymorth i ddiwydiannau traddodiadol a busnesau bach a chanolig er mwyn sicrhau twf cynhwysol a mynd i’r afael â gwahaniaethau rhanbarthol.

Ceir digonedd o gyfleoedd i genhedloedd datganoledig drosoli eu cryfderau a’u hadnoddau unigryw i ysgogi twf drwy arloesi. Drwy feithrin cydweithrediad rhwng y llywodraeth, y byd academaidd a diwydiant, a buddsoddi mewn ymyriadau seiliedig ar le fel ardaloedd arloesi, gall Cymru a’r Alban ddatgloi eu potensial llawn i arloesi ac ysgogi datblygiad economaidd cynaliadwy.

I gloi, er bod Cymru a’r Alban yn rhannu dyheadau cyffredin o ran hyrwyddo arloesi a thwf economaidd, mae eu hymagweddau perthynol at bolisi yn adlewyrchu cyd-destunau a blaenoriaethau amrywiol y naill genedl a’r llall. Drwy ddysgu o brofiadau’r naill a’r llall a throsoli eu gwahanol fanteision, gall y ddwy genedl gynllunio camau tuag at ddyfodol sy’n fwy cynhwysol a ffyniannus drwy arloesi.

Cefndir: Bord Gron Arloesi Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r Gymdeithas wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd bord gron arloesi, gan ddod ag arbenigwyr, ymarferwyr ac arweinwyr arloesi ynghyd er mwyn helpu i lywio a chyfrannu at drafodaethau a allai wella polisïau ac arferion arloesi yng Nghymru ac ar gyfer Cymru. I ddechrau, roedd y rhaglen weithgareddau hon yn cyd-fynd â gwaith Llywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Arloesi Cymru a chynlluniau cyflawni cysylltiedig. Ar gyfer 2024, mae’r Gymdeithas wedi dechrau cyfres newydd o raglenni bord gron arloesi.

Yn y cam nesaf hwn, mae’r Gymdeithas yn ymgysylltu ymhellach ag arweinwyr agweddau ac ymarferwyr yn y maes, gan barhau i ddatblygu argymhellion er mwyn helpu i lywio strategaethau arloesi a’r amgylchedd arloesi yng Nghymru. Y thema graidd newydd ar gyfer y cam nesaf hwn yw “arloesi cynhwysol,” a ddiffinnir yn yr ystyr ehangaf ond gyda phwyslais arbennig ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn ogystal â mesur effaith y tu hwnt i ystyriaethau economaidd. Bydd yr ail gam hwn hefyd yn cynnwys archwiliad dwfn o thema o’r gyfres flaenorol o fyrddau crwn: “Arloesi mewn Cenhedloedd Bach,” cyfle i rannu gwersi y gall Cymru eu dysgu gan genhedloedd bach eraill. 

Cynhelir yr holl sesiynau bord gron o dan reolau Chatham House, a dyma’r adroddiad dienw a heb ei briodoli o’r prif bwyntiau o’r drydedd bord gron.

Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw academi genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau a’r gwyddorau. Mae ei Chymrodoriaeth yn dod ag arbenigwyr o bob maes academaidd a thu hwnt ynghyd. Mae’r Gymdeithas yn defnyddio’r wybod