Gwersi i Gymru o Ecosystem Arloesi Gwlad y Basg

Download Publication

Ym mis Chwefror 2024, cynhaliodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ford gron o arbenigwyr i fyfyrio ar yr elfennau tebyg a gwahanol rhwng ecosystemau arloesi Cymru a Gwlad y Basg. 

Ein hamcan wrth gynnal y ford gron oedd clywed sut mae pethau’n cael eu gwneud mewn mannau eraill i lywio myfyrdodau ar y trefniadau ar gyfer gweithgareddau a strwythurau yng Nghymru. Nid y bwriad yw nodi ‘arferion gorau’ i’w copïo, ond cael ysbrydoliaeth gan eraill, ac ystyried a oes syniadau y gellid eu haddasu a’u cymhwyso’n briodol wrth i Gymru ddatblygu ei hymagwedd ei hun.