Cymdeithas Ddysgedig Cymcu

Rhoi Tegwch wrth Galon Ein Gwaith

Aelodau o’n gweithgor Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn esbonio pam mae’r ffocws ar ‘degwch’ yn ein datganiad Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant newydd mor bwysig.

Dr. Emma Yhnell FLSW

“Doeddwn i erioed wedi meddwl y buaswn i’n dod yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac mae’n debyg bod y ffaith fy mod i, fel academydd benywaidd ifanc, yn Gymrawd, yn dangos bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud. Ond rwy’n credu bod mwy o gynnydd i’w wneud bob amser. Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi gwneud rhywfaint o gynnydd o ran cynhwysiant rhywedd, ond rwy’n credu bod llawer mwy o waith i’w wneud o hyd, yn enwedig o ran nodweddion eraill gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ethnigrwydd, oedran, anabledd a braint.”

Yr Athro Bettina Schmidt FLSW

“Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi fy nghroesawu fel cymrawd newydd, ac roeddwn wrth fy modd yn gweld cymaint o gydweithwyr benywaidd ymhlith y cymrodyr newydd yn 2022  Fodd bynnag, nid ynghylch rhywedd yn unig mae amrywiaeth, ac rwy’n falch o weld ymdrech Cymdeithas Ddysgedig Cymru i geisio cynyddu amrywiaeth ei haelodaeth o ran ethnigrwydd, hil, dosbarth a ffactorau eraill.”

Dr. Cameron Durrant FLSW

Yr Athro Emmanuel Ogbonna FLSW

“Mae’r Gymdeithas wedi gwneud ymrwymiad pwysig i osod tegwch yng nghanol ei gweithrediadau. 

“Y gwaith sydd o’n blaenau yw adolygu’r strwythurau, systemau a’r prosesau i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r ymrwymiad hwn.”

Olivia Harrison, Prif Weithredwr

“Mae cydnabyddiaeth gynyddol o’r angen i unioni’r annhegwch cymdeithasol sydd wedi cronni dros y blynyddoedd. Rydym wedi ymrwymo i flaenoriaethu a chynnwys grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli yn y Gymdeithas a’n gwaith, ac i gymryd camau wedi’u targedu lle bo angen i sicrhau canlyniadau gwell i bawb.”