Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant

Datganiad Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant – Mawrth 2023

Mae gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru genhadaeth i hyrwyddo rhagoriaeth ac ysgolheictod, ysbrydoli dysgu, a bod o fudd i’r genedl. Er mwyn gwireddu’r genhadaeth hon, byddwn yn Gymdeithas sy’n amrywiol, ac sydd ag tegwch wrth wraidd ei gweithgareddau.

Nid yw cydraddoldeb (triniaeth gyfartal i bawb) yr un peth ag tegwch (canlyniad teg i bawb). Mae ein defnydd o’r term tegwch yn cydnabod y gwahaniaeth, ac yn cyfeirio at ein hymrwymiad i’r ymyrraeth fwy gweithredol y mae tegwch ei angen.

Ein nod yw creu diwylliant o gynhwysiant yn ein holl waith. Rydym yn ymrwymo i ddathlu, ysbrydoli a thynnu sylw at y cyfoeth amrywiol o ymchwil ac arloesedd yng Nghymru, a gweithio mewn partneriaeth â’n Cymrodyr a’r cymunedau rydym yn perthyn iddynt.

Rydym wedi ymrwymo’n gryf i herio annhegwch systemig a phob math o wahaniaethu ac ymylu, a byddwn yn parhau i weithio’n galed i arallgyfeirio ein Cymrodoriaeth a’n harferion.

Rydym wedi dod yn bell gyda’n gwaith Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant, ond rydym yn gwybod bod llawer mwy o waith i’w wneud. Dyma pam rydym yn parhau i herio ein ffordd o feddwl, gweithredu ar ein dysgu, a diweddaru ein hymrwymiadau. Yn 2023, byddwn yn cynyddu ein buddsoddiad mewn Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant, er mwyn datblygu cynllun gweithredu a monitro ein gwelliannau parhaus a’n newid ystyrlon. 

Mae rhai o’n hymrwymiadau presennol yn cynnwys:

• Gwella’r cydbwysedd rhwng y rhywiau ymhlith ein Cymrodoriaeth: rydym yn tynnu sylw at gyflawniadau Cymrodyr benywaidd, ac rydym wedi gosod targed ar gyfer rhaniad cyson o 50/50 o enwebiadau Cymrodoriaeth ar gyfer menywod a dynion.

• Annog enwebu grwpiau ethnigrwydd heb gynrychiolaeth ddigonol i’r Gymrodoriaeth.

• Dathlu gyrfaoedd amrywiol: mae ein Cymrodoriaeth a’n medalau ymchwil yn cydnabod gwahanol lwybrau a chamau gyrfa, ac rydym yn llofnodwyr y Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA).

• Amrywiaeth mewn digwyddiadau: rydym yn ceisio cael paneli a chynulleidfaoedd o siaradwyr amrywiol ym mhob digwyddiad sydd yn cael eu harwain gan y Gymdeithas, ac rydym yn gweithio gyda threfnwyr digwyddiadau rydym yn eu cefnogi i fynd i’r afael â thangynrychioli a gwella cynhwysiant. 

• Cefnogi Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar: Rydym yn cydnabod bod y diwylliant ymchwil yn amrywiol yng Nghymru. Rydym yn mynd ati i hyrwyddo rhwydweithio trawsddisgyblaethol a thraws-sefydliadol, fel y dangosir trwy ein Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar, sy’n cynnig seminarau am ddim a chyfleoedd eraill i Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar gael eu cynnwys yn ein gwaith.

• Llywodraethu: rydym yn annog enwebiadau amrywiol ar gyfer ein Cyngor a’n pwyllgorau; ein nod cychwynnol yw y bydd cydbwysedd rhwng y rhywiau yn ein pwyllgorau erbyn mis Mai 2023, ac rydym yn anelu at amrywiaeth yn ein paneli recriwtio ac asesu.

• Gwella’r data Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant rydym yn eu casglu, i nodi anghenion presennol ac anghenion y dyfodol, anghydraddoldebau posibl, a meysydd gwella i’r Gymdeithas.

Byddwn yn chwarae ein rhan weithredol yng ngweledigaeth Llywodraeth Cymru i ddileu hiliaeth o Gymru erbyn 2030.

Mae cynnydd diweddar yn cynnwys:

• Ers 2021, mae cydbwysedd rhwng y rhywiau wedi bod yn ein Cyngor a’n Pwyllgorau. Mae cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn wyth allan o’n deg Pwyllgor Craffu hefyd.

Ym mis Mai 2022, fe wnaethom groesawu 66 o Gymrodyr newydd i’r gymdeithas, ac roedd 32 ohonynt yn fenywod.

• Ym mis Hydref 2022, fe wnaethom adolygu ein ffurflenni a’n canllawiau enwebu Cymrodoriaeth a’n ffurflenni cais am ddigwyddiadau â chymorth, i sicrhau bod y broses a’r iaith yn gynhwysol ac yn briodol i’n dyheadau Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant.

• Ym mis Tachwedd 2022, fe wnaethom ddiweddaru ein polisi er mwyn cryfhau ein hymrwymiad i’r Gymraeg.

Ym mis Ionawr 2023, fe wnaethom gynllunio ffordd newydd o ofyn am ddata Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant, a gafodd ei dreialu ar bawb a enwebwyd i Gymrodoriaeth y Gymdeithas yn 22/23 (yn hytrach na dim ond y rhai a dderbyniwyd yn llwyddiannus). Bydd hyn yn cael ei gyhoeddi i’r holl Gymrodyr presennol (~ 650) ym mis Mawrth 2023.

Cysylltwch â’r Gymdeithas os hoffech drafod ein gwaith ar tegwch ac amrywiaeth.


Darllen Mwy