Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cyflwyno

Arloesi Cynhwysol i Gymru

Beth yw Arloesi Cynhwysol?

Beth sy'n gweithio yng Nghymru?

Mae pwerau datganoledig ar gyfer dinas-ranbarthau yn creu polisïau lleoledig, ymatebol sy’n mynd i’r afael ag anghenion penodol sy’n seiliedig ar le.
Cydnabyddir Cymru fel arweinydd y DU o ran integreiddio sefydliadau addysg bellach i’r ecosystem arloesi.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn hyrwyddo meddwl am y tymor hir yng Nghymru.
Mae gan brifysgolion yng Nghymru ymrwymiad cynyddol tuag at genhadaeth ddinesig, gyda phartneriaethau lleol cryf yn sbarduno ac yn lledaenu arloesedd mewn modd cynhwysol.

Beth sy'n gweithio'n dda?

Mae Gwlad y Basg yn elwa ar ddegawdau o ddilyniant polisi a gweithredwyr rhyngol cryf er mwyn cefnogi ei heconomi arloesi.
Mae mecanweithiau cyllido arloesi yr Alban yn amrywiol a chydgysylltiedig, gyda Menter yr Alban ac Interface yn gweithredu fel hwbiau defnyddiol.
Mae fframwaith Ymchwil ac Arloesi Cyfrifol UKRI yn cydnabod y gall arloesi godi cwestiynau a chreu cyfyng-gyngor i gymdeithas. Mae'n darparu prosesau i archwilio'r agweddau hyn mewn modd agored a chynhwysol.

Rhwystrau

Mae'r sector cyhoeddus yn parhau i fod yn gyndyn o fentro: mae systemau rheoleiddio a gwerthuso sydd wedi dyddio yn groes i'r ddeddfwrfa uchelgeisiol.
Mae cynlluniau cyllido a gweithdrefnau ymgeisio anhyblyg yn cyfyngu ar gyfranogiad ac yn atal arloesi.
Ceir camsyniad parhaus mai ond cwmnïau technoleg mawr sy'n sbarduno twf, ac amharodrwydd i goleddu fersiwn fwy cynhwysol o arloesi sy'n cynnwys arloesi cyhoeddus, cymdeithasol a "chyffredin" ar gyfer bywyd bob dydd.
Bydd cyfyngiadau ar adnoddau yn annog sefydliadau i encilio i fusnes fel arfer. Gan hynny, mewn cyfnodau o brinder y ceir yr angen mwyaf am gymhellion i arloesi.

Cyflwyniad

Dros y pum mis diwethaf, mae’r Gymdeithas wedi cynnull pedair trafodaeth bord gron ar arloesi, gan gasglu arbenigwyr ynghyd i lywio a gwella polisïau yng Nghymru. Roedd y trafodaethau hyn yn ymestyn cyfres o fordiau crwn arloesi blaenorol y Gymdeithas a gyfrannodd at ddatblygu Strategaeth Arloesi i Gymru (a ddaeth i rym ym mis Chwefror 2023).

Amcan y rhaglen oedd archwilio materion allweddol y rhai sy’n gweithredu yn ecosystem arloesi Cymru a dysgu yn sgil eraill y tu hwnt i’r ffiniau hynny.Yn ogystal â hynny, roedd y bordiau crwn yn rhoi cryn sylw i ‘Arloesi cynhwysol’ neu i sicrhau bod arloesi o fudd i bob rhag o gymdeithas. Yr Athro Rick Delbridge FLSW oedd yn cadeirio’r cyfarfodydd bord gron, a gynhaliwyd o dan reolau Chatham House, gyda chyfranogwyr craidd amrywiol yn rhannu mewnwelediadau ar raddfa’r DU ac o ranbarthau penodol. Bu’r dull cymharol hwn yn fodd i feithrin ymddiriedaeth ac amgylchedd lle gellir cyfnewid gwybodaeth, gan alluogi myfyrdod ar dirlkun arloesi Cymru a’r strategaeth fydd ei hangen arni yn y dyfodol.

Roedd y trafodaethau’n ystyried y themâu canlynol:

Mae adroddiadau llawn o’r trafodaethau ar gael drwy glicio ar y penawdau.

Mae trosolwg o’r prif bwyntiau o’r pedwar cyfarfod bord gron blaenorol yn rhoi cipolwg pellach o’r trafodaethau hyn:

  • Gall Cymru gael ysbrydoliaeth o ecosystem arloesi Gwlad y Basg, gan ganolbwyntio ar barhad polisi, perthnasoedd rhyng-lywodraethol cryf, gweithredwyr rhyngol, a diwylliant o adeiladu gwlad, er mwyn addasu a llywio ei gweithgareddau a’i strwythurau arloesi.
  • O ddysgu yn sgil ecosystem arloesi’r Alban, gall Cymru groesawu dulliau mwy cyfannol o ddatblygu’r economi (o gymharu â’r dulliau mwy traddodiadol sy’n canolbwyntio ar dwf), gan optimeiddio mecanweithiau cyllido, a throsoli ymyriadau sy’n seiliedig ar le.
  • Dylai cydweithrediad rhanbarthol feithrin rhwydweithiau cynhwysol ymhlith prifysgolion, busnesau, y sector cyhoeddus a chymunedau er mwyn gwella ymgysylltiad dinesig ac arloesi yng Nghymru. Gall addasu dulliau seiliedig ar le i fodloni anghenion lleol, buddsoddi yng ngallu sefydliadau, a dathlu cyflawniadau ysbrydoli cynnydd pellach a meithrin diwylliant o ymglymiad cymunedol.
  • Ers mis Mehefin 2023, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi 135 o brosiectau arloesi, sy’n cyfateb i dros £50 miliwn o gyllid grant, ac wedi meithrin cydweithrediadau pwysig ag Innovate UK, gan ddod â £57 miliwn i fusnesau Cymru. Er mwyn hybu ymdrechion am gynhwysiant o fewn yr ecosystem arloesi, mae angen trefniadau gwell i gasglu data, gwelliannau parhaus wrth gyfathrebu ac mewn partneriaethau strategol, cymorth cyllido ar gyfer BBaChau, ac ymdrechion gan sefydliadau mawr i ganolbwyntio ar ffactorau cymdeithasol a diwylliannol.

Ym mis Mehefin 2024, cynhaliodd y Gymdeithas ddigwyddiad a oedd yn cynnwys siaradwyr o amrywiaeth o sefydliadau Cymreig i drafod rhwystrau a chyfleoedd am Arloesi Cynhwysol yng Nghymru. Mae’r adroddiad hwn yn cyfuno’r prif ganfyddiadau ac argymhellion.

Arloesi Cynhwysol: Cyflwyniad

Arloesi cynhwysol yw ymagwedd drawsnewidiol at ymchwil, datblygu ac entrepreneuriaeth. Y mae wedi’i ymwreiddio yn egwyddorion amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant, ac yn anelu i ddatgymalu rhwystrau sy’n atal unigolion tangynrychioledig, grwpiau cymdeithasol, cwmnïau, sectorau a rhanbarthau rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau arloesi (OECD). Mae’r athroniaeth hon yn ehangu cwmpas y sawl a all gyfrannu at arloesi ac elwa ar hynny, ac yn cyfoethogi’r broses arloesi ei hun.

Fel rhan annatod ohono, mae arloesi cynhwysol hefyd yn cynnwys dylunio a datblygu datrysiadau gyda golwg ar sbectrwm eang o ddefnyddwyr. Yn ôl Innovate UK Business Connect, mae’r mathau hyn o arloesi wedi’u saernïo i wasanaethu ystod mor eang ag sy’n bosibl o ddefnyddwyr neu i gynnig atebion penodol i’r rhai a gaiff eu heithrio fel arfer o arloesi prif ffrwd. Bydd hyn yn sicrhau bod buddion datblygiadau technolegol a gweithgareddau entrepreneuraidd yn cael eu dosbarthu mewn modd teg.

Ar ben hyn, caiff arloesi cynhwysol ei ysgogi gan amcanion amgylcheddol a chymdeithasol, sydd yn aml yn mynd i’r afael â heriau sy’n unigryw i gyd-destunau lleol penodol. Mae Klingler-Vidra et al. (2022) yn tynnu sylw at y ffaith bod y gwaith hwn yn golygu cael perchnogion problemau i gydweithio â rhanddeiliaid lluosog i ganfod atebion sydd nid yn unig yn arloesol, ond sydd hefyd yn gymdeithasol gyfrifol ac yn berthnasol i’r cyd-destun. Oherwydd hynny, mae ymgysylltu dinesig yn rhan hollbwysig o arloesi cynhwysol, sy’n canolbwyntio ar y modd y gall sefydliadau ymchwil ac arloesi wneud gwahaniaeth ystyrlon o fewn eu cymunedau lleol. Drwy ymgysylltu â dinasyddion a phartneru ag amrywiaeth o endidau dinesig, gall y sefydliadau hyn gynyddu eu dylanwad cadarnhaol fel sefydliadau angori o fewn lle penodol. Mae hyn yn golygu cydweithredu’n rhanbarthol ar draws sectorau i adeiladu rhwydweithiau cynhwysol sy’n goresgyn ffiniau traddodiadol, a buddsoddi yn y rhwydweithiau hynny.Mae ymagweddau sy’n seiliedig ar le wedi’u teilwra i anghenion unigryw ardal benodol a’i chymunedau yn hanfodol, yn ogystal â buddsoddi yng ngallu sefydliadau i sicrhau bod ymgysylltiad dinesig wedi’i integreiddio ar draws cyllidebau ac adrannau, yn hytrach na dibynnu ar unigolion neu brosiectau penodol.

Mae ymgysylltu dinesig yn rhan hollbwysig o arloesi cynhwysol, sy'n canolbwyntio ar y modd y gall sefydliadau ymchwil ac arloesi wneud gwahaniaeth ystyrlon o fewn eu cymunedau lleol.

Hefyd, er mwyn arloesi’n gynhwysol mae angen ailfeddwl yr hyn a ystyrir yn arloesi llwyddiannus, a sut y gall gweithredwyr rhanbarthol ysgogi arloesi. Ceir camsyniad parhaus mai ond cwmnïau technoleg mawr sy’n sbarduno twf, gan fwrw cysgod yn aml dros bwysigrwydd “arloesi cyffredin” (Henderson et al. 2024). Mae arloesi cyffredin yn golygu gwella’r gwasanaethau a’r seilwaith hanfodol – fel gofal iechyd, addysg a thrafnidiaeth – sy’n cenogi bywyd beunyddiol a llesiant y gymuned; dyma’r nwyddau a’r gwasanaethau cyffredin bob dydd sy’n rhan o’r economi sylfaenol.

Ar ben hynny, mae deall y ddynameg rhwng yr economi greiddiol (yr ardaloedd trefol) ac ymylol (ardaloedd anghysbell sy’n llai cryf yn economaidd) yn hanfodol, yn enwedig mewn gwlad fel Cymru. Mae’r economi greiddiol yn aml yn ysgogi’r economi fasnachadwy, a nodweddir yn aml gan sectorau sy’n cynhyrchu nwyddau a gwasanaethau i’w hallforio, ac sy’n elwa ar lefelau buddsoddi ac arloesi uwch. Ar y llaw arall, mae’r economi ymylol yn dibynnu’n helaeth ar yr economi sylfaenol fel gofal iechyd, addysg, tai, trafnidiaeth a chyfleustodau. Mae’r gwasanaethau hyn fel arfer yn rhai anfasnachadwy, gan olygu eu bod yn cael eu defnyddio’n lleol, a heb gael eu masnachu’n rhyngwladol.Mewn rhanbarthau ymylol, yr ystyrir yn aml eu bod yn sefyll yn eu hunfan o ran arloesi, bydd arloesi cyffredin yn caniatáu i rinweddau unigryw’r rhanbarthau droi’n asedau, gan alluogi i arloesi ddigwydd mewn ffyrdd gwahanol i’r arloesi mewn ardaloedd trefol (gweler Ffigur 1).

Graphic: peripheral regions
Ffigur 1: Mundane innovation in the periphery: the foundational economy in a less developed region. Ffynhonnell: Henderson et al. (2024) https://doi.org/10.1080/00343404.2024.2320769

I gloi, mae arloesi cynhwysol yn ailddiffinio’r tirlun arloesi drwy bwysleisio amrywiaeth, tegwch a hygyrchedd, gan sicrhau bod buddion datblygiadau technolegol ac entrepreneuraidd yn cael eu dosbarthu’n eang. Mae arloesi cynhwysol wedi’i seilio ar ddealltwriaeth eang o’r gwahanol fathau o arloesi, a’r ffurfiau ar werth y gellir eu creu, o werth diwylliannol, cyhoeddus a chymdeithasol hyd at ganlyniadau masnachol ac economaidd. Mae’n cynnwys dylunio atebion gyda golwg ar ystod eang o ddefnyddwyr, gan fynd i’r afael â heriau lleol ac amgylcheddol, ac integreiddio ymgysylltu dinesig i greu effeithiau ystyrlon o fewn cymunedau. Mae’r ymagwedd hon yn amlygu pwysigrwydd arloesi cyffredin – gwelliannau graddol i wasanaethau hanfodol – yn enwedig mewn rhanbarthau ymylol yr ystyrir yn aml eu bod yn brin o botensial i arloesi. Drwy gydnabod gwerth economïau sylfaenol yn yr ardaloedd hyn a meithrin rhwydweithiau cynhwysol, gallwn greu ecosystemm arloesi decach a mwy effeithiol, sy’n goresgyn ffiniau traddodiadol ac yn cefnogi cyfraniadau amrywiol er budd ein holl ddinasyddion.

Strategaeth Arloesi i Gymru: Diweddariad ynghylch Statws Gweithredu

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio i roi ei Strategaeth Arloesi i Gymru ar waith, gan ddilyn y canllawiau a amlinellwyd yn y ddogfen bolisi a strategaeth “Cymru’n Arloesi: Creu Cymru gryfach, decach a gwyrddach.” Mae’r strategaeth yn cael ei llywio a’i harwain gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan roi lle creiddiol i ddinasyddion ac ystyriaethau hirdymor. Yn ogystal â hynny, mae tri phwynt hollbwysig yn llywio gweithrediad y strategaeth: cydweithio, cydraddoldeb, a mapio ecosystemau.

Mae cydweithio yn hanfodol er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn, ac ar gyfer hynny mae angen ymdrechion cydweithredol gan randdeiliaid amrywiol, gan gynnwys sefydliadau cyhoeddus, mentrau preifat a grwpiau cymunedol. Yn benodol, mae cydweithrediad Llywodraeth Cymru â Innovate UK wedi cynyddu nifer y ceisiadau am gyllid arloesi yng Nghymru i raddau sylweddol. Ceir dealltwriaeth eang o gydraddoldeb, gan gynnwys nid yn unig cydraddoldeb demograffig, ond hefyd cydraddoldeb rhanbarthol, gan sicrhau bod pob rhan o Gymru’n elwa ar y tirlun arloesi ac yn cyfrannu ato.Mae mapio ecosystemau yn hanfodol er mwyn gweld y darlun ehangach; mae Llywodraeth Cymru felly wedi llunio map cynhwysfawr o ecosystem arloesi Cymru. Mae’r gwaith mapio hwn yn cynnwys y sector cyhoeddus, y sector addysg, sefydliadau ymchwil, asedau arloesi, darparwyr cyllid, y trydydd sector a diwydiant.

Un her fawr arall yn gysylltiedig â gweithredu hyd yma yw sut i gynnwys dinasyddion yn y broses mewn modd ystyrlon. Mae’n anodd parhau i ymgysylltu’n gyson, gan fod dinasyddion yn tueddu i ymlwybro i mewn ac allan o’r broses. Un awgrym oedd datblygu cynlluniau cyfathrebu cynhwysfawr er mwyn cael darlun cyfannol o deimladau ac ymglymiad y cyhoedd. Yn ogystal â hynny, roedd diddordeb sylweddol mewn codi dyheadau plant a phobl ifanc yn gysylltiedig ag arloesi. Er enghraifft, mae ymchwil gynhaliwyd gan UCAS yn awgrymu bod plant sy’n penderfynu mynd i’r brifysgol erbyn troi’n ddeg neu cyn hynny 2.6 gwaith yn fwy tebygol o ymrestru mewn prifysgol gystadleuol na rhai sy’n dewis gwneud hynny yn hwyr yn eu harddegau. Mae hyn yn amlygu rôl dyngedfennol cysylltiad ac anogaeth gynnar er mwyn llywio canlyniadau hirdymor o ran addysg a gyrfa, gan bwysleisio’r angen am fentrau rhagweithiol i feithrin uchelgais a pharodrwydd am heriau yn y dyfodol mewn meysydd a ysgogir gan arloesi.

Bydd ffocws Llywodraeth Cymru ar wella cydweithio, cydraddoldeb a mapio ecosystemau wrth weithredu'r Strategaeth Arloesi i Gymru yn hollbwysig er mwyn ysgogi gwelliant parhaus.

Ceir angen dybryd i newid agweddau at risg yn y sector cyhoeddus. Nododd sawl un a gymerodd ran yn y cyfarfodydd bord gron fod ofn methiant yn aml yn arwain at golli cyfleoedd. Mae’r diffyg cyswllt hwn rhwng uchelgeisiau deddfwriaethol a dulliau rheoleiddio sydd wedi dyddio yn rhwystr i arloesi wrth i fentrau newydd ymdrechu i wneud cynnydd o fewn fframweithiau rheoleiddio sy’n gwrthsefyll newid ac yn or-ofalus. O ganlyniad i hynny, mae system sy’n rhoi’r flaenoriaeth i osgoi risg ar draul atebion creadigol yn mygu’r potensial am ddatblygiadau a pholisïau blaengar. Tynnwyd sylw at fewnwelediadau o ddiwylliant arloesi Fietnam, sy’n annog y dylid derbyn methiant ac yn cefnogi busnesau newydd, fel model i’s ystyried. Wrth edrych i’r dyfodol, bydd ffocws Llywodraeth Cymru ar wella cydweithio, cydraddoldeb a mapio ecosystemau wrth weithredu’r Strategaeth Arloesi i Gymru yn hollbwysig er mwyn ysgogi gwelliant parhaus. Er mwyn symud ymlaen, rhaid ymdrechu i ymgysylltu â dinasyddion, meithrin uchelgais cynnar ymhlith pobl ifanc, ac addasu dulliau ariannu a rheoleiddio i greu amgylchedd arloesi sy’n fwy deinamig a chynhwysol.

Ymagweddau Dinas-ranbarth at Arloesi Cynhwysol

Mae dinas-ranbarthiaeth yn cyfeirio at ddull o lywodraethu sy’n pwysleisio pwysigrwydd rhanbarthau metropolitanaidd fel canolbwynt er mwyn gweithredu datblygiad, cynllunio a pholisi economaidd. Yn wahanol i’r dull llywodraethu dinesig traddodiadol, sy’n tueddu i weithredu o fewn ffiniau dinasoedd neu drefi, mae dinas-ranbarthiaeth yn cydnabod bod heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yr 21ain ganrif yn mynd y tu hwnt i’r ffiniau hyn. Mae’r dull hwn yn hyrwyddo fframweithiau cydweithredol sy’n dod â dinasoedd, trefi ac ardaloedd gwledig cyfagos ynghyd o fewn rhanbarth metropolitanaidd mwy, er mwyn mynd i’r afael â phroblemau cyffredin a manteisio ar gryfderau cyfunol.

Mae dinas-ranbarthau yn y DU yn wynebu heriau a chyfleoedd unigryw wrth feithrin arloesi cynhwysol. Yn benodol, mae anghydraddoldebau parhaus, mesurau cyni, a’r heriau o ran polisi aml-lefel sy’n gysylltiedig â datganoli, yn rhwystrau difrifol i gyrff llywodraethu o’r fath. Mae dinasoedd ail haen y DU yn perfformio’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol, sy’n anarferol yng nghyd-destun Ewrop ac yn amlygu’r angen am strategaethau wedi’u teilwra sy’n seiliedig ar le i  sbarduno twf cynhwysol. Yn y digwyddiad, bu’r cyfranogwyr yn ystyried y cyfleoedd a’r heriau o flaen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – rhanbarth economaidd mwyaf Cymru. Manteisiwyd ar y cyfle i edrych ar yr hyn sy’n debyg ac yn wahanol rhwng y rhain a’r rhai a brofir ym Manceinion Fwyaf, dinas-ranbarth flaenllaw yn Lloegr y mae ei hymagwedd at arloesi a datblygiad economaidd rhanbarthol wedi bod yn aeddfedu ers degawd a mwy.

Rhanbarth Manceinion Fwyaf

Sir fetropolitanaidd yng Ngogledd Orllewin Lloegr yw Manceinion Fwyaf, sy’n cynnwys deg awdurdod lleol: Manceinion, Bolton, Bury, Oldham, Rochdale, Salford, Stockport, Tameside, Trafford a Wigan. Mae’n cynnwys ardal o oddeutu 493 metr sgwâr (1,276 km sgwâr) a phoblogaeth amrywiol o fwy na 2.8 miliwn o bobl. Mae’r rhanbarth yn adnabyddus am ei amrywiaeth economaidd, gyda diwydiannau allweddol yn cynnwys gweithgynhyrchu uwch, diwydiannau digidol a chreadigol, gwasanaethau ariannol, gofal iechyd a gwyddorau bywyd. Mae Manceinion, y ddinas fwyaf, a chanolfan economaidd y rhanbarth yn gartref i sefydliadau diwylliannol, prifysgolion a busnesau rhyngwladol o bwys. Mae Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf (ACMF) yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gydgysylltu polisïau a mentrau rhanbarthol sy’n anelu i ysgogi arloesi, twf cynaliadwy, a gwella ansawdd bywyd i’w drigolion.

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

An aerial view of Cardiff

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) wedi’i lleoli yn Ne Cymru, ac mae’n cynnwys deg awdurdod lleol: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg. Mae’n ymestyn dros tua 1,300 milltir sgwâr (3,400 cilomedr sgwâr) ac yn gartref i boblogaeth amrywiol o fwy nag 1.5 miliwn o bobl. Nodweddir y rhanbarth gan ei gryfderau economaidd mewn sectorau fel gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, gweithgynhyrchu uwch, gwyddorau bywyd, TGCh a’r diwydiannau creadigol. Caerdydd, sef prifddinas Cymru, yw’r prif ganolbwynt economaidd a diwylliannol o fewn y rhanbarth, ac mae’n gartref i sawl sefydliad addysg. Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a sefydlwyd i sbarduno twf economaidd a datblygu seilwaith, yn canolbwyntio ar arloesi, datblygu sgiliau, a mentrau trafnidiaeth gynaliadwy. Mae cydweithio rhwng awdurdodau lleol, busnesau a’r byd academaidd yn allweddol er mwyn datblygu gallu’r rhanbarth i gystadlu’n economaidd, ac er mwyn gwella ansawdd bywyd ei drigolion.  Mae mentrau fel y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn dangos sut y gall llwyddiant masnachol ddod law yn llaw â buddion i gymdeithas, gan gynnwys allgymorth addysgol a chreu swyddi lleol.

Efallai nad yw eu perfformiad economaidd gystal â chyfartaledd cenedlaethol y DU, mae’r rhanbarthau hyn hefyd yn elwa ar asedau nodedig, fel sefydliadau academaidd cryf, meysydd diwylliannol bywiog ac economïau lleol dynamig a all sbarduno arloesi. Drwy fanteisio ar y cryfderau hyn a meithrin cydweithredu rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat ac academaidd, gall y dinas-ranbarthau hyn ddatblygu strategaethau wedi’u teilwra i hyrwyddo twf cynhwysol. Er enghraifft, mae pwerau datganoledig newydd yn cynnig cyfle i greu polisïau mwy lleol, ymatebol sy’n mynd i’r afael ag anghenion rhanbarthol penodol.

Er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau parhaus, yn enwedig ym Manceinion Fwyaf ac ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae angen ymagwedd gynnil sy’n ystyried ardaloedd gwledig a threfol. Gall llywodraethu effeithiol, ynghyd â buddsoddiad wedi’i dargedu mewn sgiliau, seilwaith a thechnoleg, helpu i oresgyn rhwystrau a sicrhau bod buddion arloesi yn cael eu rhannu’n eang. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn creu’r angen i oresgyn gwrthdaro di-fudd, fel y ddadl rhwng trefi a dinasoedd, lle gallai buddsoddi yn ardaloedd cyfoethocaf y rhanbarth greu enillion ar unwaith, ond gwaethygu cydraddoldeb o beidio â’i reoli mewn modd cynhwysol. Mae hi hefyd yn hanfodol meithrin ffyrdd cysylltiedig o feddwl drwy gysylltu polisi arloesi â datblygiad sgiliau, cynllunio trafnidiaeth ac addysg bellach (AB). Mae Cymru wedi cael ei gweld fel arweinydd o ran integreiddio AB i’w strategaethau arloesi o dan y sefydliad newydd diweddar, Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

Ar ben hynny, dylai arloesi cynhwysol fod yn rhan annatod o’r holl ymdrechion arloesi, yn hytrach na thrin hynny fel thema ychwanegol. Mae polisi diwydiannol heddiw yn ymwneud llai â ffatrïoedd traddodiadol ac yn fwy â goresgyn tlodi a meithrin economi wydn, amrywiol. Mae hyn yn cynnwys arloesi mewn gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi’r economi bob dydd, gan gydnabod nad cwmnïau technoleg mawr yn unig sy’n sbarduno twf, ac na fydd y cwmnïau hynny’n bresennol ym mhob man. Wrth i bedwar rhanbarth economaidd Cymru drosglwyddo i’w endidau sefydliadol newydd fel cyd-bwyllgorau corfforaethol, bydd yn ddiddorol gweld sut y bydd datganoli rhai pwerau statudol a’r cynnydd yn y gallu i lunio polisïau rhanbarthol yn fodd i fodloni anghenion penodol seiliedig ar le a chyfleoedd ar draws pedair cornel y wlad.   Roedd y rhai a gymerodd ran yn y digwyddiad yn gadarnhaol wrth groesawu’r datblygiadau hyn a’r posibilrwydd am fwy o ‘ranbarthiaeth flaengar’

I gloi, mae dinas-ranbarthiaeth yn cynnig fframwaith llywodraethu ymarferol sy’n mynd i’r afael â heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol rhyng-gysylltiedig ardaloedd metropolitanaidd. Gan ganolbwyntio ar ranbarthau ehangach yn hytrach na bwrdeistrefi anghysbell, nod y dull pragmatig hwn yw meithrin twf cynaliadwy a sicrhau buddion eang, gan gyfrannu at ddatblygiad rhanbarthol mwy cytbwys.

Ymchwil ac Arloesi Cyfrifol

Gan fod y cyd-destun rhanbarthol ar gyfer arloesi wedi bod yn newid, felly hefyd y mae rhai o’r disgwyliadau gan brifysgolion wedi newid, o ran eu rolau fel gweithredwyr rhanbarthol ac fel cyfranwyr at ecosystemau arloesi. Yn sgil y datblygiadau hyn rydym wedi gweld mwy o gydnabyddiaeth o’r berthynas rhwng ymchwil ac arloesi, ac o’u harwyddocâd ehangach i gymdeithas.

Mae cyrff allweddol fel Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) wedi dadlau’n gynyddol o blaid ‘ymchwil cyfrifol’, sy’n pwysleisio’r angen i ymgysylltu â’r cyhoedd ac i ystyried yr effeithiau ar gymdeithas drwy gydol y broses ymchwil. Yn ôl Stilgoe et al. (2013), “Ceir cysylltiadau annatod rhwng ymchwil gyfrifol ac arloesi cynhwysol, gan ffurfio ymagwedd synergaidd sy’n sicrhau bod datblygiadau gwyddonol ac arloesi technolegol wedi’u gwreiddio mewn moeseg ac yn creu budd eang.” Mae’r ymagwedd hon yn mynd i’r afael â dimensiynau moesegol ymchwil. Mae’n cyd-fynd yn agos ag egwyddorion arloesi cynhwysol, sy’n ceisio sicrhau bod buddion arloesi yn cael eu rhannu’n eang ac yn hygyrch i bob rhan o gymdeithas.

Mae fframwaith AREA (rhagweld, myfyrio, ymgysylltu a gweithredu) y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (gweler Ffigur 2) yn amlinellu’r dulliau sylfaenol a ddefnyddir i ystyried ymchwil ac arloesi cyfrifol.

Graphic: the EPSRC’s AREA framework
Ffigur 2: ESPRC AREA framework. Am ragor o wybodaeth ewch i: https://www.ukri.org/about-us/epsrc/our-policies-and-standards/ framework-for-responsible-innovation/ [Diagram credited to: EPSRC, UKRIO and Catalyst editorial ltd.]

Mae fframwaith AREA y Cyngor Ymchwil yn cynnwys pedwar cam: Rhagweld, Myfyrio, Ymgysylltu, a Gweithredu. Yn y cam Rhagweld, dylai ymchwilwyr ddisgrifio effeithiau posibl eu hymchwil – economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol – gan archwilio’r canlyniadau anfwriadol ac ymdrin ag elfennau o anwybodaeth a chyfyng-gynghorion moesegol. Yn ystod y cam Myfyrio, byddant yn cynnal asesiad beirniadol o’r effeithiau posibl hyn, gan herio rhagdybiaethau a chydnabod bylchau mewn gwybodaeth. Mae’r cam Ymgysylltu yn golygu ehangu’r ymchwil i gynnal deialog â rhanddeiliaid amrywiol, er mwyn archwilio cymhellion, effeithiau a chwestiynau, gan sicrhau cynhwysiant ac arfer da. Yn olaf, yn y cam Gweithredu, bydd ymchwilwyr yn gweithredu newidiadau ar sail adborth gan randdeiliaid, gan addasu eu hymagwedd i wella canlyniadau cadarnhaol, a chyfrannu at lesiant a chynaliadwyedd cymdeithas. Trwy gymhwyso fframwaith AREA, gall ymchwilwyr sicrhau bod eu gwaith yn gyfrifol ac yn cael effaith ar draws sawl dimensiwn, gan gefnogi nodau Arloesi Cynhwysol.

Mae ymchwil gyfrifol felly'n fesur diogelu, sy'n sicrhau rheolaeth ofalus ar y trywydd arloesi, a chysondeb â buddiannau'r cyhoedd.

Mae’r cysyniad o ymchwil gyfrifol hefyd yn gysylltiedig â’r comin arloesi – gofod a rennir lle bydd gweithredwyr amrywiol yn cydweithio, yn rhannu gwybodaeth ac yn mynd ati i gyd-greu atebion. Yn y rhwydweithiau cymhleth hyn o randdeiliaid, gall anghenion a buddiannau gwahanol grwpiau weithiau wrthdaro â’i gilydd, gan ei gwneud hi’n her sicrhau bod pawb yn elwa. Gall ymchwilwyr gael dealltwriaeth well o bryderon, disgwyliadau a gwerthoedd y cyhoedd, ac ymdrin â’r rheiny, drwy gynnwys grwpiau o randdeiliaid amrywiol yn y broses ymchwilio, o’r dechrau un hyd at weithredu. Mae’r ymgysylltu hwn yn hanfodol wrth ymdrin ag ymyriadau dadleuol, lle gall hyd yn oed y weithred o gynnal ymchwil ymddangos bwriad i fwrw ymlaen â chynigion a allai fod yn yn gynhennus. Mae ymchwil gyfrifol felly’n fesur diogelu, sy’n sicrhau rheolaeth ofalus ar y trywydd arloesi, a chysondeb â buddiannau’r cyhoedd.

Yn y pen draw, mae ymchwil gyfrifol ac arloesi cynhwysol yn creu fframwaith lle bydd ystyriaethau moesegol ac anghenion cymdeithas yn llywio datblygiadau gwyddonol a thechnolegol. Mae’r dull integredig hwn yn sicrhau bod datblygiadau arloesol yn gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl o ran creu gwerth, heb aberth foesegol na chymdeithasol.

Bwrw Ymlaen â Pholisi Arloesi: Llwyddiannau, Heriau, a Chyfeiriadau i'r Dyfodol

Mae Cymru wedi ceisio sefydlu gweledigaeth gydlynol ar gyfer polisi arloesi gyda’r nod o alinio rhanddeiliaid a mentrau yn effeithiol er mwyn meithrin arloesi ar draws sectorau. Mae’r rhain yn ddyheadau pwysig, ond mae’r rhan fwyaf o dystiolaeth yn dangos eu bod yn heriol i’w cyflawni.

Mae endidau a gefnogir gan Lywodraeth y DU fel y Canolfannau Catapwlt wedi cael eu sefydlu i chwarae rhan ganolog, ond gyda chanlyniadau cymysg. Yng Nghymru, ceir llwyddiannau nodedig, gan gynnwys CSConnected a MediaCymru, sy’n amlygu’r budd a geir wrth dargedu cymorth at feysydd uchel eu potensial. Fodd bynnag, erys heriau, gan gynnwys hyrwyddo straeon am lwyddiant yn well i ysbrydoli ymgysylltiad a buddsoddiad ehangach ac addasu modelau sector-benodol llwyddiannus i feysydd eraill. Rhaid i brifysgolion a sefydliadau ymchwil eraill wella eu cefnogaeth ar gyfer arloesi. Er mwyn gwneud hyn bydd angen gwell dealltwriaeth o’r llwybr o’r syniad tuag at fabwysiadu, a sut y gellir cefnogi hyn, ochr yn ochr â gwelliannau wrth gasglu data, ac o ran integreiddio tegwch drwy’r holl gylchoedd arloesi. Pan fo adnoddau’n brin, bydd sefydliadau’n aml yn dychwelyd i wneud busnes fel arfer, gan weithio mewn modd ymatebol yn hytrach na rhagweithiol. Y duedd hon yw antithesis arloesi; felly mae’r angen am gymhellion i ysgogi arloesi ar ei fwyaf yn ystod cyfnodau o brinder.

Mae mynd i’r afael â bylchau ariannu mewn sectorau hollbwysig yn hollbwysig, gan fod cyfyngiadau ar adnoddau yn aml yn rhwystro arferion arloesol. Wrth gyfeirio polisi yn y dyfodol, dylid pwysleisio’r angen i ddatblygu sgiliau ochr yn ochr ag anghenion arloesi esblygol, rheolaeth gydgysylltiedig ar risg, a chymell buddsoddiadau hirdymor mewn prosiectau trawsnewidiol. Wrth newid sefydliadau dylid canolbwyntio ar ddefnyddio strwythurau cydweithredol i oresgyn heriau rhanbarthol, a chael ysbrydoliaeth o fodelau rhyngwladol llwyddiannus wedi’u teilwra i gyd-destun unigryw Cymru. I gloi, er bod Cymru wedi gosod rhai sylfeini ar gyfer arloesi, bydd adrodd ein stori arloesi yn fwy effeithiol, ehangu effeithiau buddiol ein haddasiadau sector-benodol a dysgu o’r rhain, ehangu arferion rhannu data, cynhwysiant, a chymorth i sefydliadau oll yn hanfodol er mwyn adeiladu ecosystem arloesi sy’n fwy gwydn a chynhwysol i’r dyfodol.