Ystyriaethau ar gyfer Strategaeth Arloesi yng Nghymru

Myfyrdodau o drafodaethau
bord gron

Rhagair

Mae arloesi yn derm a ddefnyddir yn aml ac sy'n cael ei gamddeall ar brydiau. Yr hyn sydd wrth wraidd arloesi yw creu gwerth. A gallai'r gwerth hwnnw fod yn ddiwylliannol neu'n gymdeithasol yn ogystal ag economaidd. Mae mwy i arloesi na thechnolegau newydd a thorri tir newydd mewn meysydd gwyddonol - mae'n broses gymdeithasol a chydweithredol.

Dengys ymchwil pa mor ganolog yw arloesi i berfformiad economaidd, ond hefyd pa mor hanfodol ydyw i fynd i’r afael â heriau mewn cymdeithas a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Mae ymchwil a datblygu corfforaethol yn rhan annatod o unrhyw ecosystem arloesi, ond mae entrepreneuriaeth a busnesau bach, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, prifysgolion a llunwyr polisi hefyd yn bwysig. Yr hyn sy’n allweddol yw’r modd y cydlynir y cydrannau hyn, a’r modd y maent yn ategu’r naill a’r llall. Ni all polisi da greu ecosystemau bywiog ond gall gynorthwyo a chefnogi arloesedd.

Yn y cyfarfodydd bord gron hyn, ceisiwyd archwilio syniadau a allai gynorthwyo Cymru i wireddu ei photensial fel cenedl arloesi.

Cyflwyniad

Dros y deunaw mis diwethaf, mae’r Gymdeithas wedi cynnull chwe thrafodaeth bord gron, gan ddod ag arbenigwyr, ymarferwyr ac arweinwyr o’r byd arloesi ynghyd er mwyn helpu i oleuo a gwella polisïau ac arferion arloesi yng Nghymru, ac ar gyfer Cymru. Roedd y rhaglen weithgarwch hon yn amserol ac ystyried gwaith parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Arloesi newydd i Gymru.

Amcan y rhaglen oedd archwilio’r prif faterion gyda’r rhai sy’n gweithredu yn ecosystem arloesi Cymru a dysgu gan eraill y tu hwnt i Gymru er mwyn cyfrannu at y meddylfryd wrth wraidd y Strategaeth Arloesi newydd. Cydnabuwyd cyfraniad y trafodaethau a’r adroddiadau a ddeilliodd ohonynt ym mis Medi 2022, pan gafodd y Gymdeithas wahoddiad i gyd-gynnal a chyd-gynnull trafodaeth bord gron gan Weinidog yr Economi ac Arweinydd Plaid Cymru, i gyfrannu’n uniongyrchol at gamau olaf yr ymgynghoriad ar y Strategaeth Arloesi Ddrafft i Gymru.

Ochr yn ochr â datblygiadau penodol yng Nghymru, roedd y cyfarfodydd bord gron yn myfyrio ar y datblygiadau hynod arwyddocaol a gafwyd yn ddiweddar ar raddfa’r DU, gan gynnwys Strategaeth Arloesi’r DU; Yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant 2021 gan Drysorlys EM a wnaeth ymrwymiad cryf i gynyddu cyllid YaD i £20 biliwn erbyn 2024-25; a Phapur Gwyn Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU a oedd yn pwysleisio’r uchelgais y byddai cyfran fwy o wariant y llywodraeth ar YaD yn y DU dros y tair blynedd nesaf yn cael ei fuddsoddi y tu allan i Dde-ddwyrain Lloegr Fwyaf. Yn Natganiad Hydref 2022 Trysorlys EM gwelwyd Llywodraeth y DU yn ailymrwymo i’r cynnydd mewn buddsoddiad mewn gweithgarwch Ymchwil a Datblygu, sy’n cynrychioli cynnydd mewn gwariant o 35% o gymharu â lefelau 2021-22. Mae creu Adran ar gyfer Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg yn llywodraeth y DU yn yr ychydig wythnosau diwethaf yn gydnabyddiaeth bellach o bwysigrwydd ymchwil a datblygu i’r economi a chymdeithas. 

Mae’r datblygiadau hyn ar raddfa’r DU yn creu cyd-destun cymharol addawol ar gyfer gweithgarwch ymchwil ac arloesi. Fodd bynnag, fel y mynegwyd yn glir mewn adroddiad diweddar, Cwmpasu Dyfodol Polisi Arloesi yng Nghymru, bydd colli mynediad at Gronfeydd Strwythurol yr UE, a’r ffaith na chafwyd unrhyw gynlluniau cyllido cyfwerth i gymryd eu lle hyd yma ar raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn her enfawr o ran arloesi yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Roedd yr arian hwn yn bwysig er mwyn cefnogi datblygiad capasiti Datblygu, Ymchwil ac Arloesi Cymru, a’i photensial i gydweithio. Yn y dyfodol, mae’n debygol y bydd angen i weithredwyr o fewn ecosystem arloesi Cymru fod yn fwy effeithiol wrth sicrhau cyllid cystadleuol a bydd y modd y mae’r prif gyllidwyr, gan gynnwys Llywodraeth y DU ac Ymchwil ac Arloesi yn y DU, yn llunio ac yn darparu cefnogaeth ar gyfer arloesi seiliedig ar le yn allweddol.

Yn y dyfodol, mae’n debygol y bydd angen i weithredwyr o fewn ecosystem arloesi Cymru fod yn fwy effeithiol wrth sicrhau cyllid cystadleuol a bydd y modd y mae'r prif gyllidwyr, gan gynnwys Llywodraeth y DU ac Ymchwil ac Arloesi yn y DU, yn llunio ac yn darparu cefnogaeth ar gyfer arloesi seiliedig ar le yn allweddol.

Cadeiriwyd y cyfarfodydd bord gron gan yr Athro Rick Delbridge FLSW, yn ei rôl fel Cynghorydd Arbenigol ynghylch arloesi i Lywydd y Gymdeithas. Cynhaliwyd trafodaethau o dan reolau Chatham House.Dewiswyd cyfranogwyr craidd i sicrhau cymysgedd o ymarferwyr ac ymchwilwyr, safbwynt Cymru gyfan a chydbwysedd da o ran y rhywiau. Daeth nifer o’r grŵp craidd â phrofiad o bolisïau a mentrau’r DU gyfan, a safbwynt o ranbarthau y tu hwnt i Gymru.Roedd pob un o’r cyfarfodydd bord gron yn canolbwyntio ar thema ac yn dod ag arbenigwyr ynghyd o leoedd a phrosiectau sy’n llwyddo i arloesi’n dda, i rannu eu gwybodaeth a’u profiad, ac i ysgogi myfyrdod ar y modd y gallai Cymru wella’r modd y mae’n arloesi.Drwy gymharu’r naill a’r llall fel hyn crëwyd awyrgylch i gyfnewid gwybodaeth. Bu’r patrwm o gyfarfodydd bord gron rheolaidd a’r ymgynghori agos â’r grŵp creiddiol yn fodd i ennyn ymddiriedaeth, gan greu lle i ymarferwyr ac arbenigwyr arloesi fyfyrio’n agored ar eu profiadau personol a mynegi eu barn ynghylch cryfderau a gwendidau tirlun arloesi Cymru, ac ystyried beth fyddai angen sylw yn Strategaeth Arloesi nesaf Cymru.

Ystyriwyd y themâu canlynol yn ystod y trafodaethau:

Gellir cael adroddiadau llawn o’r trafodaethau drwy glicio ar y teitlau.

Dyma’r prif ystyriaethau i ddatblygu gweithgarwch arloesi ymhellach yng Nghymru a oedd yn deillio o’r trafodaethau:

Yr angen am naratif newydd o arloesi yng Nghymru

Roedd yr angen am naratif arloesi newydd i Gymru yn thema a godai dro ar ôl tro yn y trafodaethau bord gron. Roedd consensws y byddai ‘stori’ gymhellol a chynhwysol yn rhannu cryfderau a llwyddiannau, yn gatalydd ar gyfer gweithgarwch, yn hyrwyddo’r agenda arloesi, ac yn ysbrydoli’r genedl. Dylai’r naratif fod yn seiliedig ar y gwerthoedd a’r dyheadau wrth wraidd Strategaeth Arloesi Cymru, a chyfrannu at y rheiny.

Roedd Strategaeth Arloesi Cymru (2013) yn pwysleisio pwysigrwydd ‘hyrwyddo diwylliant arloesi’, ac y byddai creu naratif gwell yn gysylltiedig ag arloesi yng Nghymru yn cyfrannu at gryfhau’r diwylliant hwn. Yn 2022, ceir angen o hyd i gryfhau’r naratif ac amlygu’r gweithgarwch arloesi sy’n digwydd yn y genedl; ceir pocedi o gryfderau a llwyddiannau y gellir tynnu mwy o sylw atynt. Fod bynnag, mae angen taro cydbwysedd, gan fod rhai o’r llwyddiannau’n gymharol gyffredin o’u cymharu â gweithgarwch arloesi yn rhannau eraill o’r DU. Serch hynny, byddai naratif arloesi sy’n crisialu cryfderau presennol Cymru ac yn adeiladu arnynt yn rhan werthfawr o’r strategaeth a’r broses o’i gweithredu.

Gall cenhedloedd bychain fanteisio ar ymdeimlad cryf o hunaniaeth ac arbenigrwydd. Mae ganddynt hefyd botensial sylweddol i fod yn ystwyth – yn aml gall fod yn haws dod â phobl a sefydliadau ynghyd o bob rhan o’r genedl, canfod achos cyffredin a meithrin trefniadau cydweithredol. Nid oes angen i weithgareddau mewn cenhedloedd bychain fod yn gyfyngedig o reidrwydd o ran uchelgais, nac o ran effaith. Mae nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol yn cynnig fframwaith i greu cysyniad o heriau cenhadol hirdymor wedi’u diffinio’n glir. Gallai hynny gyfrannu at wella bywydau pobl Cymru a chynnig modelau ymyriad y gellid eu mabwysiadu mewn cenhedloedd a rhanbarthau eraill.

Nid oes angen i weithgareddau mewn cenhedloedd bychain fod yn gyfyngedig o reidrwydd o ran uchelgais, nac o ran effaith

Un o gryfderau cenhedloedd bach yw’r gallu i ddatblygu camau gweithredu cydlynol ar draws rhanddeiliaid allweddol, a all gryfhau a hyrwyddo naratif clir ynghylch arloesi ymhellach. Mae angen i Strategaeth Arloesi Cymru esbonio sut y gallai gweithredwyr y tu hwnt i Lywodraeth Cymru gyfrannu at yr agenda genedlaethol hon. Er enghraifft, mae’r dull fframio helics triphlyg neu’r MIT REAP, y naill a’r llall yn nodi’r prif rolau a gyflawnir gan amrywiaeth o weithredwyr mewn ecosystemau arloesi. Gallai Cymru ei chyflwyno’i hun fel pair arloesi yn ei ystyr ehangaf, er mwyn sicrhau buddsoddiad ac annog a chefnogi gweithgarwch arloesi yn well. Byddai angen i’r naratif felly gydnabod yr ystod eang o weithredwyr – a’r gweithredwyr posibl – a dangos effaith arloesi, gan edrych ymlaen gyda lefel briodol o uchelgais ynghylch y dyfodol. Byddai hyn yn cyfrannu at ymwybyddiaeth gynyddol o botensial arloesi, ac yn creu ymdeimlad o berthyn a chynhwysiant.

Y Capasiti i Fywiogi Arloesedd yng Nghymru

Nid oes gan system arloesi Cymru y capasiti eto yn nhermau seilwaith – y seilwaith caled na’r seilwaith meddal – i ennill digon o gyllid drwy fidiau cystadleuol, nag i dderbyn cynnydd sylweddol mewn buddsoddiad allanol.

Mae angen ymyrryd yn barhaus i greu sylfaen gryfach o ran:

  • Pobl a sgiliau,
  • Cyfleusterau a seilwaith ffisegol
  • Cynyddu’r gallu i ehangu er mwyn derbyn twf yn y grantiau a enillir yn y dyfodol.

Byddai Cymru’n elwa ar strategaeth talent integredig, er mwyn ymdrin â phroblemau’n gysylltiedig â sgiliau, y cyflenwad o dalent ar gyfer dilyniant, cadw talent ac annog busnesau a sefydliadau i arloesi. Mae’n rhaid cyfuno sgiliau a gallu â chapasiti ac arferion effeithiol er mwyn cyflawni. Mae rhaglen datblygu rhanbarthol Arbenigo Clyfar yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig ystod eang o fodelau, arfer da a gwersi a ddysgwyd. Gallai Cymru ddefnyddio hynny’n sail i ddatblygu ei hymagwedd ei hun at gyflawni a gweithredu strategaethau a chynlluniau arloesi. 

Byddai Cymru’n elwa ar strategaeth talent integredig, er mwyn ymdrin â phroblemau'n gysylltiedig â sgiliau, y cyflenwad o dalent ar gyfer dilyniant, cadw talent ac annog busnesau a sefydliadau i arloesi

Mae seilwaith caled wedi’i ddatblygu’n dda yn elfen allweddol er mwyn ysgogi a chyflawni arloesi yn llwyddiannus, ac ystyrir yn eang mai ardaloedd arloesi, parthau gwybodaeth a pharciau gwybodaeth sydd â’r mwyaf o botensial. Ond rhaid osgoi’r hen goel ‘drwy adeiladu gallwn ddenu’ (efallai eich bod yn cofio Techniums?) a dylunio a churadu gofodau fel eu bod yn cyflawni’n unol â’r anghenion a’r cyfleoedd penodol yn rhanbarthau Cymru.

Mae M-Sparc, ArloesiAbersbarc|spark yn dangos potensial parciau gwyddoniaeth a arweinir gan brifysgolion, gan gysylltu ymchwil academaidd a busnesau, a chanolbwyntio ar gryfderau penodol, a chynnig cefnogaeth a chanolfan ddeori i fusnesau. Mae M-Sparc ac ArloesiAber ill dau y tu hwnt i goridor yr M4 yn ne Cymru ac yn ymyriadau pwysig er mwyn cefnogi swyddi medrus a chanddynt gyflogau da yn y Gymru wledig a’r broydd Cymraeg. Mae’r ddau barc wedi’u gwreiddio yn eu cymuned, yn hyrwyddo cadw a dychwelyd talent, yn sbardun i arloesi ac yn ysgogi datblygiad economaidd rhanbarthol.Mae adeilad sbarc|spark a agorwyd yn ddiweddar ar Gampws Arloesi Prifysgol Caerdydd yng nghanol y brifddinas yn cynnig cyfleuster newydd trawiadol sy’n ymroi i ymchwil ryngddisgyblaethol a gweithgarwch arloesi traws-sector, gan gydleoli ymchwilwyr y brifysgol a sefydliadau o’r sector cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector.Yn ein trafodaeth bord gron, trafodwyd y posibilrwydd o ddatblygu rhwydwaith o fentrau o’r fath i gynyddu amlygrwydd a hogi’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig o ran arloesi

Agorwyd yn 2018

35 tenant cwmni, 7 tenant rhithiol

Agorwyd yn 2020

21 o denantiaid ac aelodau, 6 canolfan arbenigol

sbarc|spark

Agorwyd yn 2022

Parc gwyddoniaeth gymdeithasol cyntaf y byd

Mae parciau gwyddoniaeth yn fecanwaith i greu cysylltiadau. Roedd pwysigrwydd datblygu a meithrin sgiliau meddal fel cyd-ymddiriedaeth, creu cysylltiadau a saernïo prosiectau cydweithredol yn thema a godai dro ar ôl tro yn nhrafodaethau’r ford gron. Mae’r sgiliau hyn wedi’u cydblethu’n ddwfn â’i gilydd; gan hynny mae’n well eu hystyried yn eu cyfanrwydd, yn hytrach nag elfennau ar wahân. Er enghraifft, pwysleisiwyd bod cymryd rhan mewn prosiectau ffurfiol neu anffurfiol sy’n ymwneud ag arloesi, lle mae angen cydweithio a rhannu gwybodaeth, yn rhoi’r cyfle i rannu cysylltiadau a nodi cysylltiadau a phartneriaid newydd posibl, oddi mewn a thu hwnt i ffiniau eu sector eu hunain, a bod cydweithio fel hyn yn fodd i gynyddu ymddiriedaeth ymhlith partneriaid, gan greu cynnydd pellach i’r cyfleoedd i arloesi. Gan fod y sgiliau meddal hyn yn llai diriaethol, fe’u hystyrir yn fwy fel ‘ochr ddiwylliannol arloesi’, lle mae buddsoddi i greu cyfleoedd, yn hytrach na chynnyrch, yn rhan annatod a chanolog o’r ymgyrch i greu’r ‘feddylfryd arloesi’. Yn rhan o’r drafodaeth ystyriwyd hefyd Ardal Arloesi Manceinion fel enghraifft.

Astudiaeth Achos

Mae Prifysgol Manceinion yn ailddatblygu hen safle UMIST yng nghanol y ddinas er mwyn creu cymdogaeth defnydd cymysg canol dinas ac ardal arloesi. Mae datblygu’r gofod hwn mewn ardal a gydnabyddir fel un o ecosystemau arloesi mwyaf blaenllaw Ewrop yn cynnig llawer o gyfleoedd i dyfu rhyngweithiadau, partneriaethau a gweithgareddau ymhellach. Gall y mathau hyn o leoliadau greu anfanteision,, oherwydd gall creu ymdeimlad ehangach o berthyn a chynhwysiant fod yn her. Mae rôl y brifysgol fel cynullydd a ‘rheolwr digwyddiadau’ yn bwysig, gan fod ganddi’r potensial i greu cyfleoedd ac i ddod ag ystod amrywiol o weithredwyr ynghyd. Ceir rhagor o fanylion am Gynllun Arloesi Manceinion Fwyaf yma.

Creu Cysylltiadau a Chydweithio

Roedd hi’n ymddangos bod cysylltiadau a chydgysylltu yn themâu arbennig o amlwg a pherthnasol yng nghyd-destun Cymru, gan mai un o’r prif heriau yng Nghymru a nodwyd yn y trafodaethau oedd diffyg cysylltedd rhwng gweithgareddau arloesi, a’r ffaith nad oedd y gweithgareddau hynny’n weladwy, yn enwedig y tu hwnt i Gymru.

Mae’r cyfathrebu a’r cysylltiadau rhwng sectorau yng Nghymru yn dameidiog, a chymharol ychydig o gyfleoedd sydd i greu cysylltiadau newydd, meithrin perthnasoedd, ennyn ymddiriedaeth a chyfnewid gwybodaeth. Gall fod yn anodd i sectorau a sefydliadau y tu hwnt i’r byd addysg uwch ganfod cyfleoedd a chydweithrediadau posibl. Mae Rhwydwaith Arloesi Cymru (WIN) a lansiwyd yn ddiweddar yn cynnig sylfeini i brifysgolion Cymru gryfhau a datblygu prosiectau cydweithredol ledled Cymru.

Yn yr Alban, lle ceir mwy o brifysgolion ymchwil-ddwys, cafwyd ymdrech fawr dros bron i ddau ddegawd i ddatblygu rhwydweithiau ffurfiol er mwyn hyrwyddo cydweithio o fewn AU, a hefyd ar draws sectorau, fel Research Innovation Scotland (RIS) a grëwyd yn ddiweddar. Mae gan system ymchwil ac arloesi’r Alban grid dwys o rwydweithiau rhyng-gysylltiedig sy’n creu cysylltiadau rhwng prifysgolion, diwydiant, y llywodraeth a’r sector cyhoeddus. Mae Research Innovation Scotland  yn gweithredu fel corff cysylltu o fewn y rhwydwaith hwn, sy’n creu cysylltiadau rhwng y rhwydweithiau a’r cronfeydd ymchwil, ac yn gatalydd ar gyfer croestoriadedd. O fewn y system hon ceir cyfleoedd lluosog i ddatblygu cysylltiadau. Gall rhwydweithiau unigol esbonio eu cylchoedd gwaith yn glir, ac mae hynny yn ei dro’n cyfleu neges gadarnhaol wrth ddarpar randdeiliaid ynghylch eu natur agored a’u parodrwydd i gydweithio.

Un wers bosibl i Gymru yw ystyried pwysigrwydd symleiddio a rhwyddhau mynediad i ecosystem Ymchwil ac Arloesi Cymru. Byddai rhwydwaith o rwydweithiau yng Nghymru’n cyfrannu at wireddu’r potensial i gyfnewid gwybodaeth a chydweithio ar draws sectorau, a bydd gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ran bwysig i’w chwarae er mwyn hwyluso gwelliant yn hyn o beth.

Cydnabuwyd bod angen newid diwylliant a meddylfryd wahanol er mwyn cael dealltwriaeth well o rôl sgiliau meddal anniriaethol wrth feithrin arloesedd, yn enwedig ymhlith llunwyr polisi, fel bo modd defnyddio offer a pholisïau mwy priodol. Sylwyd hefyd fod newid o’r fath eisoes ar droed wrth arfer ymagwedd a ysgogir gan her mewn polisi arloesi.

Mae bargeinion twf dinesig yn fecanwaith a all ddod ag uchelgeisiau a chenadaethau lefel uchel a syniadau radical 'i lawr i'r ddaear', i greu gweithgareddau sy'n cefnogi arloesi ar raddfa ac mewn lleoliad a ddeellir gan ystod eang o weithredwyr, a all weld cyfleoedd iddynt hwy eu hunain a manteisio ar y cyfleoedd hynny

Mae gan bedair bargen twf dinesig Cymru, gyda’u hagendâu sy’n canolbwyntio ar yr ardal leol ac sy’n dod ag ystod o weithredwyr ynghyd, gan gynnwys prifysgolion, awdurdodau lleol, y bwrdd iechyd, llywodraethau Cymru a’r DU, ran allweddol i’w chwarae er mwyn datblygu cysylltiadau a chydweithrediad. Yn rhan o’r drafodaeth ystyriwyd astudiaeth achos o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, cynllun a chanddo ddealltwriaeth glir o’i rôl fel cyfrwng i gysylltu pobl, eu huchelgeisiau a’u cyfleoedd, ac fel catalydd i fuddsoddi mewn dilyniant, wedi’i danategu gan ffocws i greu’r amgylchiadau lle mae busnesau a phobl yn fwyaf parod i goleddu’r dyfodol. Mae ei grwpiau clwstwr yn gweithredu o dan arweinyddiaeth rwydweithiol ac, ynghyd â chryfderau mewnol, mae meysydd lle ceir potensial yn dod i’r amlwg lle mae’r clystyrau’n croestorri â’i gilydd. Mae bargeinion twf dinesig yn fecanwaith a all ddod ag uchelgeisiau a chenadaethau lefel uchel a syniadau radical ‘i lawr i’r ddaear’, i greu gweithgareddau sy’n cefnogi arloesi ar raddfa ac mewn lleoliad a ddeellir gan ystod eang o weithredwyr, a all weld cyfleoedd iddynt hwy eu hunain a manteisio ar y cyfleoedd hynny.

Astudiaeth Achos: Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR)

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi bod yn datblygu dull portffolio o gefnogi arloesi yn y rhanbarth. Mae hyn yn cynnwys nodi clystyrau blaenoriaeth allweddol (Technoleg Ariannol, Technoleg Feddygol, Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Seiberddiogelwch a Diwydiannau Creadigol) gyda phwyslais cynyddol ar ehangu’r buddion drwy gadwyni cyflenwi ac effaith sgiliau, datblygu cronfa buddsoddi mewn arloesi a chreu Cronfa Her Adeiladu Cyfoeth Lleol.

Cafodd y Gronfa Her ei dylunio a’i cyflawni drwy bartneriaeth rhwng y CCR a Phrifysgol Caerdydd. Cynlluniwyd y gronfa i hyrwyddo cyfleoedd busnes a all ehangu’n gyflym drwy ddatblygu dulliau arloesol o oresgyn heriau wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, gan gaffael arloesedd i greu posibiliadau newydd o fewn y farchnad.

Er enghraifft, cynllun gweithredu ar y cyd rhwng pum prifysgol rhanbarthol a swyddfa maer Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf yw Cytundeb Prifysgolion Dinesig Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf. Uchelgais y cytundeb yw chwalu rhwystrau a gwella bywydau trigolion yr ardal. Cyflawnwyd gwaith ymchwil helaeth i bennu’r blaenoriaethau, gan gynnwys arolwg a geisiai ddeall pryderon economaidd-gymdeithasol y preswylwyr, gan holi hefyd a oeddent yn rhoi gwerth ar brifysgolion y rhanbarth, a beth oedd y gwerth hwnnw. Mae’r cytundeb yn cydnabod y ddaearyddiaeth economaidd anwastad a’r gwahaniaethau mewn disgwyliad oes yn rhanbarth Manceinion Fwyaf, gan gydnabod bod iechyd gwael yn arwain at gynhyrchiant gwael. Mae’r cytundeb yn cynnig cyfleoedd i gydweithio a chydgysylltu ar draws y prifysgolion, a hefyd â phartneriaid allanol. Er enghraifft, mae gan bob un o’r prifysgolion bwynt ymholi i fusnesau bach, a gwasanaeth i helpu mentrau i ddeall eu hanghenion, gan roi cefnogaeth uniongyrchol i sefydliadau gysylltu â gwaith ymchwil ac arbenigedd.

Mae gan sector AU Cymru hefyd gryn botensial i gefnogi arloesi a datblygiad economaidd, ac arloesi yn y sector cyhoeddus, ledled Cymru. Mae Strategaeth Partneriaeth Cenhadaeth Ddinesig Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn enghraifft lle mae prifysgol yn defnyddio ei statws i alluogi cydweithredu yn ei hardal leol.

Mae prifysgolion yn gynhyrchwyr ymchwil, a hefyd yn alluogwyr, yn gynullwyr a chatalyddion; gall eu gweithgareddau’n gysylltiedig â’u cenhadaeth ddinesig helpu i gefnogi ecosystemau arloesi cryfach. Ond er mwyn manteisio i’r eithaf ar y gallu hwn, gallai fod angen i brifysgolion newid eu hymagwedd ac, o bosib, gweithredu’n groes i’r arfer.Er enghraifft, yng nghyd-destun cyllido presennol y DU, lle mae Innovate UK n chwarae rhan llawer pwysicach nag o’r blaen, efallai y bydd angen ailystyried y flaenoriaeth a roddir gan brifysgolion i arloesi a ysgogir gan ymchwil. Yn wir, codwyd cwestiynau ynghylch gallu prifysgolion Cymru i gyflawni ymchwil a ysgogir gan arloesi. Os bydd gweithgarwch yn cael ei lywio gan heriau o fewn cymdeithas, fel y newid hinsawdd a’r galw cynyddol am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gall hynny sbarduno ffyrdd newydd o gyflawni ymchwil ac arloesi.

Mae’r croestoriad rhwng cenhadaeth ddinesig ac arloesi yn ofod lle gelir canfod problemau a gweithio ddatblygu atebion. Mae Fframwaith Cenhadaeth Ddinesig Cymru yn gam cyntaf pwysig, ac wedi cefnogi datblygiad nifer o fentrau ar draws y sector. Mae sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn cynnig cyfle i alinio agweddau ar genhadaeth ddinesig AU â gweithgarwch arloesi, ac fe geir enghreifftiau lle cafodd yr ymagwedd hon ei gweithredu’n llwyddiannus.

Y Strategaeth Partneriaeth Cenhadaeth Ddinesig a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam

Nod cenhadaeth ddinesig Prifysgol Glyndŵr a’i phartneriaid yw helpu i roi terfyn ar anghydraddoldeb cymdeithasol yng Ngogledd Cymru erbyn 2030. Cafodd y nod uchelgeisiol hwn ei lywio gan ymgyngoriadau â deg arweinydd ar hugain o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ar draws rhanbarth Gogledd Cymru.Mae’r Brifysgol yn defnyddio ei statws i greu a chynnal cysylltiadau rhwng partneriaid i ymchwilio, datblygu a chynnig atebion.

Bydd dulliau newydd yn cael eu cyd-greu, eu profi a’u darparu yn y tri maes craidd, sef:

  • arweinyddiaeth a llywodraethu,
  • meithrin cydnerthedd cymunedol, a
  • chadw’n iach.

Sefydlodd y brifysgol  Labordy Gwasanaeth Cyhoeddus Gogledd Cymru sy’n cynnig arbenigedd mewn meddwl system gyfan, ac yn cynnig gofod i gynnal sgyrsiau, i gefnogi cymheiriaid ac i arweinwyr annog y naill a’r llall.

Mae Cydweithredfa Gwella Gofal Cymdeithasol a Llesiant Gogledd Cymru wedi galluogi chwe awdurdod lleol, y bwrdd iechyd lleol a phartneriaid eraill i gydweithio’n well a gwella gwasanaethau.

Yn rhy aml, fodd bynnag, mae’r rhai sydd â diddordeb mewn mynd ar drywydd arloesedd yn ansicr ynghylch sut i ymgysylltu â’r ecosystem arloesi. Cyfyngir yn aml ar y gallu i arloesi o fewn BBaChau, y sector cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru, ac er bod awydd i arloesi ceir cyfyngiadau’n aml ar adnoddau. Dyma reswm arall pam bod angen i’r strategaeth arloesi ymgysylltu â’r gyfres ehangach o weithredwyr sy’n ffurfio’r ecosystem arloesi genedlaethol.Roedd y drafodaeth a oedd yn ystyried arloesi yn y trydydd sector hefyd yn tynnu sylw at yr angen i gyfeirio adnoddau a chyfleoedd yn well, gan ei gwneud yn haws gwybod pa sefydliadau neu unigolion allweddol sy’n barod i ymgysylltu. Awgrymwyd prifysgolion fel partneriaid pwysig i’r trydydd sector wrth ddylunio, gweithredu ac, o bosib, gwerthuso rhaglenni ac atebion newydd, y gellid eu hefelychu ar raddfa ehangach pe baent yn llwyddiannus. Cydnabuwyd y gall y sefydliadau fod yn anhreiddiadwy i rai sydd ar y tu allan, ac mae angen mynd i’r afael â hynny.

Gallai cynllun sy’n cyfateb i Interface  yn yr Alban  hwyluso’r broses o ddatblygu cysylltiadau rhwng diwydiant, y trydydd sector a sectorau AU, AB ac ymchwil Cymru. Gallai gefnogi budd economaidd a chymdeithasol, gan ysgogi busnesau a sefydliadau trydydd sector sydd am fanteisio ar ymchwil ac arbenigedd o fewn y prifysgolion, ac annog y gymuned ymchwil i fod yn barod i ymateb i’r gofynion hyn.

Y potensial am ddull comins arloesi - diwylliant arloesi unigryw i Gymru

Damcaniaeth arloesi newydd yw’r comins arloesi sy’n ystyried y gwaith cychwynnol i ddatblygu gweithgarwch arloesol newydd. Mae comins arloesi yn pwysleisio prosesau cydweithredu a chyfuno adnoddau fel rhagamodau er mwyn i arloesi diwydiannol ddechrau digwydd, yn ôl y ddealltwriaeth glasurol. Felly diffinnir y cysyniad o gomins arloesi fel lle a chyfrwng i rannu data, dealltwriaeth a gwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd lle nad ydym eto’n gwybod beth yw gwerth y data a’r wybodaeth, er mwyn hwyluso dysgu a darganfod. Mae gofod y comins arloesi hefyd yn cynnig cyfleoedd i gyfalaf menter ymuno â chydweithredfeydd yn gynnar yn y broses.

Y comins arloesi

Wrth wraidd damcaniaeth y comins arloesi y mae’r gydnabyddiaeth bod angen rhannu adnoddau mewn gofod (neu drwy rwydwaith neu sefydliad) sy’n galluogi pobl i feithrin cysylltiadau ac ennyn ymddiriedaeth, ac i chwarae â’r syniadau mewn ffordd fwy rhydd er mwyn i arloesi ddigwydd. Un o brif gynhwysion cyfalaf anniriaethol o fewn y comins arloesi yw’r perthnasoedd hirdymor lle ceir lefel uchel o ymddiriedaeth rhwng unigolion, sy’n allweddol er mwyn cydweithredu. Er enghraifft, mae’r gwersi a ddysgwyd o Raglen Arbenigo Clyfar yr UE (datblygiad tiriogaethol wedi’i arwain gan arloesedd) yn dangos y gwahaniaeth yn lefel yr ymddiriedaeth rhwng gwahanol ranbarthau o fewn yr UE. Roedd hyn yn amharu ar allu rhanbarthau lle’r oedd lefel yr ymddiriedaeth yn isel i fwrw ymlaen i ddatblygu a gweithredu gweithgareddau arloesol.

Mae’r dull tir comin yn creu gofod ar gyfer croestoriad rhwng gwybodaeth parth-benodol (‘gwybodaeth fertigol’) â gwybodaeth leol a seiliedig ar le (‘gwybodaeth lorweddol’), gan ddarparu mecanwaith ar gyfer ymgysylltu â gwasanaethau’r sector cyhoeddus a sefydliadau trydydd sector mewn gweithgareddau arloesi. Gan fod y sector cyhoeddus yn aml yn gweld problemau mawr yn gynnar, gall dod â’u gwybodaeth i ofod comin arloesi lywio a hwyluso’r gwaith o chwilio am atebion sy’n cael effaith. Cytunwyd hefyd fod agosrwydd llawer o sefydliadau trydydd sector at eu hardal a’u cymunedau yn cynnig potensial aruthrol a chyfleoedd i’r trydydd sector nid yn unig hyrwyddo’r broses arloesi, ond hefyd gynnwys cymunedau yn y broses honno. Fodd bynnag, mae sefydliadau trydydd sector ar hyn o bryd yn gweithredu mewn amgylchedd lle mae’r adnoddau’n gymharol brin a’r galw am eu gwasanaethau’n fawr, a gall hyn yn aml effeithio ar eu gallu i ystyried cyfleoedd i arloesi. Mae angen mecanweithiau i gefnogi eu cyfranogiad, a allai fod yn fodd iddynt rannu eu gwybodaeth benodol a lleol, a allai fod â’r potensial i fwrw goleuni ar atebion i broblemau a heriau, gan helpu drwy hynny i ysgogi atebion posibl sy’n cael mwy o effaith. Nodwyd hefyd bod llawer o syniadau arloesol yn deillio o ‘amser segur’ yn hytrach na chyfrifoldebau cyflogedig, ac roedd creu’r gofod cywir i bobl arloesi a chydweithio yn cael ei ystyried yn her enfawr. Cytunwyd hefyd bod hygyrchedd a chynhwysedd y gofod comin hwn yn ystyriaeth bwysig er mwyn helpu i sbarduno datblygiadau arloesol â’r potensial am fuddion cymdeithasol eang.

Mae’r dull tir comin yn creu gofod ar gyfer croestoriad rhwng gwybodaeth parth-benodol â gwybodaeth leol a seiliedig ar le , gan ddarparu mecanwaith ar gyfer ymgysylltu â gwasanaethau’r sector cyhoeddus a sefydliadau trydydd sector mewn gweithgareddau arloesi[...] a hwyluso’r gwaith o chwilio am atebion sy’n cael effaith

Mae data ffynhonnell agored yn adnodd pwysig arall er mwyn datgloi potensial y comins arloesi, a gallai’r sector cyhoeddus, fel storfa ddata, weithio i wella mynediad at yr adnodd gwerthfawr hwn. Mewn ymchwil academaidd gwerthfawr yn ddiweddar, trafodwyd y dadleuon o blaid rhyddhau data i danategu a ‘phorthi’ gweithgarwch arloesol. Gallai buddsoddi yn sgiliau, data a chysylltedd comins arloesi fod yn ddefnyddiol i ategu ac ymestyn effaith bosibl buddsoddiad wedi’i deilwra a’i dargedu mewn clystyrau arloesi penodol. Mae gofod y comins arloesi hefyd yn rhoi rôl gryfach ymchwilwyr y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau o fewn gweithgarwch arloesi, er mwyn helpu i fynd i’r afael â heriau mewn cymdeithas.

Yn rhan o’r trafodaethau ystyriwyd y gorgyffwrdd rhwng y dull comins ac arloesi a ysgogir gan her/genhadaeth. Mae’r dull hwn yn rhannu sawl agwedd ag egwyddorion datblygu cynaliadwy ‘Pum Ffordd o Weithio’ cyrff cyhoeddus yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015:

  • Hirdymor
  • Integreiddio,
  • Cynnwys,
  • Cydweithio,
  • Atal,

ac felly mae ganddo’r potensial i alinio’n dda ag amcanion a nodau llesiant yng Nghymru.

Cododd y cyfranogwyr yr egwyddor a allai neu a ddylai arloesi fod yn rhywbeth sy’n cael ei ddylunio neu ei gyfarwyddo, a chytuno ei bod hi’n bwysig taro cydbwysedd rhwng cyfleoedd dan gyfarwyddyd a chyfleoedd agored. Yn rhan o’r drafodaeth myfyriwyd hefyd ar y ffaith y gall systemau cyfredol cyrff cyllido a ysgogir gan fetrigau fod yn rhwystr i’r dull comins, ac y byddai newid y diwylliant cyllido i gynnig mwy o le i fethu – a chyfleoedd i ddysgu a gwella – yn cael ei groesawu mewn gweithgarwch arloesi.

Cytunwyd y byddai datblygu portffolio ehangach o weithgarwch arloesi yn lledaenu’r risg – cynnwys mentrau a fyddai’n debygol o gynhyrchu enillion ar fuddsoddiad yn ogystal â’r rhai a allai fod yn fuddsoddiadau mwy mentrus a fyddai’n creu cydbwysedd a gofod ar gyfer cyfleoedd.

Casgliadau

Wrth feddwl yn gyfannol am ecosystem arloesi, mae angen ystyried gallu’r ecosystem honno i amsugno a chreu gwybodaeth, a chyfoeth ei thir comin ochr yn ochr â chatalyddion arloesi wedi’u datblygu’n lleol a chlystyrau â blaenoriaeth.

Yr hyn sy’n hollbwysig yw’r modd y daw’r rhain ynghyd i greu system fywiog ac effeithiol, wedi’i thanategu gan sefydliadau a pholisïau effeithiol a phriodol, a’i chyflwyno drwy naratif darbwyllol. Gan ddefnyddio’r ffrâm hon gallwn nodi nifer o ystyriaethau allweddol ar gyfer strategaeth arloesi Cymru i’r dyfodol.

Mae angen gwell naratif ynghylch, ac ar gyfer, arloesi, sy'n crisialu diwylliant arloesi unigryw, ac yn cyfrannu at y diwylliant hwnnw
Dylai naratif arloesi Cymru fod wedi'i gwreiddio mewn realiti ac adlewyrchu gwerthoedd a lefel yr uchelgais sydd ei hangen i weddnewid diwylliant arloesi a gweithgarwch arloesi
Mae angen buddsoddiad i fynd i'r afael â materion capasiti a gallu, ynghyd â strategaethau i ddatblygu, denu a chadw talent
Mae rhaglen datblygu rhanbarthol Arbenigo Clyfar yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig ystod eang o fodelau, arfer da a gwersi a ddysgwyd y gallai Cymru ddefnyddio i ddatblygu hymagwedd ei hun
Gallai cydgysylltu cyfleoedd yn well, hwyluso cysylltiadau a chydnabod pwysigrwydd asedau anniriaethol, gan gynnwys clystyrau a'u heffaith ehangach, helpu i sbarduno gweithgarwch
Mae angen deall yr ecosystem arloesi fel cyfres heterogenaidd o weithredwyr, ac mae angen i'r strategaeth adlewyrchu'r modd y bydd y gweithredwyr hynny'n rhyngweithio â'i gilydd.
Y potensial a gynigir gan y Comins Arloesi i wneud pethau'n wahanol, ac ymgorffori'r Pum Ffordd o Weithio mewn ymarfer arloesi
Gallai cydnabyddiaeth glir o'r comins fel cydran ganolog yn y strategaeth arloesi gynnig cyfle i ailfframio naratif arloesi Cymru a chreu stori newydd ynghylch sut mae arloesi'n digwydd yng Nghymru, yn ogystal â chanlyniadau'r arloesi hwnnw.
Previous slide
Next slide
  • Mae angen gwell naratif ynghylch, ac ar gyfer, arloesi, sy’n crisialu diwylliant arloesi unigryw, ac yn cyfrannu at y diwylliant hwnnw. Dylai naratif arloesi Cymru fod wedi’i gwreiddio mewn realiti ac adlewyrchu gwerthoedd a lefel yr uchelgais sydd ei hangen i weddnewid diwylliant arloesi a gweithgarwch arloesi Cymru.
  • Mae angen buddsoddiad i fynd i’r afael â materion capasiti a gallu, ynghyd â strategaethau i ddatblygu, denu a chadw talent. Mae rhaglen datblygu rhanbarthol Arbenigo Clyfar yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig ystod eang o fodelau, arfer da a gwersi a ddysgwyd y gallai Cymru ddefnyddio i ddatblygu hymagwedd ei hun
  • Gallai cydgysylltu cyfleoedd yn well, hwyluso cysylltiadau a chydnabod pwysigrwydd asedau anniriaethol, gan gynnwys clystyrau a’u heffaith ehangach, helpu i sbarduno gweithgarwch. Mae angen deall yr ecosystem arloesi fel cyfres heterogenaidd o weithredwyr, ac mae angen i’r strategaeth adlewyrchu’r modd y bydd y gweithredwyr hynny’n rhyngweithio â’i gilydd.
  • Y potensial a gynigir gan y Comins Arloesi i wneud pethau’n wahanol, ac ymgorffori’r Pum Ffordd o Weithio mewn ymarfer arloesi Gallai cydnabyddiaeth glir o’r comins fel cydran ganolog yn y strategaeth arloesi gynnig cyfle i ailfframio naratif arloesi Cymru a chreu stori newydd ynghylch sut mae arloesi’n digwydd yng Nghymru, yn ogystal â chanlyniadau’r arloesi hwnnw.

Gallai Corff Arloesi Cenedlaethol fod yn un o’r mecanweithiau i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn yr adroddiad hwn, er enghraifft, cefnogi trefniadau i rannu arferion effeithiol, hyrwyddo naratif arloesi uchelgeisiol a chynnull a chydgysylltu cydweithredfeydd. Gallai chwarae rhan i gefnogi cadw talent ac ymwreiddio diwylliant comins arloesi o fewn y system arloesi. Gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a’i his-adrannau, byddai’n sicrhau’r potensial mwyaf am weithgarwch arloesi.

Awduron: Dr Justyna Prosser, Dr Sarah Morse a’r Athro Rick Delbridge FLSW

policy@lsw.wales.ac.uk

Chwefror 2023

Efallai o ddiddordeb:

Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ymgorfforwyd gan Siarter Frenhinol. Elusen Cofrestredig Rhif 1168622.
Swyddfa gofrestredig: Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Parc Cathays Caerdydd CF10 3NS