Arloesi a’r Trydydd Sector

Download Publication

Ym mis Mehefin 2022, cynhaliodd y Gymdeithas y chweched sesiwn yn nhrafodaethau bwrdd crwn Arloesi, a oedd yn archwilio potensial arloesedd yn y trydydd sector yng Nghymru.

Roedd y siaradwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o dri sefydliad yn y trydydd sector ledled Cymru: Cartrefi Cymunedol Cymru (CIC) – y corff sy’n cynrychioli cymdeithasau tai, yr asiantaeth fusnes a datblygu economaidd Cwmpas (Canolfan Gydweithredol Cymru gynt), a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), sefydliad ymbarél ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru.