Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Cyfleoedd Cyffrous i Gymrodyr

Rolau Allweddol ar Agor Nawr

Dyddiad Cau Ceisiadau

18 Ionawr 2026

Ceisiadau’n cael eu Hadolygu gan y Cyngor

21 Ionawr 2026

Os yw nifer y ceisiadau yn uwch na nifer y rolau sydd ar gael:

Pleidlais Ddirgel yn cael ei Lansio

27 Ionawr 2026

Cau’r bleidlais

17 Chewfror 2026

Craffu ar y Bleidlais Ddirgel

23 – 27 Chwefror 2026

Canlyniad yr Etholiad yn Cael ei Gyhoeddi

Cyhoeddiad ym Mwletin Cymrydorion mis Mawrth

Dechrau’r Tymor

CCB, 20 Mai 2026

Mae’n bleser gennym rannu’r cyfleoedd canlynol i Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r rolau hyn yn hanfodol i’n gallu i arwain yn strategol ac yn cynnig cyfle ichi lunio uchelgeisiau a chyfeiriad y Gymdeithas yn y dyfodol. Gellir cyflawni llawer o’r swyddi hyn yn gyfan gwbl ar-lein, gan olygu eu bod ar gael i’r holl Gymrodyr, waeth beth fo’u lleoliad. Rydym yn annog pob Cymrawd, gan gynnwys y rhai a etholwyd yn 2025 ac o’r tu allan i Gymru, i ystyried y swyddi hyn, a fydd yn dechrau ar ddiwedd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ym mis Mai 2026

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Sul 18 Ionawr 2026, 23:59

Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cyfoethogir y Gymdeithas gan gefndiroedd a safbwyntiau amrywiol ein Cymrodyr, ac rydym yn awyddus i dderbyn ystod amrywiol o geisiadau. Os ceir mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, byddwn yn cynnal etholiad.

Rheolau a rheoliadau: Mae ein Rheoliadau, sy’n rheoli’r Cyngor a’n holl Bwyllgorau llywodraethu, ar gael yma. Mae’r rhestr o ddirprwyaethau, sy’n manylu ar gyfrifoldebau pob Pwyllgor, ar gael yma.

Bydd rhagor o rolau mewn pwyllgorau Craffu Medalau yn cael eu hagor yn y flwyddyn newydd. 

“Ac yn bersonol, fe fuaswn i’n awgrymu y dylai unrhyw un ymgeisio… Ewtch ati. Yn enwedig os ydych yn hoffi torchi eich llewys a gwneud pethau.”

– Dr Sally Davies

“Maen’n hyfle i wneud cyfraniad mawr at redeg y Gymdeithas yn fwy cyffredinol a’r cyfeiriad y mae’n teithio ynddo.”

– Yr Athro Claire Gorrara

15 rôl wag

Ein Cyngor yw ein bwrdd ymddiriedolwyr ac mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol am drefniadau llywodraethu, strategaeth, gweithgareddau a chyllid y Gymdeithas. Ar ben hynny, gall aelodau gynrychioli’r Cyngor ar grwpiau amrywiol, gan gynnwys y Pwyllgor Goruchwylio Llywodraethu. Ceir hyd i aelodau cyfredol y Cyngor yma. Ceir hyd i’r blaengynllun busnes yma.

Mae’r Cyngor yn gwahodd ceisiadau yn benodol gan y Cymrodyr canlynol:

  • Cymrodyr STEMM
  • Cymrodyr â chefndir o gefnogi sefydliadau elusennol, yn enwedig mewn strategaethau llywodraethu, cyllid a chodi arian

Eich ymrwymiad: Pedwar i bum cyfarfod hybrid y flwyddyn (Ionawr, Mawrth, Gorffennaf, a Thachwedd) yn swyddfeydd y Gymdeithas yng Nghaerdydd a thros Teams/Zoom. Ni ddisgwylir i unrhyw gyfarfod fod yn fwy na dwy awr o hyd. Yn ogystal â’r cyfarfodydd eu hunain, y prif ymrwymiad o ran amser i aelodau yw darllen y papurau ar gyfer pob cyfarfod, er bod sawl cyfle i wneud mwy os dymunwch, drwy fod yn gynrychiolydd y Cyngor ar Bwyllgorau, ac mewn cyfarfodydd a digwyddiadau mewnol ac allanol eraill 

Cyfnod y swydd: Tair blynedd, gyda’r posibilrwydd o ail gyfnod.

Cymhwystra: Ar agor i holl Gymrodyr y Gymdeithas.

Proses ymgeisio: I wneud cais am swyddi’r Cyngor dylech lenwi’r ffurflen hon a’i hanfon yn ôl erbyn dydd Sul 18 Ionawr 2026 at Dr Haydeé Martínez-Zavala yn clerc@cddc.cymru.ac.uk

Os byddwn wedi derbyn digon o geisiadau dilys fel bod angen cynnal etholiad, byddwn yn anfon papurau pleidleisio at Gymrodyr yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 26 Ionawr 2026, i’w dychwelyd erbyn dydd Llun 16 Chwefror 2026. Bydd holl Gymrodyr y Gymdeithas yn gymwys i bleidleisio. Ni fydd y papurau pleidleisio ond yn cynnwys datganiadau gan yr ymgeiswyr i gefnogi eu cais, heb gynnwys unrhyw enwau. Cyhoeddir canlyniadau’r etholiad yn ffurfiol yn y Cyfarfod 

 

Mae Pwyllgor y Gymrodoriaeth yn hollbwysig ar gyfer ein harweinyddiaeth strategol, gan roi cyfle ichi siapio uchelgeisiau a chyfeiriad y Gymdeithas i’r dyfodol. Mae Pwyllgor y Gymrodoriaeth yn goruchwylio’r broses o ethol i’r Gymrodoriaeth ac yn gweithio i wella amrywiaeth y Gymrodoriaeth.

Ceir hyd i’r aelodau cyfredol yma. Ceir hyd i’r cylch gorchwyl a’r blaengynllun busnes yma.

Eich ymrwymiad: Pedwar cyfarfod ar-lein y flwyddyn (Mehefin, Hydref, Chwefror ac Ebrill) a chyfarfodydd ad hoc yn cael eu trefnu fel bo’r angen. Cynhelir pob cyfarfod ar Zoom ar hyn o bryd. Ni ddisgwylir i’r un cyfarfod fod yn fwy nag awr a hanner o hyd. Yn ogystal â’r cyfarfodydd eu hunain, y prif ymrwymiad o ran amser i’r aelodau yw darllen y papurau ar gyfer pob cyfarfod. 

Cyfnod y swydd: Tair blynedd, gyda’r posibilrwydd o ail gyfnod.

Cymhwystra: Ar agor i holl Gymrodyr y Gymdeithas.

Proses ymgeisio: I wneud cais am swyddi’r Pwyllgor dylech lenwi’r ffurflen hon a’i hanfon yn ôl erbyn dydd Sul 18 Ionawr 2026 at Dr Haydeé Martínez-Zavala yn clerc@cddc.cymru.ac.uk

Os byddwn wedi derbyn digon o geisiadau dilys fel bod angen cynnal etholiad, byddwn yn anfon papurau pleidleisio at Gymrodyr yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 26 Ionawr 2026, i’w dychwelyd erbyn dydd Llun 16 Chwefror 2026. Bydd holl Gymrodyr y Gymdeithas yn gymwys i bleidleisio. Ni fydd y papurau pleidleisio ond yn cynnwys datganiadau gan yr ymgeiswyr i gefnogi eu cais, heb gynnwys unrhyw enwau. Cyhoeddir canlyniadau’r etholiad yn ffurfiol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Mae gan y Pwyllgor Dibenion Cyffredinol gylch gwaith eang a diddorol sy’n cynnwys rhoi cyfarwyddyd strategol ynghylch gwaith polisi, digwyddiadau, cyhoeddiadau a gwobrau (gan gynnwys ein medalau) y gymdeithas, a chytundebau â rhanddeiliaid pwysig.  Ceir hyd i’r aelodau cyfredol yma. Ceir hyd i’r cylch gorchwyl a’r blaengynllun busnes yma.

Eich ymrwymiad: Tri chyfarfod ar-lein y flwyddyn (Chwefror, Mehefin a Hydref). Cynhelir pob cyfarfod ar Zoom ar hyn o bryd. Ni ddisgwylir i’r un cyfarfod fod yn fwy nag awr a hanner o hyd. Yn ogystal â’r cyfarfodydd eu hunain, y prif ymrwymiad o ran amser i’r aelodau yw darllen y papurau ar gyfer pob cyfarfod. 

Cyfnod y swydd: Tair blynedd, gyda’r posibilrwydd o ail gyfnod.

Cymhwystra: Ar agor i holl Gymrodyr y Gymdeithas.

Mae un aelod cyfredol o’r Pwyllgor yn gymwys i’w ail-ethol ac wedi mynegi parodrwydd i ymgeisio eto.

  • Ms Maxine Penlington. Mae Ms Penlington wedi mynychu 6 o 8 cyfarfod yn ystod ei chyfnod cyntaf yn y swydd.

Proses ymgeisio: I wneud cais am swyddi’r Pwyllgor dylech lenwi’r ffurflen hon a’i hanfon yn ôl erbyn dydd Sul 18 Ionawr 2026 at Dr Haydeé Martínez-Zavala yn clerc@cddc.cymru.ac.uk

Os byddwn wedi derbyn digon o geisiadau dilys fel bod angen cynnal etholiad, byddwn yn anfon papurau pleidleisio at Gymrodyr yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 26 Ionawr 2026, i’w dychwelyd erbyn dydd Llun 16 Chwefror 2026. Bydd holl Gymrodyr y Gymdeithas yn gymwys i bleidleisio. Ni fydd y papurau pleidleisio ond yn cynnwys datganiadau gan yr ymgeiswyr i gefnogi eu cais, heb gynnwys unrhyw enwau. Cyhoeddir canlyniadau’r etholiad yn ffurfiol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Yr Ysgrifennydd Cyffredinol yw un o’r pum Swyddog Anrhydeddus allweddol yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru. Maen nhw’n chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo ein strategaeth, cynllunio gweithgareddau a sicrhau llwyddiant yr elusen yn y tymor hir. Mae’r Ysgrifennydd Cyffredinol yn gweithio’n agos gyda’r Swyddogion eraill: y Llywydd, Is-lywydd y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yr Is-lywydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth a’r Trysorydd. Ar lefel staff, cânt eu cefnogi gan y Prif Weithredwr a’r Clerc. Mae’r Ysgrifennydd Cyffredinol yn eistedd ar Gyngor (bwrdd ymddiriedolwyr) y Gymdeithas a phwyllgorau allweddol eraill.

 

Ceir disgrifiad o’r rôl yma.

Eich ymrwymiad: tua 18 Cyfarfod hybrid y flwyddyn – dau ar-lein ar gyfer y Pwyllgor Adnoddau Dynol, dau ar-lein ar gyfer y Pwyllgor Goruchwylio Cyffredinol, deg Pwyllgor Gweithredol ar-lein a phedwar cyfarfod Cyngor hybrid.

Fel Ysgrifennydd Cyffredinol byddwch yn aelod Ex-officio o’r:

  • Cyngor (bwrdd yr Ymddiriedolwyr)
  • Pwyllgor Gwaith
  • Pwyllgor Goruchwylio Llywodraethu
  • Pwyllgor Adnoddau Dynol (Cadeirydd)

Gweler yma am ddisgrifiad o’r pwyllgorau hyn.

Cyfnod yn y swydd: Tair blynedd, gyda’r posibilrwydd o ail gyfnod.

Cymhwystra: Ar agor i holl Gymrodyr y Gymdeithas.

Mae ein Hysgrifennydd Cyffredinol presennol yn gymwys i gael ei ail-ethol ac wedi nodi ei barodrwydd i ymgeisio eto:

 

  • Yr Athro Faron Moller. Mae’r Athro Moller wedi mynychu 18/18 o gyfarfodydd yn ei gyfnod cyntaf yn y swydd.

Proses ymgeisio: I wneud cais am swyddi’r Pwyllgor dylech lenwi’r ffurflen hon a’i hanfon yn ôl erbyn dydd Sul 18 Ionawr 2026 at Dr Haydeé Martínez-Zavala yn clerc@cddc.cymru.ac.uk

Os byddwn wedi derbyn digon o geisiadau dilys fel bod angen cynnal etholiad, byddwn yn anfon papurau pleidleisio at Gymrodyr yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 26 Ionawr 2026, i’w dychwelyd erbyn dydd Llun 16 Chwefror 2026. Bydd holl Gymrodyr y Gymdeithas yn gymwys i bleidleisio. Ni fydd y papurau pleidleisio ond yn cynnwys datganiadau gan yr ymgeiswyr i gefnogi eu cais, ynghyd ag enwau. Cyhoeddir canlyniadau’r etholiad yn ffurfiol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Mae’r Pwyllgor Adnoddau Dynol yn hanfodol er mwyn sicrhau rheolaeth effeithiol a llesiant ein staff. Mae’n goruchwylio strwythur y sefydliad ac yn hyrwyddo gweithle cefnogol a chynhyrchiol, sydd oll yn hanfodol er mwyn sicrhau ei lwyddiant. Ceir hyd i’r aelodau cyfredol yma. Ceir hyd i’r cylch gorchwyl a’r blaengynllun busnes yma

Eich ymrwymiad: Dau gyfarfod ar-lein y flwyddyn (Ebrill a Medi). Cynhelir pob cyfarfod ar Zoom ar hyn o bryd. Ni ddisgwylir i’r un cyfarfod fod yn fwy nag awr a hanner o hyd. Yn ogystal â’r cyfarfodydd eu hunain, y prif ymrwymiad o ran amser i’r aelodau yw darllen y papurau ar gyfer pob cyfarfod. 

Cyfnod yn y swydd: Tair blynedd, gyda’r posibilrwydd o ail dymor. 

Cymhwystra: Ar agor i holl Gymrodyr y Gymdeithas. 

Mae tri o aelodau cyfredol y pwyllgor yn gymwys i gael eu hail-ethol ac wedi nodi eu bod yn barod i ymgeisio eto:

  • Ms Maxine Penlington. Mae Ms Penlington wedi mynychu 5 o 5 cyfarfod yn ystod ei chyfnod cyntaf yn y swydd.
  • Ms Elin Rhys. Mae Ms Rhys wedi mynychu 2 o 4 cyfarfod yn ystod ei chyfnod cyntaf yn y swydd.
  • Yr Athro Geoff Richards. Mae’r Athro Richards wedi mynychu 5 o 5 cyfarfod yn ystod ei gyfnod cyntaf yn y swydd.

Proses ymgeisio: I wneud cais am swyddi’r Pwyllgor dylech lenwi’r ffurflen hon a’i hanfon yn ôl erbyn dydd Sul 18 Ionawr 2026 at Dr Haydeé Martínez-Zavala yn clerc@cddc.cymru.ac.uk

Os byddwn wedi derbyn digon o geisiadau dilys fel bod angen cynnal etholiad, byddwn yn anfon papurau pleidleisio at Gymrodyr yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 26 Ionawr 2026, i’w dychwelyd erbyn dydd Llun 16 Chwefror 2026. Bydd holl Gymrodyr y Gymdeithas yn gymwys i bleidleisio. Ni fydd y papurau pleidleisio ond yn cynnwys datganiadau gan yr ymgeiswyr i gefnogi eu cais, heb gynnwys unrhyw enwau. Cyhoeddir canlyniadau’r etholiad yn ffurfiol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Mae’r Is-lywydd yn un o’r pum Swyddog Anrhydeddus allweddol yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru. Maen nhw’n chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo ein strategaeth, cynllunio gweithgareddau a sicrhau llwyddiant yr elusen yn y tymor hir. Mae’r Is-lywydd yn gweithio’n agos gyda’r Swyddogion eraill – y Llywydd, yr Is-lywydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth, y Trysorydd a’r Ysgrifennydd Cyffredinol. Ar lefel staff, cânt eu cefnogi gan y Prif Weithredwr, y Clerc, Pennaeth Ecwiti ac Ymgysylltu a Swyddog y Gymrodoriaeth. Mae’r Is-lywydd yn eistedd ar Gyngor (bwrdd ymddiriedolwyr) y Gymdeithas a phwyllgorau allweddol eraill.

Ceir disgrifiad o’r rôl yma.

Eich ymrwymiad: tua 20 o Gyfarfodydd hybrid y flwyddyn – pedwar ar-lein ar gyfer Pwyllgor y Gymrodoriaeth, dau ar-lein ar gyfer y Pwyllgor Goruchwylio Cyffredinol, deg ar-lein ar gyfer y Pwyllgor Gweithredol a phedwar cyfarfod Cyngor hybrid.Yn ogystal â hyn, cyfarfodydd ad hoc yn gysylltiedig â chylch enwebu’r Gymrodoriaeth.

Aelodaeth ex-officio:

  • Y Cyngor (Bwrdd yr Ymddiriedolwyr)
  • Y Pwyllgor Gwaith
  • Pwyllgor y Gymrodoriaeth (Cyd-gadeirydd)
  • Pwyllgor Goruchwylio Llywodraethu

Gweler yma am ddisgrifiad o’r pwyllgorau hyn.

 

Cyfnod yn y swydd: Tair blynedd, gyda’r posibilrwydd o ail gyfnod.  

 
Cymhwystra:
Ar agor i holl Gymrodyr y Gymdeithas.

 

Proses ymgeisio: I wneud cais am swyddi’r Pwyllgor dylech lenwi’r  ffurflen  hon a’i hanfon yn ôl erbyn dydd Sul 18 Ionawr 2026 at Dr Haydeé Martínez-Zavala yn clerc@cddc.cymru.ac.uk

Os byddwn wedi derbyn digon o geisiadau dilys fel bod angen cynnal etholiad, byddwn yn anfon papurau pleidleisio at Gymrodyr yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 26 Ionawr 2026, i’w dychwelyd erbyn dydd Llun 16 Chwefror 2026. Bydd holl Gymrodyr y Gymdeithas yn gymwys i bleidleisio. Ni fydd y papurau pleidleisio ond yn cynnwys datganiadau gan yr ymgeiswyr i gefnogi eu cais, ynghyd ag enwau. Cyhoeddir canlyniadau’r etholiad yn ffurfiol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. 

Rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan Gymrodyr a fyddai â diddordeb mewn eistedd ar Banel Adolygu newydd. 

Rydym yn cynnal 3 chylch ceisiadau y flwyddyn i’r Panel Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr y Gymdeithas  er mwyn ariannu, hyrwyddo neu gefnogi digwyddiadau y mae Cymrodyr yn ymwneud â’r gwaith o’u trefnu.   

Rydym yn datblygu’r panel o Gymrodyr sy’n eistedd ar y panel adolygu hwn.   

  • Bydd y panel yn cynnwys 6 Cymrawd – gyda dewis i bob un gamu allan o gylch ac/neu ddatgan achos o wrthdaro buddiannau lle bo’n berthnasol
  • Ceir 3 dyddiad cau i gyflwyno ceisiadau bob blwyddyn.
  • Mae’r broses yn cynnwys:
    • Ceisiadau a dderbynnir yn cael eu hadolygu a’u sgorio yn erbyn blaenoriaethau strategol y Gymdeithas.
    • Y Panel Adolygu yn asesu’r ceisiadau ochr yn ochr â’r sgoriau a gynigir gan y staff, ac yn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch sut i ddyrannu cyllid.
  • Cynhelir trafodaethau rhwng aelodau’r Panel Adolygu drwy e-bost neu ar-lein ac fe’u harweinir gan un aelod o’r Pwyllgor Dibenion Cyffredinol sy’n gweithredu fel Cadeirydd.

Cyfnod yn y swydd: Dwy flynedd, gyda’r posibilrwydd o ail gyfnod.

Cymhwystra: Ar agor i holl Gymrodyr y Gymdeithas.

Cylch Gorchwyl 

Ymgeisiwch nawr: Cliciwch yma i lenwi’r ffurflen gais fer erbyn dydd Sul 18 Ionawr 2026.

Ymholiadau: Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn, cysylltwch â ni ar lsw@wales.ac.uk