Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cynnig Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr CDdC i ariannu, hyrwyddo neu gefnogi digwyddiadau y mae ein Cymrodyr yn ymwneud â’u trefnu.
Os ydych yn Gymrawd ac yn cynllunio digwyddiad neu weithgaredd arloesol a chynhwysol a fydd yn cyfrannu at hyrwyddo a datblygu cymuned ymchwil ac arloesi Cymru, rydych yn gymwys i wneud cais am gefnogaeth gan CDdC.
Gallwch wneud cais ar gyfer y rhaglen Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr CDdC drwy gwblhau un o ddwy ffurflen Gallwch ddarllen ein polisi llawn yma, gan gynnwys unrhyw delerau ac amodau sy’n berthnasol i’ch cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â ni ar: events@lsw.wales.ac.uk
Mae’r gronfa hon ar agor i holl Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sydd fel arfer yn gwneud cais ar ran sefydliad sy’n cynllunio digwyddiad neu weithgaredd.
Rydym yn cynnig y mathau canlynol o gefnogaeth. Gallwch wneud cais am un neu bob un o’r rhain, yn dibynnu ar yr hyn fyddai o fudd i’ch digwyddiad. Sylwer bod dwy ffurflen gais ar wahân – ffurflen ‘Cefnogaeth Digwyddiadau‘, sy’n eich galluogi i wneud cais am unrhyw un o’r mathau hyn o gefnogaeth, a ffurflen ‘Hyrwyddo‘ YN UNIG, sy’n broses fwy syml ar gyfer digwyddiadau sydd ddim ond angen cefnogaeth hyrwyddo gan CDdC.
Mae’r canlynol ar gael hefyd mewn rhai amgylchiadau:
Rydym yn croesawu ceisiadau am ddigwyddiadau arloesol a chynhwysol sy’n estyn y tu hwnt i’ch sefydliad eich hun, ac sy’n ymgysylltu gydag ystod eang o bobl a dangos effaith ehangach. Byddwn yn blaenoriaethu syniadau a digwyddiadau newydd sy’n cysylltu a dod â phobl at ei gilydd o amrywiaeth o gefndiroedd a sefydliadau, gan gynnwys Cymrodyr, Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ac unigolion eraill sy’n berthnasol i’ch cynlluniau. Lle bo’n briodol, dylai digwyddiadau fod yn agored i gyfranogwyr o wahanol sectorau. Ystyriwch sut y gall eich digwyddiad/syniad gael ei wella drwy gynnwys sefydliadau, elusennau, prifysgolion neu grwpiau eraill.
Gall eich digwyddiad gael ei gynnal ar-lein neu wyneb yn wyneb. At ddibenion hygyrchedd, rydym yn annog digwyddiadau hybrid lle bo hynny’n briodol, i ehangu hygyrchedd a chynulleidfa’r digwyddiadau sydd yn cael eu cefnogi drwy’r cynllun hwn.
Sylwer mai dim ond digwyddiadau sy’n cynnwys cyfranogwyr o’r tu allan i’ch sefydliad eich hun fydd yn gymwys i gael cyllid.
Dylai eich digwyddiad gael ei gynnal o fewn 12 mis i’r dyddiad y byddwch yn derbyn cadarnhad o gefnogaeth gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru (CDdC). Dewiswch y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau sy’n cyd-fynd orau â dyddiad eich digwyddiad.
Mae unrhyw eithriadau wedi’u rhestru yn y Polisi Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr CDdC.
| Categori | Dyddiad Cau | Canlyniad |
|---|---|---|
| Cefnogaeth digwyddiadau | 17:00 30 Hydref 2026 | 11 Rhagfyr 2026 |
| Cefnogaeth digwyddiadau | 17:00 5 Mawrth 2027 | 16 Ebrill 2027 |
| Cefnogaeth hyrwyddo yn unig | Ar gael trwy'r flwyddyn | 4 wythnos o wneud cais |
Bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn y meini prawf canlynol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn esbonio pob un o’r meini prawf hyn yn y ffurflen gais.
Rydym yn gofyn i ymgeiswyr ymateb i bob un o’r meini prawf hyn ar y ffurflen gais. Dylai lefel y manylder a ddarperir fod yn gymesur â faint o gefnogaeth rydych yn gwneud cais amdano. Ym mhob achos, rydym yn eich annog i gadw eich atebion yn gryno, yn glir ac yn berthnasol.
Os ydych yn dymuno creu drafft o’ch atebion cyn llenwi ffurflen gais ar-lein, gallwch gael mynediad i fersiwn Word (ewch i brif ddogfennau).
Os fydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn gweithio gyda chi i ddarparu’r cefnogaeth y cytunwyd arno ac yn gyfnewid am hynny, rydym yn gofyn i’ch digwyddiad/trefnwyr lynu at y canlynol:
Os ydych wedi cael cyllid tuag at ariannu eich digwyddiad, rydym yn disgwyl cael ein hanfonebu o fewn tri mis o ddyddiad y digwyddiad. Yn ogystal, byddwch cystal â darparu diweddariad byr ar y digwyddiad a rhannu lluniau/data lle bo’n berthnasol. Os na wariwyd cymaint ag a ddisgwyliwyd ar y gweithgaredd, yna disgwyliwn y byddwch yn ein hanfonebu’n unol â hynny.
Os nad oes gan eich sefydliad y cyllid ar gael i’n hanfonebu ni’n ôl-weithredol, fe wnawn weithio â chi i gytuno ar amserlen amgen ar gyfer talu.
Mae rhagor o fanylion am y gofynion hyn yn cael eu rhestru yn y Polisi Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr CDdC llawn.
Polisi
Cefnogaeth Digwyddiadau
Cefnogaeth Hyrwyddo