Llywydd a Swyddogion

Mae gan y Gymdeithas bum Swyddog Anrhydeddus.

Llywydd

Yr Athro Hywel Thomas CBE FRENG MAE FLSW FRS

Mae’r Athro Thomas yn Athro Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Caerdydd, a hefyd yn Gyfarwyddwr sylfaen y Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol yn y Brifysgol ac yn Athro UNESCO ar gyfer Datblygu Geoamgylchedd Cynaliadwy. Darllen mwy

Is-Lywydd – Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol

Yr Athro Helen Fulton FRSA FSA FLSW

Astudiodd Helen Fulton ym Mhrifysgol Sydney a Phrifysgol Rhydychen, lle bu’n arbenigo mewn llenyddiaeth Saesneg ganoloesol ac Astudiaethau Celtaidd.  Dyfarnwyd cymrodoriaeth ôl-ddoethurol Prifysgol Cymru yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth iddi, a chymrodoriaeth ôl-ddoethurol Leverhulme. Darllen mwy

Is-Lywydd – Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Yr Athro Michael Charlton FInstP FLSW

Astudiodd Mike Ffiseg yng Ngholeg y Brifysgol Llundain (UCL) gan gwblhau PhD yno ar ryngweithiadau positronau ynni isel yn 1980. Sicrhaodd Gymrodoriaeth Ôl-Ddoethurol y Cyngor Ymchwil Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn 1982 ac yna Gymrodoriaeth Ymchwil Prifysgol y Gymdeithas Frenhinol yn 1983, cyn dod yn Ddarllenydd mewn Ffiseg yn UCL yn 1991. Yn 1999 symudodd i Gadair ym Mhrifysgol Abertawe. Darllen mwy

Ysgrifennydd Cyffredinol

Yr Athro Faron Moller FBCS FIMA FLSW

Mae Faron Moller yn Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe o fewn y Grŵp Gwyddoniaeth Cyfrifiadureg Ddamcaniaethol, ac ef yw’r Pennaeth wnaeth sefydlu Grŵp Gwirio Rheilffyrdd Abertawe.

Mae Faron yn Gyfarwyddwr Technocamps hefyd, rhaglen allgymorth ysgolion a chymunedol Cymru gyfan ym Mhrifysgol Abertawe ond gyda chanolfannau ym mhob prifysgol yng Nghymru. Mae hefyd yn Bennaeth y Sefydliad Codio yng Nghymru, sy’n cynrychioli cangen ymgysylltu â busnes Technocamps, ac yn cyd-Arwain y Thema Ymchwil ar Sylfeini Addysgol, Hanesyddol ac Athronyddol Cyfrifiadureg, sy’n cynrychioli cangen ymchwil Technocamps. Darllen mwy.

Trysorydd

Yr Athro Terry Threadgold FLSW

Mae gan Terry enw da rhyngwladol fel ysgolhaig ac ymchwilydd ffeministaidd, ac am ei gwaith rhyngddisgyblaethol mewn dadansoddi disgwrs ffeministaidd a theori feirniadol. Cafodd ei haddysgu ym Mhrifysgol Sydney, lle dyfarnwyd Medal y Brifysgol iddi am ei Thesis Ymchwil Anrhydedd Meistr. Cwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Monash. Cafodd ei phenodi i Brifysgol Caerdydd fel athro ymchwil mewn Cyfathrebu ac Astudiaethau Diwylliannol yn y cyfnod cyn Ymarfer Asesu Ymchwil 2001. Ymddeolodd o Brifysgol Caerdydd yn 2012. Darllen mwy