Mae Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn gyffrous i gyhoeddi’r Cais am Gynigion ar gyfer ein Colocwiwm Blynyddol 2024.
Gan adeiladu ar lwyddiant ein Colocwiwm 2023, y thema ar gyfer y colocwiwm yw ‘Cymru Gysylltiedig’. Mae’r thema hon wedi’i dewis i adlewyrchu ein huchelgais i ddatblygu rhwydwaith ymchwil cydlynol a rhyngddisgyblaethol yng Nghymru ac i gysylltu ymchwil Cymru â pholisi ac ymarfer. Mae dangos sut mae ymchwil yn effeithio ar y byd ehangach yn hanfodol ar gyfer datblygu ceisiadau gyllid llwyddiannus ac ar gyfer datblygu gyrfaoedd ymchwil.
Mae’r digwyddiad undydd hwn, a gynhelir ym Mhrifysgol Bangor, yn gwahodd ymchwilwyr i fyfyrio ar botensial eu hymchwil i effeithio ar bolisi Cymru drwy archwilio sut mae eu hymchwil yn cysylltu ag o leiaf un o saith egwyddor Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r Ddeddf hon yn unigryw i Gymru ac mae’n sail i’r ffordd y mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gweithio i wella llesiant pobl sy’n byw yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Yr egwyddorion yw:
Rydym yn gwahodd cynigion ar gyfer Sgyrsiau-Fflach a phosteri ymchwil. Anogir ymchwilwyr sy’n gweithio o fewn a thu allan i’r byd academaidd i wneud cais.
Mae’r colocwiwm wedi’i gynllunio i gefnogi ymchwilwyr i ddatblygu eu gyrfaoedd. Yn ogystal â’r Sgyrsiau-Fflach, bydd cyfleoedd i fynychwyr ehangu eu rhwydweithiau ymchwil, cyfarfod â Chymrodyr y Gymdeithas, a mynychu sesiynau ar ddatblygu ceisiadau gyllid llwyddiannus a gynhelir gan academyddion lefel uwch a chyrff cyllido.
Mae’r rhaglen yn cael ei datblygu gyda ein Pwyllgor Cynhadledd YGC rhagorol, sy’n cynnwys Llysgenhadon o Brifysgolion Cymru sy’n gweithio ar draws ddisgyblaethau gwahanol. Mae Grŵp Cynghori LSW ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr hefyd wedi bod yn cefnogi trefnu’r digwyddiad hwn.
Bwrsariaethau Teithio a Llety
Mae arian ar gael i gefnogi YGCs i deithio i’r digwyddiad. Mae rhai lleoedd llety hefyd ar gael ym Mhrifysgol Bangor, bydd hyn yn cael ei ganiatáu ar sail y cyntaf i’r felin, felly rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl os oes angen llety dros nos arnoch.
Yn dibynnu ar lefelau diddordeb efallai y byddwn hefyd yn rhedeg gwasanaeth bws o dde Cymru i Fangor gyda’r nos ar yr 17eg gyda’r dychweliad wedi ei drefnu ar gyfer noson y 18fed. Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno’ch cynnig os byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwn.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich crynodebau yw 29 Ebrill 2024.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cynnig a’ch croesawu i’r gynhadledd!
Cysylltwch â ni yn researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiwn. Mae rhagor o wybodaeth am Gymdeithas Ddysgedig Cymru a’r Rhwydwaith YGC ar gael ar ein gwefan.
Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein cynhadledd a digwyddiadau eraill trwy danysgrifio i’n rhestr bostio neu ein dilyn ar X/Twitter!