Cyfrannu at Greu Cymru Lewyrchus – 6 July 2023
Cymru lewyrchus yw thema colocwiwm wyneb yn wyneb Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer ymchwilwyr gyrfa cynnar a gynhelir gan Prifysgol Abertawe yr haf hwn.
Rydym yn gwahodd cynigion am sgyrsiau fflach a phosteri ymchwil ar y thema gan Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar sydd yn gweithio ym mhrifysgolion Cymru.
Bydd y digwyddiad yn dod ag aelodau o Rwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru at ei gilydd, ynghyd â chydweithwyr o’r sectorau academaidd, polisi, cyhoeddus, preifat, a’r trydydd sector. Bydd cyfle i rwydweithio, rhannu ymchwil a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gael gyrfa ymchwil lwyddiannus ym maes ymchwil.
Grantiau Gweithdai Ymchwil
Mae’r cynllun grant wedi’i gynllunio i annog ymchwilio’n gydweithredol i gais ymchwil sydd ar gam cynnar yn ei ddatblygiad. Gan adeiladu ar lwyddiant cynllun peilot y llynedd, rydym wedi datblygu tair ffrwd ar gyfer 2022-23: Astudiaethau Cymru; Ymchwilydd Gyrfa Cynnar; Y Celfyddydau, Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Gallwch wneud cais am hyd at £1,000 i gefnogi eich prosiect. Dyddiad cau: 3 Mawrth 2023.
Medalau Dillwyn
Hyfforddiant ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar
O bryd i’w gilydd, gallwn gynnig cymorth i ymchwilwyr gyrfa cynnar fynychu digwyddiadau hyfforddiant sydd yn cael eu cynnig gan ein partneriad. I dderbyn rhybudd am y cynigion diweddaraf, cofrestrwch i’r Bwletin Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar.
UK Young Academy
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn rhan o gydweithrediad gyda’r Academi’r Gwyddorau Meddygol, yr Academi Brydeinig, Yr Academi Beirianneg Frenhinol, Academi Frenhinol Iwerddon, Cymdeithas Frenhinol Caeredin, a’r Gymdeithas Frenhinol, i greu UK Young Academy.
Mae UK Young Academy yn cysylltu a datblygu unigolion talentog ym mlynyddoedd cynnar eu gyrfa o ystod eang o sectorau, fel y gallant gydweithio i wneud gwahaniaeth yn y byd. Mae’r Academi’n dwyn ynghyd arweinwyr newydd y DU o’r byd diwydiant, academia, meddygaeth, addysg, busnes, y celfyddydau, a phroffesiynau eraill. Mae eu haelodau’n cael eu dewis o bob rhan o’r DU, o amrywiaeth o gefndiroedd amrywiol ac ystod o brofiadau.
Mae ceisiadau ar gyfer UK Young Academy ar gau ar hyn o bryd.