Amdanom ni

Rydym yn rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar i gyfarfod, dysgu a chydweithio. Mae’r cofrestru am ddim, ac yn agored i bawb.

Rydym yn ymdrin â phob disgyblaeth a sefydliad academaidd yng Nghymru, yn ogystal ag ymchwilwyr yn y trydydd sector, y llywodraeth a diwydiant. Mae’r rhwydwaith hwn wedi’i anelu at unrhyw un sy’n dechrau gyrfa mewn ymchwil neu sy’n dechrau gweithio gydag ymchwilwyr. 

Mae ein rhwydwaith yn cynnig rhaglen o weithgareddau i Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar, o fyfyrwyr PhD blwyddyn olaf ymlaen.  Mae’r rhain yn cryfhau sgiliau a gallu ymchwilwyr. Rydym yn rhedeg gweithdai a chynadleddau, cynlluniau grantiau a gwobrau. Rydym yn annog cydweithio rhwng disgyblaethau, drwy ddod ag ymchwilwyr o bob rhan o Gymru at ei gilydd i weithio gyda’n Cymrodyr.

Gyda chefnogaeth Grŵp Cynghori o Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar a Chymrodyr, byddwn yn eich helpu i:

  • Ymgysylltu â syniadau creadigol ac ysbrydoledig ar flaen y gad o ran ymchwil ac ymarfer;
  • Ennill profiadau a sgiliau sy’n cefnogi eich datblygiad a’ch proffil proffesiynol;
  • Ddatblygu rhwydweithiau cryf a chydweithio ar draws disgyblaethau a sectorau academaidd;
  • Ystyried ffyrdd newydd o greu effaith o’ch ymchwil.

I’r rhai yn y sector Addysg Uwch, bydd y rhwydwaith yn cyfrannu at ymrwymiadau ymchwilwyr, eu rheolwyr a’u sefydliadau o dan y Concordat Datblygu Ymchwilwyr.

Newyddion RYGC Diweddaraf