Mae ein Grŵp Cynghori yn llywio cyfeiriad y Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar a’i weithgareddau. Mae ei haelodaeth yn cynnwys pedwar aelod o’r Rhwydwaith, a phedwar o Gymrodyr y Gymdeithas.
Bydd aelodau’r Grŵp Cynghori yn asesu amgylchedd ymchwil presennol Cymru, ei chyfleoedd a’i rhwystrau, a bydd yn archwilio sut y gall y Gymdeithas ehangu ei gweithgareddau i ddatblygu gyrfaoedd ymchwilwyr.
Ein Cymrodyr:
![Alma Harris](https://www.cymdeithasddysgedig.cymru/wp-content/uploads/2023/05/Alma-Harris-Photo-2020-Square.jpg)
Yr Athro Alma Harris
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rwyf wedi gweithio'n rhyngwladol ar ymchwil ac ysgrifennu er mwyn deall a chefnogi arweinyddiaeth addysgol, polisi addysg a gwella ysgolion. Rydw i wedi bod yn Uwch Gynghorydd Polisi i Lywodraeth Cymru, yn cynorthwyo gyda'r broses o ddiwygio ar draws y system, ac wedi arwain ar ddatblygu a gweithredu cymhwyster meistr i bob athro newydd gymhwyso yng Nghymru. Gyda Banc y Byd, cyfrannais at raglenni datblygu ac ymchwil, gyda'r nod o gefnogi ysgolion mewn cyd-destunau heriol yn Rwsia. Rydw i wedi cefnogi Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar mewn amryw o ffyrdd yn ystod fy ngyrfa, ac wedi rhannu paneli â nhw. Rwyf yn edrych ymlaen at greu cyfleoedd i Gymrodyr y Gymdeithas weithio gydag Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar yn ein Rhwydwaith.
![](https://www.cymdeithasddysgedig.cymru/wp-content/uploads/2022/09/Raluca-Radulescu.jpg)
Yr Athro Raluca Radulescu
Prifysgol Bangor
Mae gen i brofiad helaeth o fentora Ymchwilwyr Ôl-raddedig /Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar drwy fy rolau gwahanol fel Cyfarwyddwr Astudiaethau Graddedigion (am fwy na deng mlynedd), gan redeg digwyddiadau a hyfforddiant ar gyfer ymchwilwyr Ôl-raddedig. Rwyf wedi cael swyddi arwain hefyd, fel Cyfarwyddwr Ymchwil, Effaith ac Ymgysylltu a chydlynydd uned Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Rwyf wedi cynnal nifer o gynlluniau hyfforddi, ac wedi gweithredu fel mentor ar y cynllun mentora merched mewn prifysgolion. Rwy'n rhan o nifer o bwyllgorau a grwpiau trafod perthnasol, gan gynnwys y Concordat ar gyfer Ymchwilwyr a phwyllgor achredu Athena Swan. Rwy'n eistedd ar gyrff cyllido cenedlaethol drwy gais (ar ôl bod yn aelod adolygu cyfoedion Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau am 11 mlynedd), ac rwy’n cynghori ar gyrff ariannu allanol/ rhyngwladol. Gan fy mod yn awdur dwy astudiaeth achos effaith (ar gyfer 2014 a 2021), rwyf yn ymwybodol iawn o'r angen i weithio gydag endidau y tu allan i’r byd academaidd, a hoffwn hwyluso hynny ar gyfer y Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfaoedd Cynnar. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i gyfrannu at ddatblygu gyrfaoedd yr ymchwilwyr allweddol hyn yng Nghymru, ac rwy'n edrych ymlaen at helpu i ddatblygu cyfleoedd rhwydweithio ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar ac Ymchwilwyr Canol Gyrfa.
![](https://www.cymdeithasddysgedig.cymru/wp-content/uploads/2022/09/simon-hands.jpg)
Yr Athro Simon Hands
University of Liverpool
Yn fy marn i, y trawsnewidiad anoddaf sydd yn rhaid i unrhyw Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar ei oresgyn yw caffael annibyniaeth ymchwil, sydd yn cael ei nodi gan fynediad at adnoddau a phroffil cyhoeddi. Mae fy mhrofiad wedi bod mewn meysydd damcaniaethol o wyddoniaeth, lle mai sgil allweddol yw trefnu meddyliau, syniadau a llwyth gwaith i gynhyrchu cyhoeddiadau annibynnol (hyd yn oed un awdur efallai). Weithiau, mae'n anodd cydnabod blaenoriaethau ymchwil mwy hirdymor, yn enwedig mewn byd sy'n cael ei ddominyddu gan y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, bibliometrigau, llwythi addysgu cynyddol a’r cyfryngau cymdeithasol. Rwyf wedi gweithio'n agos gyda chydweithwyr arbrofol iau hefyd, ac yn deall yn rhy dda yr anawsterau enfawr sy'n gysylltiedig â chyfarparu labordy ymchwil. Rwyf eisiau gallu arwain Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar i wneud y dewisiadau a'r penderfyniadau gorau posibl i ddatblygu eu gyrfaoedd.
![Professor Andrew Rowley](https://www.cymdeithasddysgedig.cymru/wp-content/uploads/2022/09/andrew-rowley.jpg)
Yr Athro Andrew Rowley
Prifysgol Abertawe
Mae gennyf dros 35 mlynedd o brofiad o weithio ym maes Addysg Uwch yng Nghymru, ac rwyf wedi gweld yr anawsterau cyson o ran denu a chadw ymchwilwyr ôl-ddoethuriaeth talentog yng Nghymru. Mae gen i wybodaeth uniongyrchol am hyn, yn sgil hyfforddi nifer fawr o fyfyrwyr ymchwil ac ymchwilwyr ôl-ddoethuriaeth yn ystod fy ngyrfa. Mae diffyg dilyniant gyrfaoedd a chyfraddau llwyddiant gwael wrth ddenu cyllid UKRI yng Nghymru yn faterion allweddol. Bydd y ffaith y byddwn yn colli arian oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio'n ddifrifol ar yr holl brifysgolion sydd yn cael eu gyrru gan ymchwil yng Nghymru ar lefelau myfyrwyr ymchwil ac ôl-ddoethurol. Fel rhan o'r Grŵp Cynghori, rwyf eisiau edrych ar sut y gall Cymru a'r Gymdeithas Ddysgedig helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn, a fydd yn dod yn bwysig dros ben yn ystod y blynyddoedd nesaf.