Yn ddiweddar, mae UNESCO-BRIDGES (BRIDGES) wedi sefydlu ei ganolfan yn y DU ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant.
Mae BRIDGES yn raglen a flaenoriaethwyd, a sefydlwyd yn swyddogol gan sector Gwyddor Gymdeithasol a Dynol UNESCO o fewn Cyngor Rhynglywodraethol MOST (Management of Social Transformations), sy’n un o chwe rhaglen wyddoniaeth ryngwladol UNESCO. Fe’i ffurfiwyd ar ôl i’w bartneriaid sefydlu, er gwaethaf y bwriadau gorau, sylweddoli fod prosiectau cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn methu â mynd i’r afael â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn effeithiol, gan eu gwneud yn annhebygol o gael eu cyrraedd erbyn 2030. Gan nodi bod arloesi cynnyrch a datblygiadau technolegol yn cael llai o lwyddiant na phrosiectau lleol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n diddymu’r cymhleth yn atebion bychain, penderfynodd UNESCO-MOST ffurfio sefydliad sy’n gallu casglu ac ysbrydoli addysg ac ymchwil gwyddor cynaliadwyedd trawsddisgyblaethol sy’n cael ei yrru gan y dyniaethau, sydd yn gallu caniatáu i wybodaeth leol ategu polisi cenedlaethol a rhyngwladol
Nod BRIDGES yw hwyluso creu addysg ac ymchwil gydweithredol sy’n canolbwyntio ar ddatrys y problemau cymdeithasol sydd yn cael sylw gan y NDCau. Mae’n hyrwyddo cyfuno dulliau ac arbenigedd y dyniaethau a’r celfyddydau â phynciau STEM. Er mwyn cyflymu newid parhaol, mae UNESCO a MOST yn honni bod yn rhaid cynhyrchu atebion sy’n cynnwys gwahaniaethau diwylliannol a chyd-destunol dynol.
Mae cyrraedd y nod hwn yn dechrau drwy roi sylw dwys ar alluogi’r Dyniaethau i ddylanwadu ar y ffyrdd mae prosiectau’n cael eu cynllunio a gallu sbarduno newid, ond yn y pen draw, bydd angen gweld newid sylfaenol yn y paradeim sy’n llywio ecosystem ymchwil prifysgolion, asiantaethau cyllido, cyfathrebiadau gwyddonol, polisi a gwneud penderfyniadau.
Mae’r newid hwn mewn paradeim hefyd yn seiliedig ar y ddealltwriaeth bod gwybodaeth gan bobl nad ydynt yn academyddion lleol7 o’r pwys mwyaf ac, hyd nes y bydd amrywiaeth y mathau o berthnasoedd â’r amgylchedd yn cael eu deall yn gyd-destunol fanwl, bydd arloesi yn methu â bod yn effeithiol. Felly, mae’r cam cyntaf o symud tuag at y nod yn gofyn am broses sy’n galluogi lleisiau lleol i gael eu clywed. Bydd hyn yn caniatáu i broblemau gael eu diffinio’n lleol, i atebion gael eu datblygu mewn cydweithrediad â chymunedau, ac i wybodaeth ddod i’r amlwg o ardaloedd mewn ffyrdd sy’n ystyrlon yn lleol. Bydd hyn yn cyfrannu at greu naratifau newydd sy’n deillio o amrywiaeth perthnasoedd dynol-amgylcheddol ac osgoi, er enghraifft, ceisio darparu atebion un maint i bawb i fynd i’r afael â diraddiad amgylcheddol.
“What we expect from BRIDGES intellectually is a rich understanding of sustainability as the organising framework for a new kind of science.”
Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynorthwyol, UNESCO, Gabriela Ramos, 2022
Mae BRIDGES yn cynnwys rhwydwaith clymblaid ryngwladol sydd wedi’i ymgorffori mewn sefydliadau Addysg Uwch, fel Canolfannau sydd wedi’u cynllunio i gydweithio, bwydo a rhannu cyfleoedd ar draws y rhwydwaith. Ar hyn o bryd, mae gan BRIDGES Ganolfannau ym Mhrifysgol Talaith Arizona, Clwb Rhufain, Prifysgol Pretoria, y Drindod Dewi Sant, a Chanolfan a rennir rhwng CUNY a Phrifysgol Princeton. Mae’r cyfarwyddwyr yn cyfarfod yn rheolaidd gyda’r Pwyllgor Gwaith i drafod cyfleoedd sy’n codi a dod o hyd i arbenigedd angenrheidiol ar draws y glymblaid ac o fewn cyfeillion UNESCO a BRIDGES. Mae cyfarfodydd diweddar gyda’r Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynorthwyol, Gabriela Ramos, wedi cadarnhau bod UNESCO yn awyddus i gefnogi’r canolfannau clymblaid, hyd yn oed yn ariannol. Disgwylir i’r Canolfannau hysbysebu, cefnogi a chreu cymunedau sy’n cynhyrchu gwaith sy’n cyd-fynd ag uchelgeisiau BRIDGES. Yna, bydd UNESCO yn gwneud y gwaith hwn yn hysbys, ac yn cael ei ddefnyddio i annog newid polisi ac ymarfer. Rhagwelir y bydd llwyddiant yn y maes hwn yn newid cyllid y cyngor ymchwil mewn cylch rhinweddol.
Mae BRIDGES yn gallu cyrchu a sianelu galwadau ymchwil rhyngwladol, cyllid ac ystod eang o gyfleoedd lledaenu i aelodau ei glymblaid a chymunedau’r Ganolfan. Mae hefyd yn cynnig cymeradwyaeth i brosiectau a mentrau sy’n cyd-fynd â’u hamcanion. Bydd prosiectau a mentrau sydd yn cael eu cefnogi gan BRIDGES-UNESCO yn cael eu lledaenu ar draws rhwydwaith UNESCO, a byddant yn cael eu defnyddio gan MOST ac IPCC yn ystod trafodaethau rhynglywodraethol ar ddulliau cynaliadwyedd a pholisïau trawsnewid cymdeithasol.
Mae ardystiad yn darparu 4 mantais bwysig:
Sefydlodd BRIDGES ei ganolfan yn y DU yng Nghymru ac yn y Drindod Dewi Sant, mewn cydweithrediad â’r gwaith arloesol sy’n dod allan o’r dyniaethau yng Nghymru o ran polisi, y dyfodol, llesiant, cynaliadwyedd a’r Materoliaethau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy, ewch i https://bridges.earth/ a/neu cysylltwch â Chyfarwyddwr y ganolfan, Dr Luci Attala, l.attala@uwtsd.ac.uk.