Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw un o’n cyfleoedd, cysylltwch â ni ar researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk.
Cynllun Grantiau Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn Derbyn Ymateb Enfawr gan Ymchwilwyr o Gymru
Mae diddordeb digynsail yn ein cynllun grantiau gweithdai ymchwil wedi arwain at chwech ar hugain o brosiectau, ar draws pedair thema wahanol, yn derbyn cyllid.