Colocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar 2025
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Ysgol Reoli, Campws Llandaf
3rd Gorffennaf 12pm – 4th Gorffennaf 2pm
Ydych chi’n Ymchwilydd Gyrfa Gynnar sydd eisiau ehangu eich rhwydweithiau, dod o hyd i gyfleoedd newydd i gydweithio, ac ehangu eich proffil ymchwilio?
Ymunwch â Chymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer eu Trydydd Colocwiwm Blynyddol Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, lle cewch gyfle i:
Mae rhaglen y Gynhadledd yn cael ei datblygu ar y cyd gan ein Grŵp Cynghori ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol, a fydd yn cynorthwyo i sicrhau bod y rhaglen yn bodloni gofynion datblygu proffesiynol ymchwilwyr yng Nghymru. Mae’n bleser gennym bartneru â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i gynnal Colocwiwm ECR eleni yng Nghaerdydd.
Anogir ymchwilwyr sy’n gweithio o fewn y byd academaidd a thu hwnt i fynychu. Rydym hefyd yn croesawu pobl sydd yng nghanol eu gyrfa i’r Colocwiwm.
Bwrsariaethau Llety a Theithio
Cynhelir y Colociwm dros ddau hanner diwrnod. Mae bwrsariaethau teithio a llety ar y safle ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Rhoddir blaenoriaeth yn seiliedig ar angen, pellter teithio, ac i gyflwynwyr. Mae gwybodaeth i Aelodau Cofrestredig Cyffredinol ar sut i wneud cais am gymorth teithio a llety ar gael ar ein tudalen gofrestru.
Dyddiadau i’ch Dyddiadur
Dr Emma Yhnell, Darllenydd a Deon Cyswllt ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, Prifysgol Caerdydd
Bydd prif sgwrs Dr Emma Yhnell yn myfyrio ar ei thaith yrfa unigryw, o ymchwilydd i ddarlithydd a deon cyswllt. Mae hi hefyd yn cyflwyno sioeau radio y BBC, yn ysgrifennu llyfrau gwyddoniaeth poblogaidd ac yn gwahodd plant ysgol i roi cynnig ar roi "llawdriniaeth" ar ymennydd blancmange.
Bydd Emma yn trafod ei gwaith rhyngwladol mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, cyfathrebu gwyddoniaeth a chyfathrebu cyfryngau. Mi fydd hi hefyd yn tynnu ar ei brwdfrydedd i alluogi pobl i fod yn onest ac yn nhw eu hunain yn ei rolau proffesiynol, boed hynny drwy addysgu, ymchwil, cyfathrebu gwyddoniaeth, neu gefnu'n llwyr ar y byd academaidd hyd yn oed. Bydd yn myfyrio ar ei throsglwyddiad o fiocemeg i niwrowyddoniaeth, cyn symud ei hymchwil cyn-glinigol i'r clinig clefyd Huntington, yn ogystal â'i balchder o ddod yn ddarlithydd ar lwybr gyda phwyslais ar addysgu ac ysgoloriaeth. Mae brwdfrydedd Emma i wneud gwyddoniaeth yn fwy hygyrch, cynhwysol a difyr i amrywiol gynulleidfaoedd yn hanfodol i'w gwaith ac yn greiddiol i bopeth a wna.
Felly, dewch draw i wrando, dysgu a herio'ch meddylfryd eich hun ynglŷn â sut mae modd i chi ddefnyddio a gwella eich sgiliau i fod yn chi eich hun wrth annog newid arwyddocaol a chwalu eich ffiniau eich hun o fewn y byd academaidd a thu hwnt.
Bywgraffiad: Mae Dr Emma Yhnell yn addysgwr a chyfathrebwr brwd ar wyddoniaeth sydd wedi ennill sawl gwobr. Bu iddi ennill Gwobr Addysgwr Gwyddoniaeth y Gymdeithas Niwrowyddoniaeth yn 2024 a Chymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol yn 2023, ac ar hyn o bryd mae hi’n Ddeon Cyswllt Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb ac yn Ddarllenydd mewn Niwrowyddoniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Enillodd Emma radd BSc mewn Biocemeg cyn cwblhau PhD mewn clefyd Huntington. Yna, dechreuodd gymrodoriaeth ymchwil annibynnol i drosglwyddo ei chanfyddiadau ar hyfforddiant gwybyddol i’r clinig cleifion. Cafodd Emma ei hysbrydoli gan ei hymchwil glinigol ac amlygodd yr angen i ddarparu gwybodaeth hygyrch a gafaelgar i gynulleidfaoedd cyhoeddus amrywiol.
Bellach, mae Emma yn academydd sy’n addysgu’r genhedlaeth nesaf o ddarpar wyddonwyr, gyda phwyslais ar addysgu ac ysgoloriaeth. Mae hi’n cyflwyno sesiynau diddorol a rhyngweithiol gydag angerdd a brwdfrydedd heintus. Mae hi wedi meithrin enw da am ei gallu i egluro agweddau academaidd technegol a’u trosi’n gynnwys difyr a pherthnasol sy’n denu sylw. A hithau yr academydd cyntaf yn ei theulu gydag arbenigedd mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ynghyd â dyhead i groesawu newid, mae Emma yn newid y ddelwedd nodweddiadol o’r byd academaidd drwy wneud gwyddoniaeth yn fwy agored, gonest a hwyliog.
Mae ein Colocwia wedi’i gynllunio gan ystyried anghenion ymchwilwyr yng Nghymru. Darllenwch beth oedd gan cyn-mynychwyr i’w ddweud am ein Colocwiwm 2023 ym Mhrifysgol Abertawe a’n Colocwiwm 2024 ym Mhrifysgol Bangor.
Mae gan Gymrodyr CDdC rôl bwysig o ran rhannu eu harbenigedd yn y sesiynau a gynigir yn y digwyddiad a helpu i greu amgylchedd cynhwysol i YGC ddatblygu eu gyrfaoedd.
Prifysgol Wrecsam, Ysgol Busnes
Roedd mynychu’r Colocwiwm yn eithriadol o fuddiol ar gyfer fy natblygiad proffesiynol. Cefais y cyfle i gyflwyno fy ymchwil, derbyn adborth gwerthfawr, a chymryd rhan mewn trafodaethau sy’n ysgogi’r meddwl. Roedd y digwyddiad hefyd yn blatfform rhwydweithio gwych, oedd yn fy ngalluogi i gysylltu gydag ymchwilwyr gyrfa gynnar o amrywiol brifysgolion. Roedd clywed am eu heriau a’u strategaethau ar gyfer eu goresgyn yn rhoi dealltwriaeth i mi, ac fe wnes i hyd yn oed gael cyfle i rannu fy mhrofiadau fy hun. Ar ôl rhwydweithio, fe wnes i ymgynghori gyda chyfoedion am symud ymlaen yn fy ngyrfa a’r cyfleoedd posib, ac roedd hynny wir yn werthfawr. At ei gilydd, fe wnaeth y Colocwiwm ddarparu amgylchedd cefnogol ar gyfer dysgu, cydweithredu a thwf proffesiynol.
Prifysgol Lerpwl, Ysgol Gwyddorau Ffisegol Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Mae’r Colocwiwm yn fforwm croesawgar a chefnogol aml-ddisgyblaethol ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, lle gallant rwydweithio gyda chyfoedion a mentoriaid wrth iddynt gynllunio eu llwybr drwy’r broses gymhleth, a dryslyd yn aml, o adeiladu gyrfa. Rwy’n ffodus i eistedd ar Grŵp Ymgynghorol Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr: mewn sawl Colocwiwm yn y gorffennol rwyf wedi bod yn gysylltiedig gyda digwyddiadau gweithdy sy’n canolbwyntio ar adolygiad gan gyfoedion ac ysgrifennu ceisiadau, a bob tro rwyf wedi cael fy nharo gan amrywiaeth y rhagolwg a’r profiadau roedd pobl yn eu rhannu, a chan yr angerdd a fynegwyd ar gyfer eu pwnc neu faes ymchwil penodol. Mae hi hefyd yn ffordd wych o gael mynd allan o’r labordy neu’r llyfrgell i ddysgu mwy am faterion sy’n ein heffeithio arnom i gyd, a hynny o fewn cyd-destun Cymreig cadarn. Mae’n gyfuniad pŵerus a byddwn i’n ei argymell i unrhyw un.
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Mae cyfranogi a hwyluso darparu Colocwiwm YGC Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi bod yn hanfodol i fy natblygiad fel ymchwilydd yng Nghymru. O ddarparu gweithdai ar ffordd o feddwl entrepreneuraidd i gymryd rhan mewn trafodaethau sy’n ffocysu ar y gymuned, mae’r digwyddiad wedi meithrin cysylltiadau, hyder, a chydweithredu ar draws disgyblaethau yn gyson. Mae’n darparu lle prin lle mae ymholiad academaidd yn cwrdd â pherthnasedd y byd go iawn, a lle gall ymchwilwyr newydd gael eu galluogi i archwilio llwybrau amrywiol sy’n cael eu harwain gan effaith. Fel llysgennad a chyfrannwr rwy’n teimlo bod hyn wedi bod yn amhrisiadwy ar gyfer ffurfio rhwydweithiau, llywio syniadau a hyrwyddo gwaith ymchwil sy’n cyfrif - yn arbennig felly ar gyfer rhai sydd wedi ymrwymo i ysgolheictod moesegol, cynaliadwy sydd wedi’i hangori yn y gymuned.
Prifysgol Bangor, Athro Mewn Llenyddiaeth Ganoloesol
Roeddwn wrth fy modd pan gymerwyd y penderfyniad i gynnal Colocwiwm 2024 ym Mhrifysgol Bangor. Yn y digwyddiad, gyda dros 100 o gyfranogwyr ac amgylchedd brwdfrydig a chefnogol iawn i bawb yn cael ei ddarparu yn y cydweithrediad rhwng CDdC a staff lleol, roeddwn yn teimlo bod yr YGC wedi’u hannog yn wirioneddol i ffynnu, rhwydweithio, ac adeiladu amgylchedd ymchwil gwych i Gymru.
Prifysgol Caerdydd, DECIPHer
Rwyf wedi mynychu’r ddwy gynhadledd flaenorol, gan gyflwyno poster yn Abertawe (2023) a gwneud sgwrs fflach ym Mangor (2024). Buaswn wir yn argymell i Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ar hyd a lled Cymru fod yn rhan o’r digwyddiad a chymryd y cyfle i arddangos eu gwaith a rhwydweithio gydag ymchwilwyr eraill sydd ar gam tebyg yn eu gyrfa. Roeddwn i’n teimlo ei fod yn amgylchedd eithriadol o gefnogol a chyfeillgar ar gyfer datblygu hyder o ran cyflwyno ac mae wedi agor drysau i gyfleoedd eraill, megis dod yn aelod o’r grŵp ymgynghorol ar gyfer datblygu ymchwilwyr yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru ac ymuno gyda’r pwyllgor trefnu ar gyfer y colocwiwm yn 2025.
Yr Athro (Emeritws), Prifysgol Abertawe
Rhoddodd Rhwydwaith Gyrfa Gynnar CDdC gyfle unigryw i gefnogi datblygiad ymchwilwyr yng Nghymru drwy gyfarfodydd rheolaidd gyda Chymrodorion o’r Gymdeithas Ddysgedig a chefnogaeth broffesiynol staff y Gymdeithas. Mae'r rhwydwaith wedi bod yn hynod lwyddiannus ac yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb yn cynnwys cyfarfodydd blynyddol. Cynhaliwyd y cyntaf o'r rhain yn Abertawe yn 2023 ac y llynedd, fe’i cynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor. Roedd dros 100 o fynychwyr yn yr ail ddigwyddiad o bob cwr o Gymru a llwyddodd i ddenu Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar o ystod o ddisgyblaethau o STEM i’r dyniaethau. Ysgogir y cynadleddau hyn gan anghenion a dyheadau Ymchwilwyr a Gyrfa Gynnar, gyda chymorth Cymrodorion a staff CDdC. Mae penderfyniad y Gymdeithas i ariannu costau cynnal a theithio (ar sail gystadleuol) i hwyluso presenoldeb Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar wedi cael ei groesawu, yn enwedig yn y sefyllfa ariannol anodd sy’n wynebu sefydliadau AU yng Nghymru ar hyn o bryd, lle mae cyllidebau teithio wedi cael eu tynnu’n ôl. Mae cynorthwyo gyda datblygiad y strategaeth hon gan CDdC wedi bod mor fuddiol.
Prifysgol Abertawe, Ysgol Meddygaeth
Roedd cael y cyfle i rannu fy ngwaith ymchwil oedd yn cael ei ariannu gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru mewn sgwrs ‘fflach’ (heb gymorth sleidiau), yn brofiad gwirioneddol bositif. Rhoddodd y cyfle i mi feddwl ynghylch sut rwy’n cyfathrebu fy nghanfyddiadau ymchwil mewn ffordd newydd sy’n fwy apelgar. Roedd yr adborth byw hefyd yn werthfawr.
Y flwyddyn ganlynol es ymlaen i ddod yn hyrwyddwr a chefnogais y broses gynllunio ar gyfer y colocwiwm a darparu gweithdy i fynychwyr. Roedd hyn yn rhywbeth gwerth chweil ac fe wnaeth helpu i ddatblygu fy hyder fel Ymchwilydd Gyrfa Gynnar, gan fy ysbrydoli i ymuno gyda fy mhwyllgor Ymchwilydd Gyrfa Gynnar lle rwyf wedi gallu cefnogi eraill.
Mae tîm ymroddedig o ymchwilwyr wedi gweithio gyda ni i gefnogi cynllunio a chyflawni Colocwiwm YGC 2025. Mae eu harbenigedd yn sicrhau bod y Colocwiwm wedi’i gynllunio i adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau ymchwilwyr sy’n gweithio yng Nghymru.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Rheoli Chwaraeon
Mae Alec yn ddarlithydd mewn Rheolaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae ei ymchwil yn ymwneud yn helaeth ag archwiliadau hanesyddol ar gromlin lle, gofod, ac hunaniaeth drwy chwaraeon a hamdden cymunedol. Yn ychwanegol at ei ymchwil, mae'n ymrwymo i ddatblygu ymchwilwyr gyrfa cynnar ac israddedig, a'r amgylchedd maen nhw’n camu mewn iddo. Trwy rolau fel pennaeth y Wobr Traethawd Hir i Fyfyrwyr Israddedig (Chwaraeon mewn Hanes/Cymdeithas Brydeinig dros Hanes Chwaraeon), Arweinydd y Gymuned Ymchwil Gyrfa Cynnar ar gyfer y Ganolfan ar gyfer Hyfforddi Chwaraeon, Rheolaeth, a Diwylliant (Met Caerdydd), a hwylusydd gweithdai ECR (Cymdeithas Gogledd America dros Hanes Chwaraeon) mae'n cefnogi twf unigol ac yn eirioli o blaid addasiadau strwythurol i gefnogi ymchwilwyr gyrfa cynnar.
Prifysgol Abertawe, Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Mae gan Andrew dros 35 mlynedd mewn AU yng Nghymru ac mae wedi gweld yr anawsterau cyson o ran denu a chadw ôl-ddoethuriaethau dawnus yng Nghymru. Mae gan Andrew wybodaeth uniongyrchol am hyn o hyfforddi nifer fawr o fyfyrwyr ymchwil ac ôl-ddoethuriaeth yn ystod ei yrfa. Mae diffyg dilyniant gyrfa a chyfraddau llwyddiant gwael o ran denu cyllid UKRI yng Nghymru yn faterion allweddol. Bydd colli cyllid yr UE yn effeithio’n ddifrifol ar yr holl brifysgolion yng Nghymru sy’n cael eu gyrru gan ymchwil ar lefel myfyrwyr ymchwil ac ôl-ddoethuriaeth. Fel rhan o’r Grŵp Cynghori, mae Andrew am edrych ar sut y gall Cymru a’r Gymdeithas Ddysgedig helpu i fynd i’r afael â’r materion hyn a fydd yn dod yn hollbwysig yn yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Prifysgol Caerdydd, DECIPHer
Mae Caitlyn yn Gydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, yn gweithio yn DECIPHer, canolfan ymchwil iechyd cyhoeddus, ac yng Nghanolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys iechyd meddwl a lles pobl ifanc, anghydraddoldebau iechyd a thrawsnewid ysgolion. Ar hyn o bryd, mae hi’n rhedeg grŵp mentora ar gyfer myfyrwyr PhD yn ei chanolfan ymchwil, ac mae hi’n aelod gweithgar o rwydwaith cydraddoldeb rhywedd Empower Prifysgol Caerdydd a rhwydwaith gyrfa cynnar yr Academi Brydeinig. Fel aelod o’r Grŵp Cynghori, mae Caitlyn yn awyddus i sefydlu llwybrau i Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar o wahanol brifysgolion ddod at ei gilydd a datblygu syniadau ymchwil, ysgrifennu ceisiadau am gyllid, rhannu arbenigedd ac archwilio cydweithio rhyngddisgyblaethol.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Catherine yn Brif Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae ymchwil Catherine yn ystyried sut i atal ac amddiffyn unigolion agored i niwed a phoblogaethau cyfan rhag niwed, ac i gefnogi newid ymddygiad cadarnhaol i hyrwyddo a gwella iechyd a llesiant yn effeithiol ar draws cwrs bywyd, tra hefyd yn ystyried y dirwedd polisi. Ar hyn o bryd hi yw arweinydd prosiect Amser i Siarad Iechyd y Cyhoedd, sef panel cenedlaethol cynrychioliadol o’r boblogaeth yng Nghymru, sy’n cynnal arolygon rheolaidd o aelodau’r cyhoedd i ddeall eu hagweddau, eu barn, eu hemosiynau a’u diddordebau ar amrywiaeth o bynciau iechyd y cyhoedd er mwyn llywio polisi ac ymarfer.
Prifysgol Caerdydd, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol
Mae Esther yn ddarlithydd mewn Cymdeithaseg Addysg yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd sydd â diddordeb arbennig mewn actifiaeth ieuenctid, cynaliadwyedd ac ymgysylltu dinesig. Mae Esther wrth ei bodd yn ymuno â’r Grŵp Cynghori ar adeg allweddol ar gyfer ymchwil yng Nghymru, a chyflwyno ei phrofiad o ymgyrchu dros ddiogelwch swyddi ac amodau gwell i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Mae Esther yn gobeithio cyfrannu at y gwaith rhagorol sydd wedi bod yn cael ei wneud gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i ddatblygu a gwella arferion cynhwysol ac i symud yn fwy nid yn unig at letya, ond at ddathlu amrywiaeth yn ei holl ffurfiau.
Prifysgol Abertawe, Ysgol Y Gyfraith
Mae Gareth yn Ddarlithydd yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith HRC ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae’n addysgu cyfraith gyfansoddiadol a systemau cyfreithiol. Mae ganddo LLB a PhD yn y Gyfraith o Brifysgol Aberystwyth, ac mae’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae ei ddiddordebau ymchwil ym meysydd cyfraith gyhoeddus, hanes gwleidyddol a chyfraith datganoli yng Nghymru. Fel aelod o’r Grŵp Cynghori, mae Gareth eisiau llunio amgylchedd mwy cynhwysol a chefnogol i ymchwilwyr yng Nghymru
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Ysgol Reolaeth
Mae Dr Natasha Stait yn ymchwilydd gyrfa cynnar ac yn diwtor cyswllt ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ymddygiadau cynaliadwy a dealltwriaeth, yn benodol ar gyfer mentrau micro a bach sy'n gweithredu yn y Diwydiant Adeiladu yng Nghymru. Mae meysydd allweddol o ddiddordeb ymchwil yn cynnwys yr economi gylchol, arloesi a rheoli gadwyn gyflenwi adeiladu. Mae Natasha yn ymwneud yn helaeth hefyd yn y gymuned doethurol, ac yn cadeirio’r grŵp ymchwil doethurol yn y brifysgol, sy'n cynnwys rhedeg a chydlynu digwyddiadau cymunedol yn benodol ar gyfer myfyrwyr doethurol. Yn ei rôl addysgu yn y brifysgol, mae hi’n mwynhau dull arloesol a chreadigol, tra'n gwella'r profiad i fyfyrwyr.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Canolfan Ymchwil, Lleferydd, Clyw a Chyfathrebu
Mae Sam yn Therapydd Iaith a Lleferydd cymwys, gyda bron i 10 mlynedd o brofiad clinigol. Mae Sam yn eiriolwr NIHR a Choleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd ar gyfer gyrfaoedd academaidd clinigol.
Mae ymchwil Sam yn cynnwys ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys plant, teuluoedd, gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal, elusennau a gwneuthurwyr polisïau. Mae'r gwaith presennol yn canolbwyntio ar weithredu set o ganlyniadau craidd ar gyfer anhwylder sain lleferydd plant yng ngwasanaethau'r GIG, i gasglu data clinigol yn y byd go iawn. Mae Sam yn archwilio ffactorau risg ar gyfer datblygiad sain lleferydd ymhlith plant sy'n cael eu geni cyn 32 wythnos hefyd.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Ysgol Busnes
Mae Sam yn ddarlithydd mewn Busnes ym Met Caerdydd. Cwblhaodd ei PhD yn Ysgol Fusnes Caerdydd, lle mae’n defnyddio dadansoddiad systemau’r byd i edrych ar y cysylltiadau rhwng diwylliant, daearyddiaeth, a hanes i egluro ymyloldeb economaidd rhai o wledydd Ewrop, yn enwedig Cymru. Mae ei waith wedi ymddangos ym mhapur newydd y Morning Star, mewn llyfrau fel 'The Welsh Way' a 'Liberated Texts', ac ar-lein. Enillodd ei waith wobrau gyrfa cynnar gyda’r Gymdeithas Wyddoniaeth Ranbarthol a’r Gymdeithas Wyddoniaeth Wleidyddol. Mae’n ysgrifennu llyfr gyda Gwasg Prifysgol Cymru. Mae ei ddiddordebau pellach yn cynnwys astudio anghydraddoldebau ym mhêl-droed y byd, yr Undeb Ewropeaidd, a'r cysylltiad rhwng economeg a chenedlaetholdeb.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Technoleg a Dylunio Pensaernïol
Mae Shan Shan Hou yn Ddarlithydd Technoleg a Dylunio Pensaernïol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae ganddi brofiad helaeth mewn addysgu dylunio pensaernïol carbon isel ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal â darparu hyfforddiant proffesiynol o fewn y sector amgylchedd adeiledig. Mae hi hefyd wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, yn dilyn datblygu rhaglenni allgymorth ar gyfer disgyblion ysgol o gefndiroedd nad ydynt â chynrychiolaeth ddigonol er mwyn codi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd ac arbed ynni yn y cartref. Mae ei harbenigedd ymchwil yn cynnwys technolegau pensaernïol carbon isel, adeiladu modelau ynni, a strategaethau ôl-osod tŷ cyfan ac yn seiliedig ar systemau.
Prifysgol Wrecsam, Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg
Mae Shubha yn Uwch Ddarlithydd yn yr adran, ac yn Arweinydd y Rhaglen MSc Seicoleg (Trosiant) ym Mhrifysgol Wrecsam. Cwblhaodd Shubha ei PhD ym Mhrifysgol Bangor, ac roedd ei hymchwil arbrofol yn canolbwyntio ar hunan-briodoli ymddangosiad yr wyneb fel rhagfynegydd cynnar o welliant yn y cyflwr hwyliau isel, sydd yn cyd-fynd â’i hymchwil glinigol blaenorol a oedd yn canolbwyntio ar weithgareddau ymddygiadol a niwrolegol sy'n gysylltiedig ag anhwylderau hwyliau. Mae Shubha yn aelod Siartredig ac yn Gymrawd Cyswllt Cymdeithas Seicolegol Prydain, ac yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch hefyd.
Ysgol Gwyddorau Ffisegol, Prifysgol Lerpwl
Mae gan Simon brofiad ym meysydd damcaniaethol gwyddoniaeth, lle mae trefnu meddyliau, syniadau a llwyth gwaith i gynhyrchu cyhoeddiadau annibynnol (efallai hyd yn oed un awdur) yn sgil allweddol. Weithiau mae’n anodd cydnabod blaenoriaethau ymchwil tymor hwy, yn enwedig mewn byd sydd i bob golwg wedi’i ddominyddu gan REF, bibliometreg, llwythi addysgu sy’n cynyddu’n barhaus, a chyfryngau cymdeithasol. Mae Simon hefyd wedi gweithio’n agos gyda chydweithwyr arbrofol iau ac mae’n deall yn iawn yr anawsterau enfawr sy’n gysylltiedig â chyfarparu labordy ymchwil. Mae Simon eisiau gallu arwain YGC i wneud y dewisiadau a’r penderfyniadau gorau posibl i ddatblygu eu gyrfaoedd. Y trawsnewid anoddaf y mae’n rhaid i unrhyw YGC ei oresgyn, mae Simon yn cydnabod, yw caffael annibyniaeth ymchwil, a ddangosir gan fynediad at adnoddau a phroffil cyhoeddi.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae Sophie Mak-Schram yn gweithio yn y maes ymchwil hanes celf ac artistig. Cwblhaodd Ddoethuriaeth a ariannwyd gan Marie Skłodowska-Curie ynghylch ffurfiau radical o ddysgu mewn arferion y gallem eu hadnabod fel 'celf', fel rhan o brosiect ar arferion sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol (2021-2024).
Mae ymchwil Sophie yn ymwneud â’r arferion o feddwl 'gerllaw' (sy’n cyfeirio at 'siarad gerllaw' gan Trinh Minh Ha), ac mae’n seiliedig ar arferion dad-drefedigaethol, cymunedol a chelfyddydol. Ar hyn o bryd, mae Sophie’n ymddiddori mewn ail-ddychmygu sefydliadau a methodoleg newydd ar gyfer archifau a chasgliadau amgueddfeydd. Rhwng 2024-2025, roedd Sophie'n Ddarlithydd mewn Addysgegau Celf Rhagoriaeth Addysgol Cwricwlwm wedi’i Ailddiffinio ym Mhrifysgol Leeds,
ac yn Gyswllt Ymchwil yn CCA Derry-Londonderry, ac yn artist Perspectif(au) yn Amgueddfa Cymru.
Prifysgol Caerdydd, Ysgol Busnes Caerdydd
Mae Steffan yn ymchwilydd ym maes rheoli’r gadwyn gyflenwi gynaliadwy, a symudodd i weithio yn y byd academaidd yn dilyn gyrfa fel peiriannydd yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Mae Steffan yn angerddol am gynaliadwyedd, ac mae’n ymroddedig i’w wreiddio wrth wraidd ymchwil ac arloesi. Fel aelod o’r Grŵp Cynghori, mae Steffan wedi ymrwymo i feithrin cydweithio ar draws prifysgolion a’r sectorau cyhoeddus a phreifat, a defnyddio ei brofiad mewn diwydiant a’r byd academaidd. Mae Steffan yn ystyried Cymru fel sylfaen ddelfrydol ar gyfer syniadau a thechnolegau newydd ac mae’n credu y dylai ymchwilwyr ar ddechrau a chanol eu gyrfa gael cyfleoedd i ddod â’u syniadau yn fyw.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd
Mae Tia-Kate Davidson yn ddarlithydd mewn Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac mae hi’nymchwilydd Doethurol ym Mhrifysgol Hull, ble mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddefnyddio technoleg cludadwy mewn chwaraeon. Yn frwdfrydig am gydweithrediad rhyngddisgyblaethol, mae Tia yn awyddus i gysylltu gydag ymchwilwyr gyrfa cynnar eraill, a chyfrannu at amgylchedd academaidd cefnogol. Mae ei brwdfrydedd i ymuno â chymuned Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn deillio o awydd i gymryd rhan yn y ffyrdd amrywiol o gyfathrebu ymchwil, a helpu i feithrin lle cynhwysol ble gall ysgolheigion newydd rannu eu gwaith a chreu rhwydweithiau proffesiynol ystyrlon.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Cybersecurity
Mae Vibhushinie yn Ddarlithydd mewn Diogelwch Seiber ac yn gyfarwyddwr y cymhwyster BSc mewn Diogelwch Cyfrifiaduron ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae hi'n Lysgennad CyberFirst, yn Lysgennad STEM, ac yn Fentor, ac yn Gynghorydd Cyfadran hefyd ar gyfer myfyrwyr Merched mewn Seiberddiogelwch (WiCyS) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae hi hefyd yn Gyswllt Gyrfa Cynnar yn Ne Cymru ar gyfer Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS) ac yn arwain penodfa Gyrfaoedd Cynnar yn yr Ysgol Dechnolegau, Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae Dr. Bentotahewa yn cymryd rhan weithredol mewn ymchwil sy'n ymwneud â diogelu data, preifatrwydd personol, rheoliadau diogelu data, a datblygu polisi. Mae hi hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgymorth sy'n anelu at gefnogi ac annog menywod sy'n dilyn astudiaethau yn y maes STEM.
Prifysgol Aberystwyth, Adran Cyfrifiadureg
Mae Yasir yn Ddarlithydd Gyfrifiadureg ac yn gyd-sefydlydd y Rhwydwaith Ymchwilwyr Cynnar ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n aelod o Grŵp Cynghori Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar ddatblygu ymchwilwyr. Mae'n Uwch Aelod o IEEE ac yn aelod o Grŵp Cynghori Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar Ddatblygu Ymchwilwyr. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys Systemau Trafnidiaeth Doeth, rhwydweithiau cerbydau, rhwydweithiau di-wifr, dinasoedd doeth a dysgu cymhellol. Mae ganddo dros 40 o gyhoeddiadau. Mae'n Olygydd Cydweithredol ar gyfer Frontiers in Energy Efficiency, yn Olygydd Adolygu ar gyfer Frontiers in Sensors ac yn Olygydd Gwadd ar gyfer rhifyn arbennig o gylchgrawn Computer Communications. Mae'n gyd-gadeirydd gweithdy SIoA 2025.
Prifysgol Caerdydd, Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg
Mae Yipeng yn Uwch Ddarlithydd ac yn Is-gydlynydd Ymchwil yn Ysgol Gyfrifiadureg a Gwybodeg, Prifysgol Caerdydd. Mae'n Grŵp Ymchwil Golwg Cyfrifiadurol sy'n canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial, dysgu peiriant, a ffiseg gyfrifiadurol. Mae ei ymchwil yn cynnwys dehongliad dysgu dwfn, AI creadigol, a thechnolegau cludadwy ar gyfer dadansoddi symudiad. Mae Dr. Qin wedi sicrhau cyllid gan sefydliadau fel EPSRC, y Gymdeithas Frenhinol, a cAirbus, ac mae'n hyrwyddo cydweithrediad rhyngddisgyblaethol a chynhwysiant mewn ymchwil. Derbyniodd ei Ph.D. gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Animeiddio Cyfrifiadurol, Prifysgol Bournemouth a B.Eng. oddi wrth Brifysgol Jiao Tong Shanghai.
Galw am Grynodebau
AR GAU
Rydym nawr yn gwahodd cyflwyniadau crynodeb ar gyfer Sgyrsiau Fflach 3 munud a Phosteri Ymchwil.
rydym yn gwahodd cynigion sy’n unol ag un o Saith Nod Llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015:
Rydym hefyd yn annog cynigion sydd â chwmpas rhyngwladol i wneud cais. Os yw eich ymchwil yn cael ei gynnal y tu allan i Gymru, gallwch gyfeirio’n hytrach at 17 Nod Datblygu Cynaliadwyedd yr UE.
Dylai posteri ymchwil fod o faint A0 (84.1x 118.9 cm) a defnyddio cynllun portread.
Rydym yn annog ymgeiswyr i gyflwyno eu hymchwil mewn ffordd greadigol ar gyfer cynulleidfa ryngddisgyblaethol neu anarbenigol.
Canllawiau Cyflwyno
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Colocwiwm, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy: researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk.
Ffurflen Gyswllt
Sylwch: Bydd unrhyw ddata a gyflwynir drwy ein ffurflen gysylltu’n cael ei gadw yn unol â Pholisi Preifatrwydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ymgorfforwyd gan Siarter Frenhinol Elusen Cofrestredig Rhif 1168622.
Swyddfa gofrestredig: The University Registry, King Edward VII Avenue, Cathays Park, Cardiff CF10 3NS
Gwefan gan: Waters
Caiff ein meddalwedd arolygon ei phweru gan SmartSurvey