Amdano'r Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr
Mae Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr CDdC yn ceisio cyflawni ein blaenoriaeth strategaeth i greu amgylchedd sy’n cefnogi arbenigwyr presennol a’r dyfodol yng Nghymru. Mae ein Rhaglen yn cynnwys ein Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar (ECR) rhyngddisgyblaethol, a gyflwynwyd i ymchwilwyr sy’n dechrau gyrfa mewn ymchwil, a’n Cynllun Grantiau Gweithdai Ymchwil sy’n darparu cyllid sbarduno i ymchwilwyr ddatblygu syniadau ymchwilwyr newydd neu ddatblygu rhwydwaith gyda phartneriaid a chydweithrediadau ar draws sectorau.
Mae ein Grŵp Cynghori ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr yn llunio cyfeiriad y rhaglen. Mae ei aelodaeth yn cynnwys aelodau o Rwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar CDdC a Chymrodorion y Gymdeithas.
Yn sail i’r gwaith a wneir gan Raglen Datblygu Ymchwilwyr y Gymdeithas mae pedwar piler allweddol, a ddefnyddir i lywio ein rhaglen o weithgareddau. Y pileri hyn yw:
- CYDNABYDDIAETH: Codi proffil Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar yng Nghymru a hyrwyddo'r ymchwil wych a wneir gan Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ledled Cymru, oddi mewn a thu hwnt i'r byd academaidd.
- DATBLYGIAD: Cefnogi datblygiad personol a chymdeithasol arbenigwyr y dyfodol er mwyn gwneud Cymru yn lle gwych i fod yn ymchwilydd.
- EFFAITH: Creu cyfleoedd lle gall Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar gydweithio â rhanddeiliaid allweddol ar bolisi ac ymarfer, yng Nghymru a thu hwnt.
- LLESIANT: Darparu rhaglen o weithgareddau sy'n atgyfnerthu gwydnwch ymchwilwyr ac yn meithrin llesiant cadarnhaol.
Yn unol â datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gymdeithas, rydym wedi ymrwymo’n gadarn i ymgorffori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ein holl weithgareddau, gyda rhai ohonynt efallai’n targedu grwpiau a dangynrychiolir yn benodol.