Colocwiwm YGC 2026

Days

Colociwm Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar 2026

Prifysgol Aberystwyth | 29 a 30 Mehefin

Ymunwch â 4ydd Colocwiwm blynyddol Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 29 a 30 Mehefin 2026.

Mae’r Colocwiwm YGG yn dwyn ynghyd ymchwilwyr o bob cwr o Gymru a phob disgyblaeth am ddau hanner diwrnod o rwydweithio, datblygiad personol, a chydweithrediad. Mae’n cynnig lleoliad rhyngddisgyblaethol a chefnogol i rannu syniadau ymchwil, cael adborth cymheiriaid, archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithrediad yn y dyfodol, a datblygu sgiliau sy’n cefnogi gyrfaoedd ymchwil.

Bydd y rhaglen, sydd wedi’i chynllunio mewn partneriaeth â’r tîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr, yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau amrywiol y rhai sy’n gweithio ledled Cymru. Eleni, rydym yn gweithio â Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Prifysgol Aberystwyth i gynnal y Colocwiwm.

Bydd digwyddiad cymdeithasol dewisol yn cael ei gynnal gyda’r nos ar 29 Mehefin, gan gynnig rhagor o gyfleoedd i gysylltu â chyd fynychwyr mewn amgylchedd hamddenol.

Clywch gan fynychwyr y 3ydd Colocwiwm YGG Blynyddol ynglŷn â sut mae’n ategu eu teithiau ymchwil eu hunain yn ogystal â chyfrannu at atgyfnerthu diwylliant ymchwil ehangach Cymru.

Teithio a Llety

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi ymrwymo i leihau rhwystrau er mwyn sicrhau y gall ymchwilwyr sy’n byw yng Nghymru gyrchu ein cyfleoedd.

Mae mynychu’r Colocwiwm yn rhad ac am ddim ac mae bwrsariaethau teithio a llety ar gael i gynorthwyo ymchwilwyr sy’n teithio o bellach i ffwrdd. Darperir manylion ynglŷn â sut i wneud cais am gymorth bwrsariaeth wrth gofrestru.

Caiff ymchwilwyr o du allan i sefydliadau addysg uwch hefyd eu hannog i fynychu’r Colocwiwm. Gallai hyn gynnwys y rhai sy’n cynnal ymchwil yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector, yn ogystal ag ymchwilwyr llawrydd ac annibynnol.

Sylwer: Disgwylir i Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar deithio y diwrnod cyn y digwyddiad. Bydd llety felly’n cael ei ddarparu ar gyfer nosweithiau 28 a 29 Mehefin. Bydd modd i fynychwyr deithio adref ar 30 Mehefin ar ôl 2:00 pm, unwaith y bydd y digwyddiad wedi dod i ben.

Dyddiadau Allweddol

  • Galwad am Gynigion yn Agor: 21 Ionawr 2026
  • Dyddiad Cau’r Galwad am Gynigion: 20 Mawrth 2026, 4pm
  • Cofrestru Cyffredinol yn Agor: 15 Ebrill 2026
  • Cofrestru Cyffredinol yn Cau: 12 Mehefin 2026, 4pm
  • Colociwm YGC, Prifysgol Aberystwyth: 29 a 30 Mehefin 2026
A women standing in front of a poster describing its content to someone off camera.
Three women at a table with a laptop and some papers in front of them.
A woman, smiling, is talking to another woman who is holding a phone in her hand.

Cofrestru Nawr ar Agor: Colocwiwm YGG 2026

Ymunwch â ni yn Aberystwyth ar gyfer Colocwiwm Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar 2026 ar 29 a 30 Mehefin – digwyddiad deuddydd sy’n anelu at gysylltu, cefnogi ac ysbrydoli Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar (YGC) ledled Cymru a thu hwnt.

Pa un a ydych yn dymuno ehangu eich rhwydwaith, rhannu eich gwaith neu archwilio cyfleoedd newydd, mae’r Colocwiwm yn cynnig lle croesawgar a chydweithredol i ymgysylltu ag ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol o wahanol sectorau.

Pam mynychu?

Trwy fynychu, cewch gyfle i wneud y canlynol:

  • Cysylltu ag Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar, ymchwilwyr, llunwyr polisïau a gweithwyr proffesiynol ledled y byd academaidd, y byd diwydiant, y sector cyhoeddus a sefydliadau nid-er-elw

  • Rhannu eich ymchwil trwy gyfrwng posteri a sgyrsiau byr

  • Cymryd rhan mewn trafodaethau a gweithdai rhyngweithiol

  • Archwilio trefniadau cydweithredu newydd a chyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa

  • Ymgysylltu â chymuned ymchwil gefnogol a chynhwysol

Hefyd, bydd y Colocwiwm yn cyflwyno Gwobr YGC Hywel Thomas ar gyfer Diwylliant Ymchwil ac Arweinyddiaeth Gymunedol, gan ddathlu Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar sy’n cynorthwyo Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar eraill ac sy’n cyfrannu at amgylchedd ymchwil mwy cynhwysol a chefnogol.

Anogwn y mynychwyr i ystyried cyflwyno enwebiad.

Find out more about the prize by clicking on ” The Hywel Thomas Prize” tab.

Gall y canlynol fynychu’r Colocwiwm:

  • Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar ar draws pob disgyblaeth
  • Ymchwilwyr sy’n gweithio yn y byd academaidd, y byd diwydiant, y sector cyhoeddus a sefydliadau nid-er-elw, yn ogystal ag ymchwilwyr annibynnol
  • Unigolion sy’n dychwelyd i ymchwilio ar ôl cymryd seibiant yn eu gyrfa
File could not be opened. Check the file's permissions to make sure it's readable by your server.
File could not be opened. Check the file's permissions to make sure it's readable by your server.

Ar draws y deuddydd, bydd y rhaglen yn cynnwys cymysgedd o brif sesiynau, sgyrsiau byr, gweithdai a chyfleoedd i rwydweithio. Isod, ceir amserlen ddrafft ar gyfer y Colocwiwm er mwyn hwyluso cynlluniau teithio’r mynychwyr. Byddwn yn rhannu rhaglen derfynol gyda’r mynychwyr cyn y digwyddiad. .

Noder: os ydych wedi cyflwyno crynodeb ar gyfer y Colocwiwm, nid oes angen i chi lenwi’r ffurflen gofrestru gyffredinol hon ar hyn o bryd, beth bynnag fydd canlyniad eich cyflwyniad. Bydd pob un sydd wedi cyflwyno crynodeb yn cael eu gwahodd i gwblhau proses gofrestru fewnol ar wahân, a bydd manylion pellach yn cael eu rhannu’n uniongyrchol gan y tîm Datblygu Ymchwilwyr drwy researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk

I gofrestru ar gyfer y Colocwiwm, dilynwch y ddolen isod:

Cofrestrwch yma: Colocwiwm YGG 2026

Mae’r cofrestru ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynychu’r Colocwiwm, a bydd yn cau ar 12 Mehefin 2026, neu’n gynharach os bydd y digwyddiad yn cyrraedd llawn gapasiti.

Rydym wedi ymrwymo i leihau rhwystrau sy’n atal pobl rhag cyfranogi. Bydd nifer cyfyngedig o fwrsariaethau teithio ac opsiynau llety ar gael i gynorthwyo’r mynychwyr. Rhoddir blaenoriaeth i gyfranogwyr a fydd yn rhoi cyflwyniad yn y Colocwiwm ac y derbyniwyd eu crynodebau. Er mwyn cael eich ystyried, llenwch y ffurflen gais sydd ar y dudalen gofrestru uchod. Sylwer: ni ddylai’r mynychwyr wneud unrhyw drefniadau teithio hyd nes y bydd eu bwrsari teithio wedi’i gymeradwyo’n ffurfiol.

Cadwch lygad ar y dudalen hon — bydd rhagor o wybodaeth am y rhaglen a manylion y digwyddiad yn cael eu rhyddhau dros yr wythnosau nesaf.

Sylwer: Disgwylir i Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar deithio y diwrnod cyn y digwyddiad. Bydd llety felly’n cael ei ddarparu ar gyfer nosweithiau 28 a 29 Mehefin. Bydd modd i fynychwyr deithio adref ar 30 Mehefin ar ôl 2:00 pm, unwaith y bydd y digwyddiad wedi dod i ben.

Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â’r Colocwiwm neu ynglŷn â’r broses gofrestru, cysylltwch â’r canlynol:

researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk

Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Gynadleddau Medrus, Penbryn, Prifysgol Aberystwyth, Penglais, SY23 3BY.

Cliciwch yma i gael cyfarwyddiadau i Aberystwyth. I weld mapiau o Gampws Prifysgol Aberystwyth, Cliciwch yma

Gwobr Ymchwilydd Gyrfa Gynnar Hywel Thomas ar gyfer Diwylliant Ymchwil ac Arweinyddiaeth Gymunedol: AR AGOR NAWR

Noder y bydd y wobr hon yn cael ei chyflwyno yng Ngholocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar 2026, a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 29–30 Mehefin.


Ynglŷn â’r Wobr

Mae Gwobr YGG Hywel Thomas am Ddiwylliant Ymchwil ac Arweinyddiaeth Gymunedol yn dathlu Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar (YGG) yng Nghymru sy’n cefnogi YGG eraill ac yn cyfrannu i amgylchedd ymchwil mwy cynhwysol, cefnogol a chynaliadwy. 

Fe’i sefydlwyd mewn cydnabyddiaeth o arweinyddiaeth a gwerthoedd yr Athro Hywel Thomas, ac mae’r wobr yn adlewyrchu ymrwymiad i ddiwylliant ymchwil sydd nid yn unig yn ardderchog, ond hefyd yn deg, yn gydweithredol ac yn canolbwyntio ar bobl. Yn ystod ei gyfnod fel Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, hyrwyddodd yr Athro Thomas ymchwilwyr gyrfa gynnar a chefnogodd y gwaith o gryfhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gydnabod bod cymunedau ymchwil ffyniannus yn ddibynnol ar allu pob unigolyn i gymryd rhan a llwyddo.

Mae’r wobr hon yn parhau â’r gwaddol hwnnw drwy gydnabod YGG sy’n dangos arweinyddiaeth drwy ofal, cynhwysiant ac adeiladu cymunedau – cefnogi eraill wrth helpu i lywio diwylliant ymchwil sy’n agored, hygyrch a theg.

Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno yng Ngholocwiwm Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar 2026 yn Aberystwyth. Dyfernir y wobr yng Ngholocwiwm Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar 2026 yn Aberystwyth. Bydd enwebeion ar y rhestr fer yn cael eu cydnabod yn y digwyddiad ac yn derbyn tystysgrif. Bydd enillydd y wobr yn derbyn tystysgrif, gwobr ariannol a chydnabyddiaeth ffurfiol yng nghyfathrebiadau’r Gymdeithas, gan gynnwys sianeli ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Yr Athro Hywel Thomas yw trydydd Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, gan ymgymryd â’r swydd ym mis Mai 2020 yn ystod y pandemig COVID-19. Arweiniodd y Gymdeithas drwy gyfnod o ddatblygiad sylweddol, gan gynnwys sefydlu’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, a pharhaodd â’r cynnydd drwy wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws ei gwaith.

Yn ymchwilydd a gydnabyddir yn rhyngwladol, ef yw sylfaenydd y Ganolfan Ymchwil Daear-Amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n Athro Ymchwil Nodedig ym Mhrifysgol Abertawe. Bu’n gwasanaethu fel Comisiynydd Bevan, gan ddarparu cyngor arbenigol annibynnol i Lywodraeth Cymru ar arloesi a gwelliant ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bu hefyd yn arwain FLEXIS, prosiect £24 miliwn ar gyfer ymchwil systemau ynni yng Nghymru. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS), yn Gymrawd Academi Frenhinol Peirianneg (FREng), ac yn Aelod o Academia Europaea, Academi Ewrop.

Yn 2017 derbyniodd CBE am ei wasanaethau i ymchwil academaidd ac addysg uwch. Yn 2021, cafodd ei ethol yn aelod tramor o Academi Gwyddorau Tsieina, sef yr anrhydedd uchaf a roddir gan lywodraeth Tsieina i wyddonydd tramor am ei gyfraniadau a’i gyflawniadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Yn 2025, derbyniodd yr Athro Thomas Wobr Cyfeillgarwch Llywodraeth Tsieina, am ei ‘gyfraniad pwysig i foderneiddio sosialaidd Tsieina yn ogystal â chyfnewidiadau a chydweithrediad â gwledydd eraill.’

Mae ei arweinyddiaeth yn adlewyrchu ymrwymiad cryf i gefnogi talent ymchwil yng Nghymru, gan gryfhau cymunedau a llywio diwylliant ymchwil sy’n gydweithredol, cynhwysol a blaengar – gwerthoedd sy’n sail i’r wobr hon.

Mae’r wobr yn cydnabod cyfraniadau lle mae YGG yn cefnogi YGG eraill ac yn cryfhau diwylliant ymchwil a chymuned mewn ffyrdd cynhwysol, cydweithredol ac effeithiol.

Gall hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • fentora, cefnogaeth cymheiriaid neu nawdd sy’n gynhwysol ac yn ymatebol i anghenion a chefndiroedd gwahanol
  • adeiladu cymunedau neu rwydweithiau sy’n meithrin perthyn ac yn ehangu cyfranogiad
  • arweinyddiaeth mewn hyrwyddo arferion ymchwil teg, tryloyw a chefnogol
  • mentrau sy’n gwella llesiant ac yn helpu i fynd i’r afael â rhwystrau o fewn amgylcheddau ymchwil
  • creu cyfleoedd teg ar gyfer datblygu, cydweithredu a gwelededd
  • gwaith sy’n cyfrannu tuag at ddiwylliannau ymchwil mwy hygyrch, cynhwysol a chynaliadwy

Rydym yn gwerthfawrogi’n arbennig gyfraniadau sy’n cydnabod pwysigrwydd cymuned, cyfrifoldeb a rennir a’r gwaith nas gwelir yn aml sy’n galluogi eraill i ffynnu.

Yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru, rydym yn credu y dylai diwylliant ymchwil adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau mae’n eu gwasanaethu. Felly mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn greiddiol i sut gaiff y wobr hon ei diffinio a’i hasesu.

Rydym yn cydnabod bod ymchwilwyr gyrfa gynnar yn profi amgylcheddau ymchwil mewn gwahanol ffyrdd, a bod rhwystrau – boed yn strwythurol, diwylliannol neu ymarferol – yn gallu llywio mynediad at gyfleoedd a chynnydd. Mae cefnogi YGG yn golygu gweithio’n bwrpasol i leihau’r rhwystrau hyn a chreu amodau lle gall ystod ehangach o ymchwilwyr gyfrannu a llwyddo.

Mae’r wobr hon yn gwerthfawrogi cyfraniadau sy’n arddangos dulliau mwy cynhwysol a meddylgar tuag at arweinyddiaeth ac adeiladu cymuned. Gall hyn gynnwys cefnogi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gwella hygyrchedd, creu mannau ac arferion cynhwysol, neu ehangu cyfranogiad mewn cyfleoedd ymchwil a datblygu.

Mae enwebiadau ar agor i:

  • Ymchwilydd Gyrfa Gynnar unigol
  • grŵp o Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar

Rydym yn diffinio Ymchwilydd Gyrfa Gynnar (YGG) fel rhywun sydd o fewn 8 mlynedd o gwblhau ei PhD (or equivalent research experience), excluding any career breaks. Mae hyn yn cynnwys ymchwilwyr sy’n gweithio ar draws y byd academaidd, diwydiant, y sector cyhoeddus, a sefydliadau dielw. Rydym hefyd yn croesawu enwebiadau gan, ac ar gyfer, Ymchwilwyr Annibynnol. Please note that croesawu enwebiadau gan, ac ar gyfer, Ymchwilwyr Annibynnol. Noder nad yw ymchwilwyr doethurol (myfyrwyr PhD) yn gymwys am y wobr hon. 1

Dylai enwebeion fod wedi’u lleoli yng Nghymru neu’n gwneud cyfraniad amlwg i’r amgylchedd ymchwil yng Nghymru. Gall gweithgaredd cymwys gael ei gynnal ar draws y byd academaidd, y sector cyhoeddus a phreifat, diwydiant, sefydliadau nid er elw neu drwy gydweithredu traws-sector.

¹ Os nad ydych yn sicr os yw enwebai yn cwrdd â’r diffiniad o YGG, gan gynnwys achosion lle gall unigolion fod yn dal yn astudio am ddoethuriaeth ochr yn ochr â chyflogaeth neu â llwybrau gyrfa aflinol, rydym yn eich annog i gysylltu â ni ar researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk i drafod eich sefyllfa. Er nad yw ymchwilwyr doethurol yn gymwys fel arfer, rydym yn cydnabod y gall unigolion hunan-adnabod fel rhan o’r gymuned YGG mewn rhai amgylchiadau ac rydym yn fodlon darparu canllawiau pellach. Er nad yw ymchwilwyr doethurol yn gymwys fel arfer, rydym yn cydnabod y gall unigolion hunan-adnabod fel rhan o’r gymuned YGG mewn rhai amgylchiadau ac rydym yn fodlon darparu canllawiau pellach.

Gall rhywun o du mewn neu du allan i sefydliad yr enwebai gyflwyno enwebiadau:

  • cyfoedion neu gydweithwyr
  • rheolwyr, goruchwylwyr neu fentoriaid
  • cydweithredwyr neu bartneriaid

I gyflwyno enwebiad, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein erbyn dydd Mercher, 29 Mai 2026: Gwobr YGG Hywel Thomas am Ddiwylliant Ymchwil ac Arweinyddiaeth Gymunedol.

Gofynnir i chi ddarparu trosolwg byr o gyfraniad yr enwebai, gan roi tystiolaeth o sut mae wedi cefnogi YGG eraill a chyfrannu at ddiwylliant ymchwil cadarnhaol a chynhwysol.

¹ Os nad ydych yn sicr os yw enwebai yn cwrdd â’r diffiniad o YGG, gan gynnwys achosion lle gall unigolion fod yn dal yn astudio am ddoethuriaeth ochr yn ochr â chyflogaeth neu â llwybrau gyrfa aflinol, rydym yn eich annog i gysylltu â ni ar researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk i drafod eich sefyllfa. Er nad yw ymchwilwyr doethurol yn gymwys fel arfer, rydym yn cydnabod y gall unigolion hunan-adnabod fel rhan o’r gymuned YGG mewn rhai amgylchiadau ac rydym yn fodlon darparu canllawiau pellach.

Yn dilyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais, adolygir enwebiadau, a byddwn yn cysylltu ag enwebeion sydd wedi cyrraedd y rhestr fer. Bydd yr enwebwyr a’r enwebeion yn cael eu hysbysu os yw’r cais yn cyrraedd y rhestr fer.

Os na fyddwch yn clywed gennym erbyn 17eg Mehefin 2026, dylech gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.

Aelodau Pwyllgor Colocwiwm ECR 2026

Mae tîm ymroddedig o ymchwilwyr, sy’n rhan o Rwydwaith ECR ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi bod yn gweithio gyda ni i gefnogi cynllunio a chyflwyno Colocwiwm ECR 2026. Mae eu harbenigedd yn sicrhau bod y Colocwiwm wedi’i gynllunio i adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau ymchwilwyr sy’n gweithio yng Nghymru.

Dr Hannah Vallin

Mae Dr Hannah Vallin yn Gynorthwyydd Ymchwil Ôl-ddoethurol yn y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth, lle mae’n arbenigo mewn metabarcodio a DNA amgylcheddol (eDNA) ar gyfer ymchwil ecolegol a bioamrywiaeth. Yn ymchwilydd amlddisgyblaethol, mae’n cymhwyso dulliau sy’n seiliedig ar DNA i ennill gwell dealltwriaeth o ryngweithiadau rhywogaethau, iechyd ecosystemau, a bioamrywiaeth.

Yn dilyn ei gradd PhD mewn dadansoddi diet llysysorion, mae wedi dal swyddi fel cynorthwyydd ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan weithio ar draws ecosystemau daearol a morol. Mae Hannah hefyd yn Gadeirydd ar Bwyllgor Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Prifysgol Aberystwyth, lle mae’n cefnogi mentrau sy’n meithrin cynhwysiant, cydweithio, mentora, a datblygiad proffesiynol ar gyfer ymchwilwyr ar draws disgyblaethau.

Caitlin Baker

Mae Caitlin yn Ddarlithydd Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei hymchwil yn archwilio agweddau amrywiol ar Hyder gyda Chyswllt Rhynghiliol: archwilio cyfranogwyr sydd yn meddu ar hyder neu â diffyg hyder o ran rhyngweithio â phobl sy’n amrywiol o ran hil/ethnigrwydd a sut maent yn trafod (neu’n peidio â thrafod!) pynciau ynghylch hil. Yn ogystal, mae hi’n astudio sut mae hyn yn effeithio ar eu dymuniad i geisio profiadau rhynghiliol a’u gallu i ddatblygu cyfeillgarwch llwyddiannus a chadarnhaol gyda phobl sy’n amrywiol o ran hil/ethnigrwydd. Ar hyn o bryd, mae hi’n archwilio lliwddallineb strategol (SCB), ffenomenon lle mae pobl yn osgoi trafod pynciau ynghylch hil oherwydd eu bod yn ofni cael eu gweld yn hiliol, gyda’r bwriad o ddatblygu ymyriadau i fagu hyder a sgiliau.

Elena Anna Spagnuolo

Mae Elena Anna Spagnuolo yn gweithio fel Darlithydd Cyswllt a Hyfforddwr Eidaleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Archwiliodd ei hysgrif Voice of Women Writers. Using Language to Negotiate Identity in Transmigratory Contexts, y cysylltiad rhwng ysgrifennu, hunan-gyfieithu a’r ail-ddiffiniad o hunaniaeth mewn cyd-destunau ymfudol. Yn 2020, archwiliodd ei phrosiect ymchwil, a ariannwyd gan y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl, effaith Covid-19 ar yr agwedd drawswladol o Eidalwyr yn ymfudo i Gymru. Mae hi’n gweithio ar hyn o bryd ar brosiect wedi’i ariannu gan Grantiau Bach yr Academi Brydeinig. Mae’n archwilio cynllun gwacáu ar gyfer plant o'r Eidal yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Ben Clarke

Mae Ben yn ymchwilydd doethurol ac yn ecolegydd ar ddechrau ei yrfa yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth. Mae ei
ymchwil yn mabwysiadu dull amlddisgyblaethol o ymdrin ag ecoleg ucheldir, gan ymchwilio i'r perthnasoedd cymhleth rhwng dynameg llystyfiant, hydroleg mawndir, patrymedd tanau gwyllt, a sut y gall defnydd a rheolaeth tir ddylanwadu ar wydnwch y tirweddau hyn. Fel aelod o Bwyllgor Colocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar 2026, mae Ben yn gobeithio cyfrannu at waith parhaus Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn meithrin rhwydweithio a chydweithredu rhwng ymchwilwyr gyrfa gynnar ledled Cymru.

Dr Beatrice E. Ifie

Mae Beatrice yn arwain y Rhaglen Bridio Miscanthus yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth, lle mae hi’n defnyddio technolegau bridio planhigion arloesol i gyflymu enillion genetig i gyflawni gwell cnydau, gwydnwch pwysau, a nodweddion ansawdd. Mae ei hymchwil presennol yn canolbwyntio ar ddatblygu mathau Miscanthus sy’n cynhyrchu mwy ac sy’n wydn o ran hinsawdd er mwyn cefnogi systemau amaethyddol cynaliadwy. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu’r ddealltwriaeth o fioleg Miscanthus, yn enwedig drwy archwilio’r mecanweithiau sy’n sail i ymatebion planhigion i bwysau anfiotig ac amgylcheddol amrywiol, i lywio strategaethau bridio sydd wedi’u targedu. Mae gan Beatrice brofiad sylweddol o ddysgu ar lefel prifysgol ac wedi chwarae rhan allweddol mewn datblygu adnoddau e-ddysgu ynghylch Bridio Planhigion.

Dr. Jule Neumann

Mae Jule yn gronofiolegydd ac yn ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddeall sut mae organebau yn cadw’r amser, gyda ffocws penodol ar ddylanwad y llanw a’r lleuad ar fywyd yn ein cefnforoedd. Cwblhaodd ei PhD yn y Max Planck Institute for Evolutionary Biology yn Plön, ac wedi hynny daeth cymrodoriaeth annibynnol ar ddechrau ei gyrfa â hi o ogledd yr Almaen i Gymru.

Hardik Harishchandra Patel

Mae Hardik Harishchandra Patel yn ymchwilydd PhD mewn Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar wrthsafiad gorwedd mewn Serchwellt Teff, gyda diddordeb penodol mewn biomecaneg coesau, dyddodi lignin ac ymatebion ffisiolegol planhigion. Mae ganddo gefndir academaidd cryf mewn bridio planhigion, geneteg a gwella cnydau, gyda phrofiad ymchwil blaenorol mewn cnydau cotwm a chodlysiau. Mae’n angerddol dros amaethyddiaeth gynaliadwy, dulliau ymchwil arloesol a chefnogi datblygiad ymchwilwyr gyrfa gynnar drwy fentrau academaidd cydweithredol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Golocwiwm YGG, anfonwch e-bost atom yn researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk

Galwad am Grynodebau (WEDI CAU)

Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno crynodebau bellach wedi mynd heibio. I gael y wybodaeth a’r diweddariadau diweddaraf, ewch i’r wefan yn rheolaidd.

Rydym nawr yn gwahodd cyflwyniadau crynodeb ar gyfer Sgyrsiau Fflach 3 munud a Phosteri Ymchwil.

Rydym yn gwahodd cynigion sy’n unol ag un o Saith Nod Llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015:

Rydym hefyd yn annog cynigion sydd â chwmpas rhyngwladol i wneud cais. Os yw eich ymchwil yn cael ei gynnal y tu allan i Gymru, gallwch gyfeirio’n hytrach at 17 Nod Datblygu Cynaliadwyedd yr UE.

Dylai posteri ymchwil fod o faint A0 (84.1x 118.9 cm) a defnyddio cynllun portread.

Rydym yn annog ymgeiswyr i gyflwyno eu hymchwil mewn ffordd greadigol ar gyfer cynulleidfa ryngddisgyblaethol neu anarbenigol.

Canllawiau Cyflwyno

  1. Rhaid cyflwyno crynodebau drwy gwblhau ein ffurflen arlein.
  2. Rhaid cyflwyno cynigion yn Gymraeg neu Saesneg.
  3. Bydd ceisiadau’n cael eu hadolygu gan y Tîm Datblygu Ymchwil ac aelodau’r Grŵp Cynghori ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr. 
  4. Applicants will be notified of the outcome before the end of April.
  5. Os nad ydych yn cael eich dewis ar gyfer sgwrs fflach, byddwn yn ystyried eich cais yn awtomatig ar gyfer poster ymchwil.
  6. Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus gyflwyno unrhyw sleidiau cyflwyniad a phosteri ymchwil cyn y Colocwiwm.