Blog Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar

Taith o Ddarganfod a Chydweithio

Mae Dr Felicity Healey-Benson o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn myfyrio ar ei phrofiad yng Ngholocwiwm Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar ym Mhrifysgol Abertawe

Dysgu oddi wrth Eraill

Ar 6 Gorffennaf 2023, cefais yr anrhydedd arbennig o fynychu Colocwiwm Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru 2023: Cyfrannu at Gymru Lewyrchus. Roedd y digwyddiad trawsnewidiol hwn, yn ddiwrnod llawn ysgogiad deallusol, rhyngweithio buddiol, a chyfleoedd rhwydweithio deinamig.

Dechreuodd y colocwiwm gyda phrif anerchiad addysgiadol gan yr Athro Uzo Iwobi, OBE (Sylfaenydd, Cyngor Hil Cymru) a siaradodd yn onest am ei phrofiadau o symud o Nigeria i Gymru ar ddechrau’r 1990au. Roedd ei naratif twymgalon ar allgau diwylliannol a hiliaeth yn atseinio’n sylweddol, ac yn tanlinellu pwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant yn ein cymdeithas. Mae ei thaith yn ein hatgoffa bod esblygiad diwylliannol yn parhau, a bod pob un ohonom yn chwarae rhan mewn adeiladu cymdeithas fwy derbyniol a chyfiawn.

Yn dilyn hyn, mynychais weithdy ar Adolygiad gan Gymheiriaid gan yr Athro Simon Hands (Prifysgol Lerpwl) a Dr Shareena Hamzah-Osbourne (Prifysgol Abertawe). Roedd y drafodaeth yn hynod fuddiol, gan egluro hanfod bod yn adolygydd cymheiriaid, a’i rôl hanfodol yn y broses gyhoeddi. Roedd y cyngor a roddwyd ar osgoi peryglon cyffredin mewn adolygiadau gan gymheiriaid yn amhrisiadwy. Hwylusodd y sesiwn ryngweithiol gyfnewidiadau ymgysylltu ymhellach ag ymchwilwyr eraill ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd.

Roedd y prynhawn yn frith o gyfres o Sgyrsiau Cyflym, a chyfuniad bywiog o syniadau ymchwil a gyflwynwyd gan Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar o wahanol feysydd. Tynnodd y fforwm sylw at bwysigrwydd ysgogi syniadau newydd, sbarduno cydweithrediadau, a meithrin ymchwil ryngddisgyblaethol. Roedd y canllawiau adborth yn darparu cromlin ddysgu aruthrol i’r holl fynychwyr, ac roeddwn innau’n un ohonynt.

Roedd y digwyddiad trawsnewidiol hwn, yn ddiwrnod llawn ysgogiad deallusol, rhyngweithio buddiol, a chyfleoedd rhwydweithio deinamig.

Entrepreneuriaeth mewn Cytgord

Uchafbwynt personol allweddol y dydd oedd cystadleuaeth y poster. Dyfarnwyd fy Doethuriaeth i mi yn yn 2023, ac rwy’n Ymchwilydd ac yn Hyrwyddwr Dysgu Entrepreneuraidd yn Sefydliad Rhyngwladol Datblygu Entrepreneuriaeth Greadigol y Drindod Dewi Sant.  Teitl fy nghais i oedd “Fostering Sustainable Ventures and Future Skills Development in Wales: The Harmonious Entrepreneurship Competition.”   Cyflwynodd y cysyniad newydd o Entrepreneuriaeth mewn Cytgord, a ddatblygwyd gan Athro Ymarfer Anrhydeddus y Drindod Dewi Sant, yr Athro David A Kirby, a dangosais ei bwysigrwydd wrth ddatrys heriau cynaliadwyedd byd-eang a mwy o faterion cynaliadwyedd lleol. Mae’n seiliedig ar feddwl ar sail systemau, a’r egwyddorion mewn cytgord a gyflwynwyd gan y Brenin Siarl (fel Tywysog Cymru). Yn benodol, trafodais y gystadleuaeth allgyrsiol arloesol rhwng staff a myfyrwyr a gyflwynais, sy’n annog ei chyfranogwyr i fod yn entrepreneuraidd, sy’n meithrin ysbryd mentrus ynddynt, ac sy’n rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau iddynt i greu mentrau busnes cynaliadwy sy’n gwneud elw nad ydynt yn canolbwyntio ar foddhad cyfranddalwyr a “gwneud cymaint o arian â phosibl” yn unig.

Fe gynhaliom beta-brawf ar y gystadleuaeth yn 2022 rhwng myfyrwyr y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Malaya-Cymru, ac yn fy nghyflwyniad, dangosais sut mae’n hyrwyddo datrysiad entrepreneuraidd ar sail model busnes llinell waelod driphlyg lle mae elw, planed a phobl mewn cytgord. Pwysleisiodd y poster fod Cymru lewyrchus nid yn unig yn ymwneud â chynhyrchu cyfoeth, ond trwy wneud hynny’n foesegol, ac amddiffyn y blaned a’i thrigolion.

Er pleser i mi, enillodd fy nghyflwyniad poster y drydedd wobr, sy’n dyst i berthnasedd a photensial y cysyniad o entrepreneuriaeth mewn cytgord,  ac rwy’n credu, cyfraniad fy ymchwil i greu Cymru ffyniannus a chynaliadwy. Roedd yn anrhydedd llwyr cael cydnabyddiaeth gan gymuned Cymdeithas Ddysgedig Cymru, cydnabyddiaeth ddomestig o arwyddocâd fy ymchwil, a’i chyfraniad parhaus i rôl entrepreneuriaeth flaenllaw y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Ewropeaidd y Flwyddyn E Triphlyg ar gyfer 2022.

Felicity Healey-Benson

Pont i Yrfa mewn Ymchwil

Roedd Colocwiwm Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn fwy na dim ond arddangosfa ymchwil; roedd yn llwyfan ddeinamig i ymchwilwyr gyrfa cynnar rwydweithio, dysgu a chydweithio. Ehangodd y trafodaethau deniadol, beirniadaeth adeiladol, a chyfnewidiadau craff fy mhersbectif, gan ymhelaethu ar arwyddocâd ymchwil a chydweithio rhyngddisgyblaethol wrth fynd i’r afael â’r problemau mwyaf dybryd mae ein gwlad a’r byd yn eu hwynebu.

Yn y pen draw, credaf fod mentrau ymchwil fel y Gystadleuaeth Entrepreneuriaeth mewn Cytgord a fforymau fel y Colocwiwm yn allweddol i greu Cymru ffyniannus a chynaliadwy, yn enwedig yn yr economi wybodaeth fyd-eang fodern. Maen nhw’n chwarae rhan hanfodol wrth ysgogi twf deallusol a moesegol, tra’n rhoi llais i ddisgyblaethau amrywiol ar yr un pryd. Mae’r ymdrechion ar y cyd hyn yn arddangos cyfraniad arweiniol ymchwil yng Nghymru, ac yn grymuso ein hymchwilwyr gyrfa cynnar i ddyrchafu ein cyfraniad yn fyd-eang ymhellach.

I mi, roedd y Colocwiwm yn cynnig mwy na dim ond arddangosfa ymchwil, fodd bynnag.  Roedd yn wahoddiad i amgylchedd meithrin a oedd yn annog cydweithredu, rhwydweithio a thwf personol. Fel graddedig doethuriaeth diweddar, gwelais fod y Colocwiwm yn bont groeso rhwng fy nhaith academaidd a fy llwybr proffesiynol fel ymchwilydd sydd ar ddod, gan gadarnhau pwysigrwydd ymchwil wrth fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn. Mae hyn yn fy ysbrydoli ac yn fy arwain i ymdrechu gyda’n gilydd i greu dyfodol cytûn a ffyniannus.

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru, fel academi genedlaethol ar gyfer y Celfyddydau a’r Gwyddorau, yn darparu llwyfan rhagorol i Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar ymgysylltu â syniadau ymchwil arloesol ac ennill profiadau sy’n cefnogi eu datblygiad proffesiynol. Rwy’n ddiolchgar iawn am fod yn rhan o’r colocwiwm cyfoethogi hwn, ac rwy’n gyffrous am beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig i ni fel ymchwilwyr gyrfa gynnar yng Nghymru.  Gadewch i ni barhau i wthio ffiniau, creu cydweithrediadau newydd, ac ymdrechu i greu effaith trwy ein hymchwil.

Un meddwl terfynol. I ddyfynnu’r diweddar Athro Stephen Hawking CBE (1942-2018) “No one undertakes research in…with the intention of winning a prize. It is the joy of discovering something no one knew before”.

Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ymgorfforwyd gan Siarter Frenhinol Elusen Cofrestredig Rhif 1168622.

Registered office: The University Registry, King Edward VII Avenue, Cathays Park, Cardiff CF10 3NS

Website by: Waters

Our survey software is powered by SmartSurvey