Esbonio'r gymrodoriaeth
Mae cael eich ethol i'r Gymrodoriaeth yn arwydd cyhoeddus o ragoriaeth. Mae arbenigedd, profiad a chysylltiadau amlddisgyblaethol ein Cymrodyr yn adnodd ac yn gaffaeliad gwerthfawr i Gymru. Rydym yn ffynnu ar amrywiaeth ac yn annog enwebiadau gan bobl o bob cefndir, profiad, barn, cred a diwylliant. Os hoffech chi ddarganfod mwy am y Gymdeithas a'r Gymrodoriaeth, rydym yn cynnal digwyddiadau gwybodaeth a sesiynau ar-lein yn rheolaidd – ewch i'n tudalen digwyddiadau i weld beth sydd ar y gweill.