Ein Hanes

Cydnabod a dathlu ysgolheictod ac ymchwil Cymru

Mae gan Gymru draddodiad balch o gyflawni ym mhob agwedd o addysg, gwyddoniaeth, meddygaeth, y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol.

Mae damcaniaeth detholiad naturiol, datblygiad cynnar crisialeg, darganfod radicalau rhydd, dirywiad mesonau, dyfeisio’r meicroffon, y gell tanwydd a’r tele-argraffydd, ac yn fwy diweddar, ymchwil arloesol i fôn-gelloedd embryonig, i gyd yn rhan o draddodiad gwyddonol Cymru.

Mae Cymru hefyd yn gartref i ymchwil blaenllaw mewn nifer o feysydd yn y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol gyda gwaith arloesol o ran datblygu geiriadurol, cyfieithu a thechnolegau iaith, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf y DU, un o wobrau celf weledol mwyaf y byd (yr Artes Mundi), yr Eisteddfod Genedlaethol, ac awduron a beirdd nodedig fel RS Thomas, Dylan Thomas a Kate Roberts.

Dros y degawd diwethaf, mae Cymru wedi dangos twf sylweddol mewn nifer o feysydd yn y gwyddorau, gan gynnwys ynni adnewyddadwy, y gwyddorau amgylcheddol, cymdeithasol a biowyddorau. Mae ein diwydiant gwyddorau bywyd yn unig yn gartref i dros 300 o gwmnïau – gyda llawer yn cydweithio â sefydliadau academaidd – sy’n datblygu diagnosteg feddygol, profion cyffuriau tra sensitif, bioleg gyfrifiannol a thrin clefydau.

Mae prifysgolion Cymru’n rhan o sail addysgu ac ymchwil y DU sydd o safon fyd-eang, ac er ei fod yn gymharol fach, mae’r sector yn cynhyrchu cyfran anghymesur o uchel o erthyglau academaidd, cyfeirnodau byd-eang ac erthyglau uchel eu cyfeiriadau drwy’r byd. Mae cyfran Cymru o’r 1% uchaf o erthyglau cyfeiriedig dros ddwywaith yn uwch na’r hyn y gellid ei ddisgwyl ar sail ei chyfran o’r boblogaeth.

Ceir enghreifftiau o ymchwil rhagorol yn llawer o brifysgolion Cymru – o enillwyr Gwobr Nobel ymhlith ymchwilwyr gwyddorau bywyd Prifysgol Caerdydd, i’r Sefydliad Biolegol, Amgylcheddol a Gwyddorau Gwledig (IBERS) arobryn yn Aberystwyth; gwaith nodedig Bangor ym maes diogelu’r amgylchedd; optoelectroneg ym Mhrifysgol Glyndŵr a datblygiadau arloesol Abertawe mewn ymchwil a phrofi deunyddiau. Yn 2007, dyfarnwyd Gwobr Nobel i’r Athro Syr Martin Evans o Brifysgol Caerdydd, a chafodd y gwaith o adeiladu’r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr – y cyflymydd gronynnau mwyaf pwerus a adeiladwyd erioed yn Labordy Ffiseg Gronynnau Ewrop yn CERN,  ei oruchwylio gan yr Athro Lyn Evans, ffisegydd a dderbyniodd ei hyfforddiant ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae datblygiadau arloesol diweddar yng Nghymru yn rhychwantu meysydd amrywiol gan gynnwys, er enghraifft, biodechnoleg (e.e. dynodi biofarcwyr diagnostig ar gyfer canfod canser yr ysgyfaint yn gynnar), ynni (e.e. patent ar gyfer technoleg cell tanwydd ficrobaidd), meddygaeth (e.e. datblygu triniaeth ar gyfer clefydau niwroddirywiol), optoelectroneg (e.e. graffeg gyfrifiadurol y genhedlaeth nesaf yn seiliedig ar olrhain pelydrau a mapio ffotonau), ac amaethyddiaeth (e.e. dulliau ynysu stoc drig).

Mae Cymru’n gweithredu mewn amgylchedd cystadleuol byd-eang lle nad oes ymwybyddiaeth ryngwladol na chydnabyddiaeth deilwng o’i rhagoriaeth ysgolheigaidd ac ymchwil. Er mwyn gwireddu’r dyhead o gael ei chydnabod yn “wlad fach, glyfar”, mae angen i Gymru fod yn fwy hyderus a medrus wrth gyfathrebu ei gwerth cymdeithasol, addysgol ac economaidd, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd tyfu enw da cadarnhaol yn bwysig wrth ddenu’r myfyrwyr a’r staff gorau ac yn elfen allweddol wrth ffurfio cynghreiriau prifysgol rhyngwladol.

Sefydlwyd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, academi ysgolheigaidd genedlaethol hollgynhwysol gyntaf y wlad yn 2010 – tua 225 o flynyddoedd ar ôl sefydlu Cymdeithas Frenhinol Caeredin ac yn agos i 250 o flynyddoedd ar ôl sefydlu’r Gymdeithas Frenhinol yn Llundain. Mae’n gorff annibynnol, ymreolaethol, dwyieithog ar draws y disgyblaethau gyda chylch gorchwyl Cymru gyfan i ddathlu Ysgolheictod a gwasanaethu’r Genedl.

Mae’r Gymdeithas yn diwallu angen Cymru am gorff a all ddangos a dathlu rhagoriaeth a llwyddiannau ysgolheigaidd y wlad, hyrwyddo a lledaenu ffrwyth ei hymchwil a helpu i godi proffil y wlad ar draws y DU, Ewrop ac yn ehangach. Bydd y Gymdeithas yn ei gwneud yn bosibl i harneisio gallu deallusol y wlad yn briodol a’i hyrwyddo ar y llwyfan rhyngwladol. Ar yr un pryd bydd yn cynnig cyfle i bobl, gwleidyddion a gwneuthurwyr polisi fanteisio ar gyngor ysgolheigaidd a diduedd ar sail ymchwil ar amrywiaeth o faterion polisi cyhoeddus ym meysydd gwyddoniaeth, peirianneg a meddygaeth, a hefyd y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol.

Mae gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn agos i 400 o Gymrodyr; dynion a menywod nodedig o bob cangen o ddysg, gyda’r mwyafrif wedi’u lleoli yng Nghymru, a nifer sylweddol hefyd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Sefydlu a lansio

Roedd y cysyniad o sefydlu academi genedlaethol wedi bod yn destun diddordeb a thrafod yng Nghymru ers sawl blwyddyn cyn lansio’r Gymdeithas yn ffurfiol ym mis Mai 2010. Fodd bynnag dim ond yn 2008 y dechreuwyd datblygu’r cysyniad yn ymarferol, pan ddaeth tua ugain o ysgolheigion annibynnol yn cynrychioli’r prif ddisgyblaethau academaidd at ei gilydd i unioni’r diffyg academi ddysgedig genedlaethol yng Nghymru.

Ymffurfiodd y grŵp hwn yn Gyngor Cysgodol gan ddechrau’r broses o ganfod ysgolheigion blaenllaw eraill, gyda nifer eisoes wedi’u cydnabod yn Gymrodyr y Gymdeithas Frenhinol neu’r Academi Brydeinig. Gyda’i gilydd, ynghyd â’r grŵp gwreiddiol, daeth y rhain yn Gymrodyr Cychwynnol. Etholwyd Syr John Cadogan gan y Cymrodyr yn Llywydd Cyntaf y Gymdeithas ym mis Chwefror 2010 ac ar 18 Mai flwyddyn honno, gyda chymorth ariannol ac ymarferol gan Brifysgol Cymru a chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, sefydlwyd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn gyfreithiol, a’i hymgorffori fel cwmni cyfyngedig drwy warant (rhif y cwmni 7256948).

Wythnos yn ddiweddarach, ar 25 Mai 2010, lansiwyd y Gymdeithas yn ffurfiol yn ystod seremoni a gynhaliwyd yn Theatr Reardon Smith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Croesawyd y Cymrodyr Cychwynnol gan Lywydd y Gymdeithas cyn llofnodi’r Rhestr o Gymrodyr a chael eu cyflwyno i gynulleidfa frwd oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o gymdeithasau dysgedig eraill Prydain, sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a thu hwnt, a Llywodraeth Cymru.

Arbenigrwydd

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ymfalchïo ei bod yn elît, ond nid yw’n elitaidd. Mae’n cydnabod ac yn cynrychioli rhagoriaeth ac yn hyrwyddo ysgolheictod ac ymchwil, lle bynnag y bo, gan werthfawrogi’r dimensiwn cenedlaethol a byd-eang.

Mae gennym gyfrifoldeb i helpu i adeiladu gallu academyddion, ymarferwyr a gwneuthurwyr polisi yn eu disgyblaethau, a chydweithio gyda chymdeithasau a chyrff proffesiynol eraill.

Yn wahanol i’r Gymdeithas Frenhinol neu’r Academi Brydeinig, rydym yn cynrychioli pob disgyblaeth ac yn darparu fforwm trawsddisgyblaethol ar gyfer rhannu a thrafod gwybodaeth a sicrhau ei bod ar gael i sectorau eraill gan gynnwys ysgolion, y cyhoedd a gwneuthurwyr polisi.

Mae cyfoethogi ôl troed y Gymdeithas a sicrhau presenoldeb ar draws Cymru’n hanfodol, er mwyn i’r Gymdeithas ei sefydlu ei hun fel academi genedlaethol gyntaf Cymru. Mae’n bwysig hefyd fod y Gymdeithas yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac astudiaethau Cymru.

Mae Cymru wedi datblygu’n genedl fwy hyderus er 1998. Mae’n briodol fod hyn yn cael ei adlewyrchu gyda gwell gwerthfawrogiad o ansawdd ein hysgolheictod a llwyddiannau ein prifysgolion, ond mae angen i ni fod yn fwy hyderus a phendant wrth hyrwyddo’r sector yng Nghymru, a hynny fel rhan o frand AU y DU.

Llwyddiannau er 2010

Er ei bod yn sefydliad cymharol newydd, mae’r Gymdeithas eisoes wedi mwynhau llwyddiant sylweddol.

Mewn cyfnod cymharol fyr, mae’r Gymdeithas wedi datblygu’n sefydliad sylweddol uchel ei barch ag iddo ran bwysig ym mywyd deallusol a chyhoeddus y wlad. Mae wedi derbyn cydnabyddiaeth yn sectorau addysg uwch a llywodraethol Cymru. Sicrhawyd cydsyniad Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru, i wasanaethu fel Noddwr Brenhinol y Gymdeithas ac yn 2015 dyfarnwyd iddi ei Siarter Brenhinol ei hun.

Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd. Mae’r Gymdeithas yn harneisio rhagoriaeth y Gymrodoriaeth gyda’r nod clir o hybu ymwybyddiaeth o’r modd y mae’r gwyddorau a’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol o fudd i gymdeithas. Dros y blynyddoedd cyntaf hyn, mae’r Gymdeithas wedi cynnal rhaglen effeithiol a chyffrous o weithgareddau sydd wedi bod o fudd i ysgolheictod Cymru a bywyd Cymru’n gyffredinol.

Yn gynyddol mae’r Gymdeithas yn dod yn ffynhonnell o sylwadau arbenigol ar faterion pwysig sy’n berthnasol i fywyd cyhoeddus Cymru. Mewn cydnabyddiaeth o’r gwerth hwn, mae’r Gymdeithas bellach wedi sicrhau cefnogaeth gan y mwyafrif o Brifysgolion Cymru ac wedi dechrau ymgysylltu’n gynhyrchiol gyda Llywodraeth Cymru a gydag academïau cenedlaethol eraill yn y DU ac yn Ewrop.

Mae hanes cynnar y Gymdeithas yn cael ei ddisgrifio’n fanwl yn yr e-lyfr canlynol:

Gellir dod o hyd i fanylion am ein cenhadaeth a’n strategaeth bresennol yma.

Noddwr Brenhinol

Yn Ebrill 2014, daeth Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru’n Noddwr Brenhinol y Gymdeithas.