Bydd y Rhaglen derfynol ar gyfer y Colocwiwm yn cael ei chyhoeddi cyn y digwyddiad.
10:00 Cyfarfod Llawn Agoriadol
Geiriau agoriadol – Yr Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Croeso i Brifysgol Abertawe
Prif siaradwr: Yr Athro Uzo Iwobi, OBE Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Cyngor Hil Cymru
‘Hybu gwrth-hiliaeth mewn sefydliadau yng Nghymru’
Mae creu amgylchedd ymchwil sy’n gefnogol ac yn gynhyrchiol i bawb yn allweddol i ragoriaeth. Mae gan Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar rôl ganolog mewn hyrwyddo newid, a cheisio creu gweithle sy’n gynhwysol ac yn weithredol, yn wrth-hiliol. Bydd yr Athro Iwobi yn ymchwilio i’r camau tuag at adeiladu sefydliad gwrth-hiliol yng Nghymru, a’r heriau sydd angen eu goresgyn.
11.00 Sesiwn A:
Gweithdy – Adolygiad gan Gymheiriaid: Pam a Sut
Bydd yr Athro Simon Hands a Dr Shareena Hamzah-Osbourne yn hwyluso’r sesiwn ymarferol hon, i archwilio pam mae bod yn adolygydd cymheiriaid yn elfen hanfodol o ddatblygiad proffesiynol, ei bwysigrwydd yn y broses gyhoeddi, a beth i’w ddisgwyl fel adolygydd. Byddan yn trafod arferion gorau ar gyfer ysgrifennu adolygiadau effeithiol gan gymheiriaid hefyd, gan gynnwys sut i roi adborth adeiladol ac osgoi peryglon cyffredin.
Sesiwn B:
Sesiwn Rhwydweithio Cyflym? – Wedi’ hwyluso gan Dr Amy Sanders
Dewch i gwrdd ag Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar eraill a chlywed am eu gwaith, tra’n ymarfer eich sgiliau rhwydweithio yn yr amgylchedd hwyliog a diogel hwn.
12.30 Egwyl i gael cinio – Cyflwyniadau Poster
3.30 Edrych yn ôl ar y diwrnod – Sesiwn Adborth
4.15 Sylwadau cau
Bydd lle tawel ar gael i fyfyrio ac i’r rhai sydd angen seibiant byr o weithgareddau drwy gydol y dydd.
Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ymgorfforwyd gan Siarter Frenhinol Elusen Cofrestredig Rhif 1168622.
Registered office: The University Registry, King Edward VII Avenue, Cathays Park, Cardiff CF10 3NS
Website by: Waters
Our survey software is powered by SmartSurvey