Crynodebau - Sgwrsiau Fflach

System Penderfynu ar Dirweddau ar gyfer Rheoli Tir Glas Cynaliadwy Trwy Offer Modelu Gofodol

Gallai newidiadau i’r hinsawdd newid amaethyddiaeth yr ucheldir yn sylweddol. Mae ardaloedd mwy helaeth yn Ewrop wedi cael eu dosbarthu fel rhai ymylol, lle mae’r gost o gynhyrchu cnydau âr yn uchel. Mae potensial sylweddol i wella cynhyrchiant amaethyddol, a gall glaswelltiroedd chwarae rhan fawr yn nodau carbon sero net ffermio trwy reoli cynaliadwy. Ar gyfer glaswelltau lluosflwydd fel cnydau bio-ynni, mae angen datblygu gwell offer penderfynu ar dirwedd, sy’n cadw diogelwch bioamrywiaeth a bwyd mewn golwg. Gall system penderfynu ar dirwedd gefnogi amrywiaethu defnydd tir o fewn senarios hinsawdd presennol ac yn y dyfodol. Mae’r model cnwd MiscanFOR sy’n seiliedig ar brosesau yn rhedeg ar raddfa meysydd i raddnodi a gwerthuso’r model ac i amcangyfrif storio carbon net a chynnyrch deunydd sych o ran rywogaethau cnydau allweddol yng Nghymru. Yna, cafodd y model graddnodi ei redeg ar gydraniad o 1 km² ar gyfer Cymru gyfan gan ddefnyddio data tywydd a phridd UKCP18 i ragweld cynnyrch deunydd sych sy’n dangos ardaloedd addas posibl ar gyfer pob cnwd. Cafodd ardaloedd dynodedig ac ardaloedd o dan ddefnydd tir anamaethyddol eu hidlo allan o’r dadansoddiad. Gweithredwyd dull systemau wrth wneud penderfyniadau ynghylch defnydd tir ar raddfa ranbarthol.

Mae’r system yn datgelu bod miscanthus a helyg fel cnydau bio-ynni yn addas ar gyfer ardaloedd ucheldirol ac wedi’u hymyleiddio, a gallent chwarae rhan bwysig wrth liniaru allyriadau nwyon tŷ gwydr a brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Bydd astudiaethau pellach gyda senarios yn y dyfodol yn defnyddio modelu gofodol, yn helpu i ddatblygu strategaethau addasu ac argymhellion ar gyfer cnydau amgen a ffermio sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd. Rydym wedi ceisio mynd i’r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd gan ddefnyddio offer modelu gofodol a rheoli glaswelltir cynaliadwy a chefnogi gwneud penderfyniadau ynghylch defnydd tir sy’n hwyluso penderfyniadau ar sail tystiolaeth trwy gydweithio ar ymchwil gyda llunwyr polisi, a phartneriaid diwydiant a sefydliadau ymchwil, a nodi mannau problemus ar gyfer datblygu neu leoli bio-ynni.

Dr Muhammad Naveed Arshad, Prifysgol Aberystwyth

Holi Rhagnodi Cymdeithasol

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yw mynd i’r afael â llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae rhagnodi cymdeithasol wedi dod i’r amlwg fel adnodd hanfodol i gyflawni’r nod hwn drwyddo.  Fel term cyffredinol, mae rhagnodi cymdeithasol yn darparu llwybrau amrywiol i gymdeithas, sy’n addo cefnogi, grymuso a galluogi dinasyddion i gymryd rheolaeth o’u hiechyd a’u lles eu hunain, ac i wireddu manteision hirdymor drwy ddatblygu hunanbwrpas a gwneud cysylltiadau o fewn cymunedau.

Hwylusodd yr astudiaeth ymchwil archwiliadol hon gyfres o bedwar gweithdy ymchwil, a oedd yn ceisio archwilio rhagnodi cymdeithasol a gwyrdd (seiliedig ar natur) yn gysyniadol, er mwyn deall y lle sydd ganddo yng Nghymru,

a thrafod y modelau a’r mentrau amrywiol sy’n dod o dan ei ymbarél. Cynrychiolwyd amrywiaeth o sefydliadau’r trydydd sector, gweithwyr cyswllt rhagnodi cymdeithasol, cydlynwyr ardaloedd lleol, meddygon teulu ac academyddion, gan gynnwys gwirfoddolwyr sy’n cael mynediad at ragnodi gwyrdd yng Nghymru. Bydd canfyddiadau’n cael eu rhannu, gan gynnwys delweddu trafodaethau gwirfoddolwyr.

Mae dealltwriaeth fanwl o gydrannau ym maes rhagnodi cymdeithasol a gwyrdd yn hanfodol i sicrhau bod naratif, mentrau ac ymdrechion llawer yn cael eu gwireddu o ran cefnogi cenedl Cymru i gyflawni ei hegwyddorion datblygu cynaliadwy. Mae deall y manteision a’r heriau i’r holl randdeiliaid o werth wrth gyflawni Cymru lewyrchus.  Yn yr un modd, bydd canolbwyntio ar sefydlu, datblygu a chefnogi cynnal a chadw tymor hir  ar brosiectau rhagnodi gwyrdd yn cefnogi’r nodau tymor hir sy’n gysylltiedig â chymunedau iachach a mwy cynaliadwy, yn nhermau adnoddau cymdeithasol a seicolegol ond hefyd, yn nhermau enillion amgylcheddol.

Dr Menna Brown, Prifysgol Abertawe

Dyfodol Gwaith: Mynd i’r Afael ag Anghenion Dynion Ifanc ar y Cyrion

Credir y bydd datblygiadau mewn technoleg yn creu newidiadau mewn cyflogaeth yn y dyfodol. Rhagwelir y bydd y newidiadau hyn yn cynnwys gostyngiad mewn gwaith llaw (Frey and Osborne, 2017), ac y bydd yn effeithio’n negyddol ar bobl ifanc sydd heb lawer o sgiliau a heb lawer o addysg, yn enwedig dynion ifanc (Hawksworth et al., 2018). Mewn ymateb i’r effaith bosibl hon, mae polisi Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes i uwchsgilio unigolion. Ac eto, mae hyn yn codi’r cwestiwn o sut rydych chi’n uwchsgilio’r rhai y mae eu cysylltiad ag addysg wedi dadrithio.

Os na fyddwn yn mynd i’r afael â’r mater hwn, efallai y bydd rhai dynion ifanc ddim yn gallu cael gwaith yn y dyfodol. Felly, ni ellir cyflawni nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru o greu Cymru lewyrchus.

Mae fy ymchwil ansoddol, sydd wedi’i leoli yng nghymoedd De Cymru, yn ceisio cyfrannu at y ddealltwriaeth o faterion o’r fath. Mae’n canolbwyntio ar brofiadau addysgol, dyheadau cyflogaeth a hunaniaeth wrywaidd grŵp o ddynion ifanc wedi’u hymyleiddio, ac yn ystyried effaith newidiadau mewn cyflogaeth a ragwelir yn y dyfodol. Mae’r is-grŵp hwn o ddynion ifanc yn aml yn gysylltiedig â hunaniaethau macho, dyheadau gwrth-ddysgu a gwaith llaw. Fodd bynnag, nododd fy nghanfyddiadau ymchwil newidiadau ymddygiadol, gan gynnwys ymrwymiad rhannol i ddysgu, tystiolaeth o sgiliau cymdeithasol ac emosiynol (Gater, 2023) y rhagwelir y bydd galw amdanynt gyda newidiadau mewn gwaith yn y dyfodol, a rhywfaint o wyro oddi wrth gyfeiriadedd  at gyflogaeth llaw. Mae’r canfyddiadau hyn yn ein galluogi i ystyried y posibilrwydd bod safbwyntiau ac ymddygiadau dynion ifanc wedi’u hymyleiddio heddiw yn newid, ac yn creu ymyriadau wedi’u targedu i’w gwneud yn addas ar gyfer newid technolegol yn y dyfodol, a chyflawni’r nod o greu Cymru lewyrchus.

Dr Richard Gater, Prifysgol Caerdydd

Cyfieithu ar y Pryd yn Llysoedd Barn Cymru: Hwb i Hawliau Iaith Unigolion ac i Statws yr Iaith Gymraeg fel Iaith Gyfreithiol

Yng Nghymru mae gan unrhyw un yr hawl i ddewis siarad Cymraeg yn y llys barn. Golygai hyn y bydd cyfieithydd ar y pryd ar waith er mwyn i’r siaradwyr Saesneg yn y llys medru deall beth mae’r siaradwr Cymraeg yn ei ddweud, gan gyfieithu’r hyn a ddywedir ar lafar mewn amser real. Mae’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yn arena’r llys, beth bynnag ydy safon Saesneg llafar y tyst, yn amddiffyn hawliau iaith yr unigolyn a hefyd yn dyrchafu statws yr iaith Gymraeg a chyfrannu at hunaniaeth gyfreithiol yr iaith. Dengys ymchwil mewn parau iaith eraill, megis y Sbaeneg a’r Saesneg, bod cyfieithwyr yn aml yn hepgor petrusiadau wrth gyfieithu. Geiriau neu ymadroddion nad ydynt yn ychwanegu at ystyr datganiad ond yn hytrach sy’n cwtogi sicrwydd, pendantrwydd neu eangder gweddill y datganiad megis ‘Dwi’n meddwl’ ‘Chi mod?’ ‘Am wn i’ a ‘Wel’. Diben yr ymchwil cyfredol ydy ymchwilio i’r gwahaniaeth y mae cynnwys neu hepgor petrusiadau wrth gyfieithu yn effeithio ar ganfyddiad gwrandawyr o’r siaradwr. Mae’r par ieithoedd Cymraeg a Saesneg wedi ei tan-ymchwylio yng nghyd-destun cyfieithu ar y pryd yn y llys ac felly mae unrhyw ymchwil i’r par hon yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o sefyllfa cyfieithu ar y pryd yma yng Nghymru. Y gobaith ydy medr ymchwil o’r fath llywio ein
dealltwriaeth o arwyddocâd newidiadau gan y cyfieithydd ar y pryd ac o hynny sicrhau bod cyfieithwyr ar y pryd yn derbyn yr amodau gwaith gorau llwyddo yn arena’r llys.

Non Humprhies, Prifysgol Aberwystwyth

Ydy Ysgolion Cynradd Cymru yn Cael eu Diogelu Rhag yr Haul? Canlyniadau Arolwg Cenedlaethol: Cwmpasu Tirwedd Polisïau Diogelu Rhag Haul yng Nghymru

Cefndir
Canser y croen yw canser mwyaf cyffredin Cymru, ond mae modd ei atal hefyd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell cyflwyno rhaglenni diogelwch rhag yr haul mewn ysgolion i leihau canser y croen, ond nid yw’r rhain yn orfodol yng Nghymru. Gydag atal yn elfen allweddol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, fe wnaethom geisio deall rôl ysgolion cynradd Cymru mewn atal canser y croen.

Nodau
Deall a oes gan ysgolion bolisïau diogelwch rhag yr haul; asesu p’un a yw mabwysiadu polisi’n amrywio yn ôl nodweddion yr ysgol; a nodi pa gymorth sydd ei angen ar ysgolion.

Dulliau
Dosbarthwyd arolwg ar-lein, dwyieithog, amlddewis i bob un o’r 1241 o ysgolion cynradd yng Nghymru.  Gofynnodd yr arolwg iddynt am eu harferion diogelwch rhag yr haul ac a oedd ganddynt bolisi diogelwch haul ffurfiol ar waith.  

Canlyniadau
Mae canfyddiadau’r arolwg yn cael eu hadolygu gan gymheiriaid ar hyn o bryd, ond cafwyd ymatebion gan gynrychiolaeth eang o ysgolion Cymraeg a Saesneg o bob cwr o’r wlad.

Casgliad
Bydd y cipolwg hwn ar dirwedd polisïau diogelwch yr haul yn ysgolion Cymru yn darparu sail y gellir gwerthuso cynhwysedd, effeithiolrwydd a gweithredu polisïau diogelwch yr haul ymhellach i sicrhau Cymru iachach.

Dr Julie Peconi, Prifysgol Abertawe

Therapi Anifeiliaid Anwes yn Defnyddio Cŵn i Reoli Straen Mewn Myfyrwyr Prifysgol

Mae defnyddio anifeiliaid anwes fel therapi cyflenwol wedi bodoli yn hanesyddol, ac mae wedi cael ei gydnabod a’i gofnodi’n ffurfiol ers y 1960au. Ers cydnabod ei werth yn ffurfiol mewn rheoli trallod emosiynol unigolion, ymchwiliwyd i therapi anifeiliaid anwes fel ymyriad ar gyfer lleddfu straen, rheoli pryder, a chefnogi trawma. Adroddwyd hefyd am y manteision o ran iechyd corfforol, sef lleihau gorbwysedd sydd yn cael ei achosi gan straen a lefelau pwysedd gwaed wrth ymgysylltu ag anifeiliaid anwes. Mae tystiolaeth gynyddol o fanteision therapi anifeiliaid anwes wedi arwain at unigolion yn cael eu cefnogi gan gŵn therapi i barhau i weithredu’n annibynnol. Mae straen yn enwadur cyffredin mewn bywyd, ond mae’n amlwg ymhlith myfyrwyr prifysgol sy’n anelu at addysg uwch tra’n rheoli bywyd fel oedolyn. Ymchwiliodd yr astudiaeth hon i’r profiad o ddefnyddio cŵn therapi mewn sesiynau ar gyfer myfyrwyr prifysgol. Mae gan y brifysgol hon yng Nghymru gyfran uwch o fyfyrwyr o gefndir ehangu cyfranogiad, a ddangosodd amrywiaeth o straenachosyddion sy’n effeithio ar y boblogaeth astudio.

Gwahoddwyd myfyrwyr oedd wedi cofrestru yn y brifysgol i’r astudiaeth hon, a chymerodd y rhai a roddodd ganiatâd gwybodus ran. Defnyddiodd yr astudiaeth gynllun o fewn pynciau, gyda’r cyfranogwyr yn darparu mesurau ailadroddus ar eu lles a’u straen canfyddedig cyn ac ar ôl mynychu sesiwn therapi anifeiliaid anwes. Cynigiwyd y sesiwn gyda chŵn therapi mewn grwpiau o hyd at bump am 15 -20 munud.

Ar hyn o bryd, mae’r broses o gasglu data yn ei gamau olaf. Byddai canfyddiadau’r astudiaeth hon yn cyfrannu at ddeall ffyrdd amgen o gefnogi myfyrwyr prifysgolion i reoli eu lefelau straen, a gallu perfformio hyd orau eu gallu.

Dr Shubha Sreenivas, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam