Canllawiau brandio

Ar y dudalen hon fe welwch ein canllawiau brandio, ein logo ar gyfer defnydd hyrwyddo a'r wybodaeth gywir ddiweddaraf am y Gymdeithas.

Ein manylion cyswllt yw:
cddc@cymru.ac.uk / lsw@wales.ac.uk
02920 376954
Trydar: @LSWalesCDdCymru
Facebook: fb.com/lswcddc 

Rydym ni’n eich annog i’n tagio mewn unrhyw hyrwyddo rydych chi’n ei wneud ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn i ni allu ail-drydar neu ei rannu gyda’n rhwydwaith.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r wybodaeth isod wrth hyrwyddo eich digwyddiad. Wrth drafod gwaith y Gymdeithas, defnyddiwch y broliant a ddarperir a chadwch at ein canllawiau brandio ar gyfer y logo atodedig.

Broliant dwyieithog safonol:

Cymraeg:
Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw academi genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau a’r gwyddorau

Daw ein Cymrodoriaeth ag arbenigwyr at ei gilydd o bob maes academaidd a thu hwnt. Defnyddiwn yr wybodaeth gyfunol hon i hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli dysg a darparu cyngor polisi annibynnol. 

Darllenwch fwy am ein gwaith: cymdeithasddysgedig.cymru/


Saesneg:
The Learned Society of Wales is the national academy for arts and sciences.

Our Fellowship brings together experts from across all academic fields and beyond. We use this collective knowledge to promote research, inspire learning, and provide independent policy advice.

To learn more about our work see: learnedsociety.wales/

Logo

Ceir dolenni at ein logo isod. Peidiwch â newid lliw, troi nac ymestyn ein logo. Os ydych am newid maint y logo dylai gadw’r un gyfrannedd â’r delweddau isod a dylai cwlwm y Gymdeithas fod o leiaf 10mm x 10mm ar bosteri bob amser.

Os oes angen y logo mewn unrhyw fformat arall neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â’n Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu Ruby