Dr Huw Walters

Etholwyd: 2023

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Llenyddiaeth Gymraeg

Wedi ymddeol, gynt Bennaeth Uned Llyfryddiaeth Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae Dr. Walters yn ffigur amlwg ym meysydd llenyddiaeth, hanes a diwylliant Cymru, gyda ffocws arbennig ar ddiwylliant Cymreig yng nghymoedd De Cymru ar ôl y Chwyldro Diwydiannol. Fe’i cydnabyddir yn rhyngwladol am ei lyfryddiaeth dwy gyfrol o gyfnodolion Cymreig 1735-1900. Y mae hefyd yn arbenigwr mewn gweisg cyfnodolion, yng Nghymru a thros Fôr Iwerydd.