Cefnogi’r Gymdeithas
Rhodd Cymorth
Trwy lenwi ein ffurflen rhodd cymorth, bydd eich rhodd yn werth 25% yn ychwanegol heb gostio dim mwy i chi.
Os ydych yn drethdalwr yn y DU, ac yn cytuno i’r broses Rhodd Cymorth , bydd y Gymdeithas yn derbyn 25% ar ben eich rhodd.
Er enghraifft, os ydych yn drethdalwr ac yn cyfrannu £100 mewn blwyddyn dreth benodol, gall y Gymdeithas hawlio £25 o Gymorth Rhodd yn ôl gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi heb i hynny gostio dim mwy i chi. Mae hyn yn cynyddu gwerth eich rhodd i £125.
Os ydych yn cytuno i Gymorth Rhodd ar y swm rydych yn ei roi, byddwn hefyd yn gallu hawlio Rhodd Cymorth ar unrhyw roddion eraill a wnaethoch yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf.