Y Broses Ethol Cymrodyr

Mae ein Cymrodoriaeth yn gyfrifol am enwebu ac ystyried darpar Gymrodyr bob blwyddyn. Bydd unigolyn â diddordeb (enwebai) yn gweithio gyda Chymrawd i gyflwyno ei enwebiad - a gaiff ei ystyried wedyn gan bwyllgor craffu o gymheiriaid. Rydym yn parhau â'n gwaith i wella amrywiaeth y Gymrodoriaeth fel blaenoriaeth allweddol. Rydym yn gweithio gyda'n Cymrodyr ac yn eu cefnogi i gryfhau ac amrywio ein cymrodoriaeth, sydd eisoes yn nodedig. Gwnawn hynny drwy enwebu amrywiaeth eang o unigolion, gyda phwyslais arbennig ar fenywod a phobl o gefndir lleiafrifol ethnig, yr ydym yn cydnabod eu bod wedi'u tangynrychioli i raddau anghymesur yn ein Cymrodoriaeth.