Yr Athro Michael Charlton

Etholwyd: 2011

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Ffiseg, Ffiseg - Atomig

Athro Ffiseg Arbrofol, Adran Ffiseg, Prifysgol Abertawe

Astudiodd Mike Ffiseg yng Ngholeg y Brifysgol Llundain (UCL) gan gwblhau PhD yno ar ryngweithiadau positronau ynni isel yn 1980. Sicrhaodd Gymrodoriaeth Ôl-Ddoethurol y Cyngor Ymchwil Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn 1982 ac yna Gymrodoriaeth Ymchwil Prifysgol y Gymdeithas Frenhinol yn 1983, cyn dod yn Ddarllenydd mewn Ffiseg yn UCL yn 1991. Yn 1999 symudodd i Gadair ym Mhrifysgol Abertawe. Yn Abertawe bu’n Bennaeth yr Adran Ffiseg (2001-2007 a 2012-2016) ac Ysgol y Gwyddorau Ffisegol (2005-2007). Bu’n Uwch Gymrawd Ymchwil y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol o 2007-12.

Mae Mike wedi gwneud llawer o gyfraniadau sylweddol i astudiaeth o systemau atomig sy’n cynnwys antironynnau ac yn benodol antihydrogen (gwrthran yr atom hydrogen cyfarwydd), y cyflwr rhwym positron-antiproton. Roedd yn aelod sefydlu o brosiect cydweithredol ATHENA a gynhyrchodd yr antiatom am y tro cyntaf (2002) dan amodau rheoledig yn Labordy Ffiseg Gronynnau Ewrop, CERN. Yn fwy diweddar, gyda’r grwp ALPHA, mae ei dîm wedi arwain mewn mentrau sydd wedi arwain at drapio’r antiatom, ac mewn astudiaethau o rai o’i nodweddion sbectrosgopig pwysicaf. Mae wedi cyhoeddi dros 200 o erthyglau ymchwil a monograff yn disgrifio ei waith. Cyd-dderbyniodd Wobr James Dawson Cymdeithas Ffisegol America yn 2011 am Ragoriaeth mewn Ymchwil Ffiseg Plasma am waith a arweiniodd at drapio antihydrogen.

Mae Mike wedi traddodi nifer o ddarlithoedd a enwyd, yn cynnwys darlithoedd Rochester (Durham, 2010), Fröhlich (Lerpwl, 2008) a Larmor (Queen’s, Belfast, 2007). Mae’n Gymrawd y Sefydliad Ffiseg ac fe’i hetholwyd yn Gymrawd Cychwynnol Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2011. Ar hyn o bryd mae’n aelod o Gyngor y Gymdeithas Ddysgedig, ac fe’i hetholwyd yn Is-Lywydd (Gwyddoniaeth, Technoleg a Mathemateg) ym mis Mai 2018.