Dr Rhian Powell

Dr Rhian Powell yw ein Swyddog Rhaglenni newydd ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr. Mae gan Rhian, a ymunodd â ni o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd, Ddoethuriaeth mewn ymchwil gymdeithasol, a phrofiad o weithio fel ymchwilydd gyrfa gynnar (ECR). Mae ganddi brofiad hefyd o weithio yn y Senedd, ar ôl cwblhau lleoliad ymchwil yno yn ystod ei hastudiaethau doethurol. Bydd yn gweithio gyda Dr Barbara Ibinarriaga Soltero i ddatblygu ein Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar.