Fiona Dakin

Fiona yw’r Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae hi’n gyfrifol am arwain ein gwaith ar ddarparu cyngor ar bolisïau a materion cyhoeddus, a thrwy hynny, cyflawni un o’n pedair blaenoriaeth strategol allweddol: ‘Cyfrannu at atebion polisi mawr drwy ddarparu cyngor annibynnol a hwyluso cyfnewid gwybodaeth’. Mae Fiona yn gyfrifol am ein polisi iaith Gymraeg hefyd.

Ymunodd Fiona â’r Gymdeithas yn 2023 o Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), lle bu’n gyfrifol am ymgysylltu allanol, yn enwedig gyda llunwyr polisi cenedlaethol, rhanbarthol a dinesig. Yn ystod ei chyfnod yn y rôl hon, arweiniodd nifer o fentrau yn arddangos y datblygiadau oedd wedi cael eu gwneud drwy gynnal ymchwil yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau mewn meysydd polisi blaenoriaeth allweddol, fel newid hinsawdd, mynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd, a datblygu technolegau newydd. Bu hefyd yn arwain rhaglen gytbwys o ymgysylltu â Sefydliadau Addysg Uwch, gan gwmpasu pob rhanbarth o’r DU, a chanolbwyntio ar sefydliadau oedd yn hanesyddol, wedi derbyn cyfran lai o gyllid.

Cyn gweithio yn AHRC, bu Fiona yn gweithio ym maes llywodraethu ac ymgysylltu ag aelodau yn y Sefydliad Menywod mewn Gwyddoniaeth ar gyfer y Byd sy’n Datblygu, rhaglen UNESCO. Mae hi’n angerddol am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac mae hi wedi hyrwyddo hyn mewn ymchwil drwy gydol ei gyrfa.

Astudiodd Fiona Ffrangeg a Saesneg ym Mhrifysgol Caerwysg, gan fynd ymlaen i gwblhau gradd Meistr Astudiaethau mewn Ffrangeg yng Ngholeg Somerville, Rhydychen, a PhD ar ddarluniau o farddoniaeth Ffrangeg o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Mhrifysgol St Andrews.

Mae Fiona yn dod o Gaerdydd yn wreiddiol, ac mae’n hi’n ailafael a’i hastudiaeth o’r Gymraeg (ei phedwaredd iaith) gyda gwersi wythnosol ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ei hamser hamdden, mae hi’n hoff o ganu mewn corau; mae hi’n gyn-aelod o Gôr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, ac mae hi bellach yn canu gyda Chôr Handful Chamber.