Fiona Gaskell

Fiona yw Swyddog Cymrodoriaeth y Gymdeithas, ac mae hi’n rhedeg Cylch Etholiad Cymrodoriaeth y Gymdeithas. Mae hyn yn delio â’r broses etholiadol (cynhyrchu pecynnau enwebu; dyrchafiad i enwebeion posibl; cael geirdaon; craffu gan y Cymrodyr presennol; pleidlais y Cymrodyr) a chynefino Cymrodyr newydd. Mae hi’n goruchwylio’r data sydd yn cael eu cadw gan y Gymdeithas ar Gymrodyr, ac mae hi’n defnyddio hyn i gefnogi mentrau dan arweiniad y Pwyllgor Cymrodoriaeth a’r tîm staff. Mae hi’n gyfrifol hefyd, am ddyfarnu medalau’r Gymdeithas bob blwyddyn.

Ymunodd Fiona â’r Gymdeithas ym mis Mawrth 2019 ar ôl seibiant o ddwy flynedd yn dilyn gyrfa hir ym maes TG (sy’n cyfrannu rhywfaint at esbonio ei hoffter o daenlenni, ystadegau, a gwella prosesau busnes).

Mae Fiona yn gweithio’n rhan-amser, ac yn mwynhau gweithgareddau mor amrywiol â dringo, nofio gwyllt a Dawnsio Gwlad yr Alban.