Dr Haydeé Martínez-Zavala

Mae Haydeé yn cefnogi tîm Cymdeithas Ddysgedig Cymru, y Prif Swyddog Gweithredol a bwrdd yr Ymddiriedolwyr. O gyllid i ddigwyddiadau, mae hi’n helpu i gyflawni strategaeth y Gymdeithas sy’n cynnwys y Gymrodoriaeth, y rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar, a rhanddeiliaid. Mae hi hefyd yn gyfrifol am reoli gwobrau medalau 2023 y Gymdeithas.

Ymunodd Haydeé â’r Gymdeithas ar ôl cwblhau ei PhD mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2022. Mae ei chefndir mewn Peirianneg Gemegol ac Amgylcheddol, ac mae ganddi brofiad rhyngwladol o weithio yn y sector Addysg Uwch, ar ôl gweithio yn y DU, Mecsico a’r Almaen.

Mae Haydeé yn angerddol iawn am yr amgylchedd, addysgu a cherddoriaeth. Mae hi’n mwynhau teithio ac archwilio safleoedd naturiol a hanesyddol. Ar hyn o bryd, mae hi’n dysgu Cymraeg fel ei thrydedd iaith