Lisa Stillman
Swyddog Cyllid
Lisa yw ein Swyddog Cyllid, ac ymunodd ym mis Tachwedd 2023. Mae ganddi dros 15 mlynedd o brofiad o weithio mewn swyddi cyllid i gwmnïau llwyddiannus mawr, ac mae ganddi wybodaeth sylweddol am systemau a phrosesau a fydd yn helpu’r Gymdeithas.
Symudodd Lisa i Gymru yn 2021. Mae hi’n angerddol am iechyd, ffitrwydd a lles, ac yn mwynhau’r awyr agored, ac mae hi wedi codi arian i elusennau drwy redeg mewn digwyddiadau 5k a 10k. Ei hobïau yw garddio, pobi a cherdded.
Erbyn hyn, mae hi’n bwriadu dysgu Cymraeg a dilyn cwrs mewn rhaglennu TG.
Ei dyddiau gwaith arferol yw dydd Llun-dydd Iau 8am – 4:30pm.