Yr Athro Agustin Valera-Medina
FHEA FLSW
Cyfarwyddwr, Sefydliad Arloesi Sero Net, Prifysgol Caerdydd
Mae’r Athro Valera-Medina wedi cymryd rhan fel Prif Ymchwilydd/Cyd-ymchwilydd mewn 30 o brosiectau diwydiannol. Mae wedi cyhoeddi 215 o bapurau (mynegai-h 34) ac wedi arwain cyfraniadau Caerdydd mewn 10 o brosiectau y bwriadwyd iddynt ddangos pŵer amonia mewn systemau thermol. Fel aelod o fyrddau gwyddonol amrywiol a phaneli diwydiannol mawr, mae wedi cefnogi friff polisi’r Gymdeithas Frenhinol yn gysylltiedig â´r defnydd o amonia fel fector ynni. Ef yw prif awdur y llyfr Techno-economic challenges of ammonia as energy vector.