Dr Aled Eirug

Etholwyd: 2024

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Addysg, Gwleidyddiaeth, Hanes, Newyddiaduraeth, Gwleidyddiaeth, Addysg, Hanes, Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Newyddiaduriaeth

Cadeirydd, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Fel Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru, Dr Eirug oedd y pennaeth golygyddol ar gyfer darllediadau o etholiadau’r DU ac Ewrop a Refferendwm 1997 ar draws tri chyfrwng yn Gymraeg a Saesneg. Hefyd, lluniodd bolisi iaith leiafrifol ar gyfer y BBC yng Ngogledd Iwerddon ac, yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, cynghorodd Swyddfa’r Llywydd ar wahanu’r Llywodraeth o’r corff seneddol.

Fel academydd, arweiniodd ymchwil i’r mudiad heddwch yng Nghymru, a chyfrannodd yn sylweddol at fywyd cyhoeddus fel cadeirydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru a’r Coleg Cymraeg.