Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol
Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Heneiddio a Dementia
Cyfarwyddwr – The Centre for Innovative Ageing, Prifysgol Abertawe.
Mae’r Athro Tales yn cynnig persbectif rhyngddisgyblaethol unigryw i’r ddealltwriaeth o ddementia. Mae hi’n arwain amryw o fentrau ymchwil o bwys sy’n canolbwyntio ar heneiddio a dementia, ac wedi mentora’r genhedlaeth nesaf o academyddion ac ymarferwyr yn y maes hwn. Drwy ei gwaith arloesol ar nam gwybyddol fasgwlar a dementia fasgwlar mae hi wedi gwneud cyfraniad gwreiddiol i’r maes, ac mae ei phrosiectau ar y cyd â gwyddonwyr clinigol a chymdeithasol wedi helpu i wella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia.