Yr Athro Andrew Lewis
SFHEA MISM FLSW
Athro Cyfansoddi, Prifysgol Bangor
Mae Andrew Lewis yn gyfansoddwr ac yn Athro Cyfansoddi. Mae a wnelo ei gerddoriaeth â materoldeb sain, ac yn aml bydd yn defnyddio technoleg i’w gwireddu a’i pherfformio. Mae ei gynnyrch yn amrywio rhwng cerddoriaeth ‘acwsmatig’ (a glywir ar amryw o seinyddion yn unig) a gweithiau cerddorfaol a siambr, sy’n aml yn cynnwys technoleg. Andrew yw sylfaenydd Electroacwstig CYMRU, sy’n hyrwyddo ac yn galluogi cyfansoddi a pherfformio cerddoriaeth electroacwstig ledled Cymru.