Yr Athro Andrew Thomas
DEng FIMechE FHEA FLSW
Athro a Phennaeth Ysgol Fusnes Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth
Mae Andrew Thomas yn Athro Rheoli Peirianneg ac ef yw Pennaeth Ysgol Fusnes Aberystwyth. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys peirianneg fforensig, rheoli peirianneg, strategaeth gweithgynhyrchu a rheoli gweithrediadau. Mae wedi cyhoeddi dros 220 o erthyglau ymchwil yn y meysydd hyn. Bu’n Brif Ymchwilydd ar nifer o brosiectau KTP, ERDF, EPSRC, EU FP7 a Horizon. Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Consortiwm Penaethiaid Gweithgynhyrchu a Pheirianneg y DU (COMEH) ac yn aelod o Gyngor yr Athrawon Peirianneg (EPC UK).