Yr Athro Andrew Westwell
FLSW
Athro Cemeg Feddyginiaethol ac Aelod Bwrdd Annibynnol (Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre), Prifysgol Caerdydd
Ffocws diddordebau ymchwil yr Athro Westwell yw darganfod cyffuriau cyn-glinigol sy’n targedu canser Mae gwaith i ddarganfod atalydd newydd Bcl3, mewn cydweithrediad â phartneriaid o’r diwydiant, wedi symud ymlaen at ddatblygiad cyn-glinigol uwch. Roedd ennill gwobr Arloesi mewn Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd (2016) yn gydnabyddiaeth o’r gwaith hwnnw. Mae ei gyflawniadau ymchwil wedi’u cofnodi mewn dros 170 o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion rhyngwladol, a phum cofnod patent rhyngwladol yn ystod ei yrfa.