Ann Dowling

Etholwyd: 2024

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol:

Mae’r Athro Fonesig Ann Dowling yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle enillodd ei PhD dan oruchwyliaeth yr Athro John Ffowcs-Williams FLSW. Mae’n Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol, Academi Frenhinol Peirianneg (Llywydd 2014-19), ac yn Aelod Tramor o Academïau Cenedlaethol Peirianneg UDA a Tsienia, ac Academi Wyddorau Ffrainc. Yn 2007, cafodd DBE am ei gwasanaethau i Wyddoniaeth ac fe’i penodwyd i’r ‘Urdd Teilyngdod’ gan y Frenhines Elizabeth II yn 2015.

Mae ei gwaith ymchwil byd-enwog yn galluogi pŵer a thrafnidiaeth, gan leihau difrod amgylcheddol a sŵn o dyrbinau gwynt, awyrennau a cheir. Yn esiampl flaenllaw i ferched ym myd peirianneg, mae’r Fonesig Ann wedi cael ei chynnwys yn rheolaidd ar restr y Sunday Times o 500 o unigolion mwyaf dylanwadol y DU.