Yr Athro Ann Parry Owen

Etholwyd: 2019

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Llenyddiaeth Gymraeg

Cymrawd Ymchwil ac Arweinydd Prosiect, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Mae’r Athro Ann Parry Owen yn arbenigo ar iaith, gramadeg a barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, yn arbennig rhwng 1100 a 1500. Dywed iddi gael ei hysbrydoli i fynd i’r maes hwn gan “ddiddordeb braidd yn obsesiynol mewn iaith a llenyddiaeth ganoloesol Gymraeg – a ddechreuodd pan enillais i docyn llyfr £9 ar gwis teledu Cymraeg pan oeddwn i’n 12 oed. Am ryw reswm fe wariais i’r tocyn ar bedair cyfrol: Pedeir Keinc y Mabinogi, Llawysgrif Hendregadredd, Canu Aneirin a Llyfr Gwyn Rhydderch. Yn ffodus, roedd fy athro Cymraeg gwych yn Ysgol Dinas Brân, Llangollen, Mr Gwynne Williams, yn fodlon eu darllen gyda fi – roeddwn i wedi fy machu!”

Am rhagor o wybodaeth, ewch i: cymdeithasddysgedig.cymru/proffil-cymrodyr-3-yr-athro-ann-parry-owen/